Adrodd am waith trwsio

Mae sicrhau bod eich cartref yn cael gofal da yn flaenoriaeth allweddol i ni, felly mae’n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i ni os bydd unrhyw beth yn mynd o’i le. Fel y landlord, ni sy’n gyfrifol am gyflawni rhai tasgau trwsio, ac rydych chi’n gyfrifol am rai ohonynt.

Adrodd am waith trwsio ar-lein >

WWH staff member smiling whilst talking on a headset
WWH staff member smiling whilst talking on a headset

0800 052 2526

Adrodd am waith trwsio dros y ffôn

Os ydych chi’n ffonio 0800 052 2526 i adrodd am waith trwsio. Mae ein llinell ffôn er mwyn adrodd am waith trwsio ar agor o 8:00am i 5:00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Rhoddir sylw i’r holl waith trwsio nad yw’n waith trwsio brys yn ystod yr oriau hyn.

Person repairing pipes using wrench
Pipe repair

Gwasanaeth gwresogi y tu allan i oriau

Dim ond argyfyngau y bydd ein timau yn eu mynychu (fel arfer mewn argyfwng, bydd perygl i ddiogelwch neu berygl yr achosir difrod helaeth i’r eiddo)

Gwasanaeth y tu allan i oriau >

Close-up. A hand changes a light bulb in a stylish loft lamp. Spiral filament lamp.
Close-up. A hand changes a light bulb in a stylish loft lamp. Spiral filament lamp. Modern interior decor.

Canllawiau atgyweirio

Mae nifer o faterion cyffredin sy’n gallu codi yn eich cartref ac y maent yn hawdd eu trwsio. Chwiliwch am eich mater yn ein canllawiau cymorth isod i weld a ydych chi’n gallu trwsio’r mater eich hun neu a fydd angen i chi gysylltu â ni.

Os ydych chi’n credu bod Nwy yn gollwng gyda chi, ffoniwch Wales and West Utilities ar 0800 111 999 ar unwaith

Os bydd eich Larwm CO yn canu, ffoniwch Wales and West Utilities ar 0800 111 999 ar unwaith

Cwestiynau cyffredin

Rydw i'n gwybod mai fi sy'n gyfrifol am y gwaith, ond beth os na fyddaf yn gallu ei wneud?

Os ydych yn agored i niwed, yn oedrannus neu’n anabl ac os na allwch wneud y gwaith trwsio hwn eich hun, a oes gennych chi berthynas, ffrind neu gymydog y gallent eich helpu? Fel hyn, efallai y bydd modd i chi drefnu bod eich problem yn cael ei datrys yn gyflymach. Os na, dylech lenwi’r ffurflen gwaith trwsio a byddwn yn gwneud apwyntiad pan fydd gennym slot ar gael.

Adrodd am waith trwsio ar-lein >

Sut ydw i'n gallu adrodd am waith trwsio os ydw i'n Lesddeiliad?

Lesddeiliaid, darllenwch delerau eich prydles cyn rhoi gwybod am unrhyw atgyweiriad i’ch cartref.

A ydw i'n gallu adrodd am waith trwsio o hyd os bydd y difrod wedi cael ei achosi gennyf i neu ffrind/aelod o'r teulu?

Os yw’r gwaith trwsio y mae angen ei wneud wedi cael ei achosi gan rhywbeth yr ydych chi neu’ch teulu/ffrindiau wedi’i wneud, byddwch chi’n gyfrifol am drefnu a thalu am y gwaith trwsio hwn