Yn gyntaf, ceisiwch waredu unrhyw wallt neu sebon neu fwyd a allai fod yn peri’r rhwystr. Os na fydd hyn yn gweithio, ceisiwch ddefnyddio deunydd dadflocio sinc sy’n creu ewyn, y gallwch ei brynu mewn nifer o siopau DIY ac offer neu archfarchnadoedd. Sicrhewch eich bod yn cael y math sy’n creu ewyn gan bod hwn yn gorchuddio’r pibellau ac mae’n fwy effeithiol. Sicrhewch eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau yn ofalus.
Sylwer na fydd cannydd yn clirio pibell sydd wedi blocio. Fodd bynnag, argymhellwn y dylid defnyddio cannydd neu ddeunydd glanhau sinc sy’n creu ewyn yn rheolaidd (tua unwaith y mis) er mwyn cadw pibellau’n lân ac yn rhydd rhag rhwystrau.
Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod sinciau a phibellau yn lân ac yn glir. Os bydd peiriannydd yn mynychu a phe byddai wedi bod modd i chi glirio’r rhwystr, mae’n debygol y codir tâl arnoch am y gwaith hwn.