Beth yw'r mater?

Os byddwch yn darganfod llwydni yn eich cartref, a fyddech gystal ag adrodd am hyn i ni trwy ffonio 0800 052 2526 neu lenwi’r ffurflen gwaith trwsio.

Mae nifer o ffactorau sy’n cyfrannu at ei dyfiant, ac mae rhai pethau y gallwch eu gwneud i helpu.

Cyngor defnyddiol

Cyddwysiad yw un o achosion mwyaf problemau llwydni a lleithder yn y cartref.  Bydd cyddwysiad yn ffurfio pan na fydd yr aer y tu mewn yn gallu dal rhagor o wlybaniaeth.

Bydd teulu cyfartalog yn creu dros 100 peint o wlybaniaeth yr wythnos wrth gyflawni tasgau arferol yn y cartref megis coginio, golchi dillad, smwddio, defnyddio’r peiriant sychu dillad ac ymolchi.  Gall hyn arwain at gyddwysiad yn cronni, sy’n gallu achosi llwydni

Gallwch leddfu’r broblem trwy ddilyn rhai camau syml:

  • rhoi cloriau ar sosbenni, sychu dillad y tu allan ac osgoi defnyddio gwresogyddion paraffîn neu nwy potel
  • agor ffenestr yr ystafell wely am 15 munud bob bore
  • sicrhau bod eich cartref wedi cael ei inswleiddio yn dda
  • gwresogi’ch cartref ychydig yn fwy
  • awyru ystafelloedd yn rheolaidd a gadael drysau ar agor er mwyn caniatáu i’r aer gylchdroi, oni bai eich bod yn coginio neu’n cael cawod
  • os ydych yn coginio, yn cael cawod neu’n cael bath – bydd agor y ffenestr, rhoi’r ffan ymlaen a chau drws yr ystafell yr ydych chi ynddi yn helpu