Gwneud Safiad

Rydym wedi arwyddo adduned ‘Gwneud Safiad’, gan ymrwymo i weithredu er mwyn cynorthwyo pobl sy’n dioddef cam-drin domestig.

Datblygwyd adduned ‘Gwneud Safiad’ gan y Sefydliad Tai Siartredig, mewn partneriaeth â’r Gynghrair Tai dros Gam-drin Domestig a Chymorth i Fenywod, er mwyn helpu i sicrhau bod cymdeithasau tai yn gwneud popeth o fewn eu gallu i fynd i’r afael â cham-drin domestig a chynorthwyo unrhyw un sy’n cael eu heffeithio ganddo.

Bydd miliynau o bobl yn profi cam-drin domestig bob blwyddyn, a bob wythnos, bydd dwy fenyw yn cael eu lladd gan eu partner neu gyn bartner.  Mae cam-drin wastad yn ymwneud ag un unigolyn yn cael grym a rheolaeth dros un arall.

Caiff trais domestig ei ddiffinio gan Lywodraeth y DU fel ‘unrhyw ddigwyddiad neu batrwm o ddigwyddiadau sy’n ymwneud ag ymddygiad rheolaethol, gorfodol neu fygythiol, trais neu gamdriniaeth rhwng y rhai sy’n 16 oed neu’n hŷn, ac y maent yn neu wedi bod yn bartneriaid agos neu’n aelodau teuluol, waeth beth fo eu rhyw neu eu rhywioldeb.  Gall y gamdriniaeth gynnwys, ond nid yw wedi cael ei chyfyngu i, gamdriniaeth seicolegol, corfforol, rhywiol, ariannol ac emosiynol.’

Os ydych yn credu eich bod chi neu rywun yr ydych yn eu hadnabod yn profi cam-drin domestig, cysylltwch ag unrhyw rai o’r asiantaethau isod am gymorth pellach:

Cymorth i Fenywod – Cymru

Mae Cymorth i Fenywod yn darparu amrediad o wybodaeth a chymorth am gam-drin domestig, gan gynnwys cymorth i bobl sy’n wynebu cam-drin domestig a phobl sy’n pryderu y gallai eraill fod yn wynebu cam-drin domestig.  Mae’r linell gymorth ar agor 24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos.

e-bost:  info@welshwomensaid.org.uk

Ffôn:  0808 80 10 800

Llinell Gymorth Genedlaethol Trais Domestig

Llinell gymorth gyfrinachol ac am ddim sy’n cael ei rhedeg gan Gymorth i Fenywod a Refuge i unrhyw un sy’n wynebu cam-drin domestig.  Mae ar gael 24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos.

Ffôn:  0808 2000 247

Respect

Respect yw sefydliad aelodaeth y DU ar gyfer gwaith gyda’r rhai sy’n cyflawni trais domestig, dioddefwyr gwrywaidd trais domestig a thrais gan bobl ifanc mewn perthnasoedd agos.  Llinell gymorth i bobl sy’n pryderu am eu hymddygiad – 0808 802 4040

Llinell gymorth i ddynion sy’n wynebu cam-drin domestig – 0808 801 0327

BAWSO

Mae BAWSO yn fudiad gwirfoddol ar draws Cymru sy’n darparu gwasanaethau arbenigol i fenywod a phlant duon a lleiafrifoedd ethnig sy’n dioddef cam-drin domestig.  Mae’r linell gymorth ar agor 24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos.

Ffôn:  0800 7318147

Broken Rainbow

Llinell gymorth i bobl lesbiaidd, deurywiol a thrawsrywiol sy’n wynebu trais domestig.

e-bost:  mail@broken-rainbow.org.uk

Ffôn:  08452 60 44 60 (Llun 2pm – 8pm, Mercher 10am – 1pm ac Iau 2pm tan 8pm)

Am wasanaethau yn eich ardal leol i chi, trowch at www.womensaid.org.uk/domestic-abuse-directory