Amdanom ni

Ni yw Tai Wales & West a’n gweledigaeth yw sicrhau twf cadarn a chynaliadwy er mwyn gwneud gwahaniaeth i fywydau, cartrefi a chymunedau pobl.

Rydym yn rheoli dros 12,500 o gartrefi fforddiadwy ac o ansawdd uchel yn ardaloedd 14 awdurdod lleol ar draws Cymru.

Mae’r rhain yn cynnwys dros 3,000 o eiddo pwrpasol ar gyfer pobl hŷn, yn ogystal â datrysiadau llety â chymorth arloesol i bobl sydd ag amrediad o anghenion penodol.

Rydym yn adeiladu cartrefi

Cwblhawyd 156 o gartrefi newydd yn 2023, gan helpu i fynd i’r afael ag argyfwng tai fforddiadwy yng Nghymru

Buddsoddi yn ein cartrefi

Gwariom £12m ar waith cynnal a chadw wedi’i gynllunio yn ystod 2022

Helpu ein cymunedau

Yn ystod 2022, rhoddom £129,000 i’n cymunedau ar ffurf nawdd a grantiau er mwyn cynorthwyo dros 80 o brosiectau a mentrau ar draws Cymru.

Cwmni a arweinir gan werthoedd

Mae ein cwsmeriaid wrth wraidd ein diwylliant, sef Ffordd Grŵp Tai Wales & West, sy’n canolbwyntio ar wneud y peth iawn er mwyn gwneud gwahaniaeth

i

Cyhoeddiadau >

Trowch at ein llyfrgell cyhoeddiadau, gan gynnwys ein cynllun busnes, ein hadroddiad blynyddol a rhifynnau digidol o’n cylchgrawn chwarterol i breswylwyr, In Touch.

Sut yr ydym yn gwneud gwahaniaeth >

Trowch at fanylion y gwaith a wnawn gyda chymorth ein sefydliadau partner er mwyn gwneud gwahaniaeth yn y cymunedau y mae Tai Wales & West yn eu cynorthwyo.

Ein gwerthoedd

Mae’n gwerthoedd yn rhan ganolog o bopeth a wnawn fel sefydliad, gan adlewyrchu ein diwylliant, y ffordd yr ydym yn gweithio gyda phreswylwyr a sut yr ydym yn trin ein staff.

Teg

Cytbwys, gan gynnig canmoliaeth a beirniadaeth adeiladol. Dull gweithredu cynhwysol, gan barchu urddas ac unigolrwydd pawb.

Agored

Yn fodlon newid ac wedi ymrwymo i wella a dysgu. Tryloyw, gonest a dibynadwy.

Cyfrifol

Proffesiynol, herio’r trefniadau presennol, ymgymryd â’r cyfrifoldeb dros faterion a sicrhau bod materion yn cael eu datrys.

Cefnogol

Hawdd delio â ni, hawdd troi atom a hygyrch. Croesawgar, gofalgar, yn gwrando ac yn ymateb.

Effeithlon

Gwneud y defnydd gorau o adnoddau i sicrhau bod ein gweithgareddau yn cael cymaint o effaith ag y bo modd.

 

Ein pobl

Mae’n llwyddiant fel sefydliad o ganlyniad i’n tîm talentog ac ymroddedig o dros 400 o bobl sy’n gweithio ar draws Cymru.

Darparir ein gwasanaethau dan dimau arbenigol o staff, y mae nifer ohonynt wedi’u lleoli yn yr ardaloedd y mae ein preswylwyr yn byw.

Mae gennym staff sy’n gweithio ar safleoedd, sy’n sicrhau bod ein hystadau a’n cynlluniau yn cael eu cynnal a’u cadw yn dda, yn ogystal â staff arbenigol sy’n rheoli ein llety ar gyfer pobl hŷn.

Yn ein prif swyddfa yng Nghaerdydd, ein swyddfa yng Ngogledd Cymru yn Ewloe a’n swyddfa yng Ngorllewin Cymru yng Nghastellnewydd Emlyn, mae’n timau effeithiol a phroffesiynol yn sicrhau bod yr holl staff yn meddu ar y systemau a’r wybodaeth y mae ei hangen arnynt er mwyn darparu gwasanaethau gwych.

Tîm gweithredol >

Aelodau’r Bwrdd >