Ffoniwch ein Tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid 24-awr ar 0800 052 2526 ar unwaith.
A ydych chi’n gallu diffodd y cyflenwad dŵr i’r safle dan sylw? Bydd gwneud hyn yn gyflym yn helpu i atal niwed pellach i’ch cartref a’ch meddiannau ac i eiddo cyfagos. Os ydych yn byw mewn fflat, mae hyn yn hanfodol er mwyn atal niwed gan ddŵr i eiddo cyfagos.
Fel arfer, ceir stopfalf dan eich sinc neu mewn cwpwrdd dan y grisiau.
Ar gyfer sinciau mewn ystafelloedd ymolchi neu doiledau, ceir falf ynysu (sy’n edrych fel sgriw rhych) y gellir ei throi i ffwrdd gan ddefnyddio sgriwdreifar.
Os yw’r dŵr yn gollwng gerllaw unrhyw socedi neu switshys trydanol, dylech ddiffodd y trydan wrth yr uned ddefnyddio.
Dylech ddiffodd y system gwres canolog neu danddwr.
Dylech droi’r holl dapiau ymlaen er mwyn draenio’r dŵr o’r system.
Os na fyddwch yn gallu troi’r dŵr i ffwrdd, dylech roi tywel neu gynhwysydd dan y man lle y mae’r dŵr yn gollwng er mwyn casglu’r dŵr.