Polisi Preifatrwydd & Cyfreithiol

Cyflwyniad

Mae Grŵp Tai Wales & West yn cynnwys Tai Wales & West a Cambria Maintenance Services Limited ac maent wedi cael eu cofrestru fel rheolyddion data dan y Ddeddf Diogelu Data.  Rydym yn casglu, yn dal ac yn prosesu swm sylweddol o wybodaeth, gan gynnwys gwybodaeth bersonol amdanoch chi, sy’n caniatáu i ni ddarparu ein gwasanaethau mewn ffordd effeithiol.  Ein Rheolwr Diogelu Data yw Russell Davey ac mae modd cysylltu ag ef gan ddefnyddio’r dulliau a nodir isod.

E-bost data.protection@wwha.co.uk

Ffôn 02920 415 329

Mae eich gwybodaeth yn bwysig i ni ac rydym yn ystyried ein cyfrifoldebau o ddifrif, gan sicrhau bod unrhyw wybodaeth bersonol y byddwn yn ei chasglu amdanoch chi ac yn ei defnyddio yn cael ei wneud mewn ffordd gymesur, cywir a diogel.  Mae’r tabl isod yn sôn ychydig yn fwy wrthych am yr hyn y byddwn yn ei wneud gyda’ch gwybodaeth y byddwn yn ei chasglu, a’r sail gyfreithiol dros ei phrosesu.

 

Categorïau Y rheswm dros ei chasglu Sail gyfreithiol dros ei phrosesu

Gwybodaeth safonol

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Manylion cyswllt
  • Dyddiad Geni
  • Gwybodaeth ariannol
  • Geirda tenantiaeth
  • Cyfansoddiad yr aelwyd
  • Rheoli cwynion
  • Ymddygiad gwrthgymdeithasol
Er mwyn rhoi tenantiaeth a reolir, gofal a chymorth i chi ac er mwyn monitro ein perfformiad fel LCC, darparwr cynnal a chadw a gofal.
  • Contract
  • Rhwymedigaeth gyfreithio
Er mwyn cael eich dewisiadau o ran dulliau cysylltu. Er mwyn rhoi diweddariad i chi am unrhyw wybodaeth ychwanegol neu roi negeseuon atgoffa neu er mwyn i chi gymryd rhan mewn arolygon neu holiaduron er mwyn ein helpu i wella pethau.
  • Buddiannau cyfreithlon
Er mwyn amddiffyn ein hunain yn erbyn hawliadau cyfreithiol a honiadau ac er mwyn darparu tystiolaeth i heddluoedd.
  • Buddiannau cyfreithlon
  • Rhwymedigaeth gyfreithiol

Categorïau gwybodaeth arbennig

  • Data iechyd
  • Cefndir Ethnig neu Hiliol
  • Crefydd
  • Cyfeiriadedd rhywiol
  • Troseddau neu euogfarnau troseddol
Gofyniad cyfreithiol i beidio gwahaniaethu yn erbyn unrhyw grwpiau.
  • Rhwymedigaeth gyfreithiol
Rhoi tenantiaeth a reolir i chi yn unol â deddfwriaeth gyfredol.
  • Contract
  • Rhwymedigaeth gyfreithiol
  • Buddiannau hanfodol
Er mwyn sicrhau ein bod yn bodloni eich anghenion fel ein tenant.
  • Cyflogaeth, nawdd cymdeithasol a diogelwch cymdeithasol
Delweddau/Ffotograffau Dibenion hyrwyddo megis cyfryngau cymdeithasol a datganiadau i’r wasg.
  • Cydsyniad
Recordiadau llais Caiff pob galwad a wneir i’n timau dewisiadau tai, gwresogi a chydymffurfiaeth eu recordio at ddibenion sicrhau ansawdd a datrys anghydfodau.
  • Buddiannau cyfreithlon
CCTV Rheoli ac ymchwilio i achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol.
  • Contract
  • Rhwymedigaeth gyfreithiol
Er mwyn atal troseddau a diogelu adeiladau ac asedau rhag difrod, amhariad, fandaliaeth a throseddau eraill.
  • Contract
  • Buddiannau cyfreithlon
Er mwyn cynorthwyo gyda gwaith rheoli o ddydd i ddydd, gan gynnwys sicrhau iechyd a diogelwch staff ac eraill gan gynnwys aelodau’r cyhoedd.
  • Rhwymedigaeth gyfreithiol
  • Buddiannau cyfreithlon

Efallai y byddwn yn datgelu data personol i drydydd partïon, ac fe allai hyn gynnwys ein contractwyr, partneriaid darparu gwasanaeth a chyrff statudol, ond dim ond pan fydd hyn yn angenrheidiol, naill ai er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol, neu pan ganiateir hynny dan y Ddeddf Diogelu Data.  Byddwn yn ceisio sicrhau bod unrhyw ddata personol yn ein gofal yn cael ei gadw’n ddiogel a phan ddatgelir eich gwybodaeth i drydydd parti, byddwn yn ceisio sicrhau bod gan y trydydd parti systemau a gweithdrefnau digonol mewn grym er mwyn atal data personol rhag cael ei golli. Ni throsglwyddir eich gwybodaeth i sefydliadau y tu allan i Grŵp WWH at ddibenion marchnata neu werthu unrhyw bryd.

Datgarboneiddio cartrefi

Mae Grŵp Tai Wales & West yn cydweithio â Llywodraeth Cymru a’u partneriaid i gefnogi uchelgais i sicrhau allyriadau ‘sero net’ erbyn 2050 trwy wella perfformiad ynni cartrefi.  O’r herwydd, efallai y byddwn yn rhannu eich enw a’ch cyfeiriad gyda Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid mewn perthynas â’r prosiectau hyn.

Mae Systemau Ynni Deallus (IES) yn casglu data ynghylch yr ynni a ddefnyddir yn eich cartref. Eu nod yw deall perfformiad y systemau wrth leihau cyfanswm yr ynni a ddefnyddir.  Pan fyddwch yn byw mewn eiddo y gosodwyd IES ynddo yn barod, neu os bydd gofyn gosod IES yn eich eiddo,  bydd hyn yn aml yn rhan o brosiect a ariannir gan grant Llywodraeth Cymru.  Er mwyn bodloni amodau unrhyw grant a roddir gan Lywodraeth Cymru a sicrhawyd gennym er mwyn gwella perfformiad ynni yr eiddo, byddwn yn rhannu eich manylion cyswllt gyda darparwyr gwasanaeth Llywodraeth Cymru fel rhan o’u mentrau (megis y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio) er mwyn sicrhau ‘sero net’.  Mae’r data a gesglir gan IES yn ddata am yr eiddo, ac ni chaiff ei gysylltu gyda’ch data personol chi.  Dim ond er mwyn darparu gwybodaeth ystadegol i Lywodraeth Cymru y defnyddir y data.

Efallai y cynigir gwasanaethau ychwanegol i chi gan y darparwyr sy’n gyfrifol am weithredu’r IES, er enghraifft, er mwyn cael cymorth pellach i chi wrth reoli eich defnydd o ynni a’ch biliau.  Eich dewis chi yw ymrwymo i gytundebau o’r fath am y gwasanaethau ychwanegol hyn, a byddai eich cytundeb gyda’r darparwr.

Eich hawliau dan ddeddfwriaeth diogelu data gyfredol

Mae gennych yr hawl i droi at y wybodaeth bersonol yr ydym yn ei phrosesu amdanoch.  Os ydych yn credu bod y wybodaeth bersonol yr ydym yn ei dal amdanoch yn anghywir neu’n anghyflawn, mae gennych yr hawl i drefnu ei bod yn cael ei chywiro neu ei chwblhau.  Pan fyddwn yn defnyddio eich gwybodaeth ar sail eich cydsyniad yn unig, mae gennych yr hawl i dynnu’r cydsyniad hwn yn ôl ar unrhyw adeg hefyd trwy gysylltu â ni.  Yn ogystal, mae gennych yr hawl, dan amgylchiadau penodol, i atal eich data rhag cael ei brosesu;  i wrthwynebu i rai mathau o waith prosesu;  i drefnu bod eich data yn cael ei ddileu neu mewn rhai achosion, yn cael ei drosglwyddo i sefydliad arall o’ch dewis.

Gellir gweld rhagor o wybodaeth am yr holl hawliau hyn trwy droi at www.ico.org.uk

Os oes gennych chi ymholiad neu os hoffech wneud cwyn am y ffordd y mae Grŵp Tai Wales & West yn prosesu eich data personol, cysylltwch â’r Rheolwr Diogelu Data gan ddefnyddio’r manylion a nodir ar frig y dudalen hon neu, os ydych yn dymuno, gallwch gwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn uniongyrchol trwy droi at www.ico.org.uk/concerns neu trwy ffonio 0303 123 1113.