Gwneud Gwahaniaeth

Mae ein cartrefi yn bwysig i ni a’n preswylwyr – ond y pethau bychain ychwanegol sy’n aml yn gallu gwneud y gwahaniaeth mwyaf i ansawdd bywyd.

Mae ein cronfa cymorth gymunedol, Gwneud Gwahaniaeth, yn ymwneud â rhoi rhywbeth yn ôl i’n preswylwyr a’n cymunedau. Gallai fod yn darparu cymorth ar gyfer digwyddiad cymunedol, talu am git newydd ar gyfer tîm chwaraeon iau neu fanteisio ar arbenigedd amrywiol a helaeth ein contractwyr er mwyn helpu i wella gerddi a safleoedd y tu allan.

Bydd cyllid gan Dai Wales & West yn helpu i gynorthwyo wrth greu estyniad i’r Willow Collective, a fydd yn arwain at greu mwy fyth o gyfleoedd gyrfa i bobl ifanc.

Mae Nicky Hodge yn datgelu ei hysbrydoliaeth er mwyn cychwyn Willow Collective, melin gymunedol sy’n cynnig profiad gwaith a chyfleoedd prentisiaeth yn un o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn Y Rhyl.

Tîm pêl-droed ieuenctid yn cynnig cit am ddim i’w chwaraewyr, diolch i gyllid Tai Wales & West

Ar ôl cael nawdd gan Dai Wales & West, mae tîm pêl-droed ieuenctid, a sylfaenwyd ar ethos cyfle cyfartal i bawb, wedi llwyddo i gynnig cit am ddim i’w chwaraewyr y tymor hwn.

Dosbarth celf yn helpu i leddfu unigrwydd ac arwahanrwydd

Mae grŵp celf a sefydlwyd gan ddwy ffrind a brofodd ddigwyddiadau a newidiodd eu bywyd yn helpu i leihau unigrwydd ac arwahanrwydd, gan ddysgu sgiliau newydd i bobl.

Newyddion am Gymorth Cymunedol

Adroddiad Effaith Gwneud Gwahaniaeth

Ein Hadroddiad Effaith Gwneud Gwahaniaeth yw ein hadolygiad blynyddol o rai o’r prosiectau gwych a’r straeon ysbrydoledig sy’n digwydd yn ein cymunedau, gyda help llaw ein cronfa Gwneud Gwahaniaeth.

Mae’r gronfa yn cynnwys cyfraniadau gan ein cyflenwyr a’n contractwyr i raddau helaeth, sy’n gwneud cyfraniadau ychwanegol i’n contractau, pan fyddant yn adeiladu ein cartrefi neu’n darparu gwasanaethau i ni.

Gweler yr adroddiad diweddaraf