Prynu cartref

Nid yw hi fyth wedi bod mor anodd cymryd y cam cyntaf ar yr ysgol tai. Rydym yn cynnig gostyngiad wrth werthu rhai tai trwy gyfrwng dewisiadau perchentyaeth amrywiol. Mae hyn yn cynnwys rhai cartrefi sy’n cael eu gwerthu trwy gynllun Perchentyaeth Cost Isel (LCHO).

Mae LCHO yn caniatáu i’r rhai sy’n gymwys i brynu cartrefi am bris is na’r hyn a welir yn y farchnad breifat – sy’n golygu bod prynu cartref yn ddewis haws a mwy fforddiadwy.

 

Beth yw’r cynllun perchentyaeth cost isel?

Cynigir cartrefi dan y cynlluniau i brynwyr sy’n bodloni meini prawf penodol, am 70% o’u gwerth ar y farchnad agored. Mae meini prawf cymhwyso yn amrywio o eiddo i eiddo.

Dan LCHO, byddech chi’n berchen ar yr eiddo, ond byddai Tai Wales & West yn dal pridiant cyfreithiol ar y gyfran ecwiti o’r 30% sy’n weddill. Dim ond morgais/blaendal am y 70% y byddai angen i chi ei sicrhau, ac ni fyddai unrhyw log neu rhent yn daladwy ar y gyfran ecwiti o 30%.

Bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus ddangos trwy forgais mewn egwyddor eu bod yn gallu ariannu 70% o werth yr eiddo. Byddai blaendal o rhwng 5% ac 15% yn ofynnol o hyd gan gwmnïau morgais fel arfer.

Bydd prynu eiddo trwy’r cynllun yn golygu y bydd angen talu’r costau arferol sy’n gysylltiedig â phrynu eiddo ar y farchnad agored o hyd, gan gynnwys prisiad, ffioedd morgais ac arolygon, ffioedd cyfreithiol a threth stamp.

Eiddo sydd ar werth ar hyn o bryd

De Clear Gardens, Hendredenny, Caerphilly

2 & 3 ystafell wely

2 ystafell ymolchi

Prisiau yn cychwyn o: £147,000

Tŷ  |   2 & 3 ystafell wely   |   2 ystafell ymolchi

*Plotiau ar gael i’w Cadw*

Mae Tai Wales & West yn cynnig amrediad o gartrefi dwy a thair ystafell wely o safon da yn natblygiad poblogaidd Gerddi De Clear Redrow yn Hendrenny, Caerffili.

Gwêl Yr Ynys, Sili, Bro Morgannwg

2 & 3 ystafell wely

1 & 2 ystafell ymolchi

Prisiau yn cychwyn o: TBC

Tŷ  |   2 & 3 ystafell wely   |   1 & 2 ystafell ymolchi

*Plotiau newydd i’w rhyddhau yn ystod y Gwanwyn/Haf 2024*

Mae Tai Wales & West yn cynnig ystod o gartrefi dwy a thair ystafell wely o safon da ar safle Taylor Wimpey, Gwêl Yr Ynys, ym mhentref hanesyddol poblogaidd Sili.