Cyfle i gymryd rhan a dweud eich dweud

Trwy drafod yr hyn sy’n bwysig gyda’n preswylwyr, gwrando ar y galw a gofyn am adborth, gallwn siapio ein gwasanaethau a chyflwyno gwelliannau.

Mae cynnwys ein preswylwyr yn yr hyn a wnawn a’r ffordd y byddwn yn gwneud hyn yn bwysig iawn i ni. Rydym yn dymuno i chi, ein preswylwyr, gymryd rhan ym mha bynnag ffordd sy’n addas i chi.

Manteisiwch ar y cyfle i ddweud eich dweud mewn neges e-bost, dros y ffôn neu wyneb yn wyneb, a helpwch ni i ddeall yr hyn sydd bwysicaf i chi. Byddwn yn defnyddio eich sylwadau er mwyn helpu i siapio darpariaeth gwasanaethau. Dyma rai ffyrdd y gallwch chi gymryd rhan.

Graphic showing a survey form with ticked boxes

Arolygon Bodlonrwydd

Ar ôl i ni wneud gwaith trwsio ac unrhyw waith mawr, ar ôl i ni osod cartref neu ymateb i adroddiadau ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol, byddwn yn cysylltu â nifer o breswylwyr er mwyn clywed eu safbwyntiau.

Byddwn yn cynnal arolygon bodlonrwydd rheolaidd hefyd ar draws sampl cynrychioliadol ar hap o breswylwyr. Gallwch ddarllen canlyniadau ein harolwg mwyaf diweddar a gynhaliwyd yn 2022 trwy glicio isod.

TPAS logo

Llywodraeth Cymru

Grŵp ymgynghori Pwls Tenantiaid TPAS / Llywodraeth Cymru – gallwch ymuno â hwn os oes gennych chi ddiddordeb mewn materion tai sy’n berthnasol ar draws Cymru gyfan.

 

Graphic showing icons of people grouped in a circle

Grŵp Llywio Cyfranogiad Tenantiaid

GLlCT (Grŵp Llywio Cyfranogiad Tenantiaid) – mae hwn yn gweithredu ar lefel uwch ac mae’n cynnwys 18 o breswylwyr o bob cwr o Gymru sy’n glust i wrando mewn perthynas â materion cyfranogi. Maent yn cyfarfod bob chwe wythnos yng Nghaerdydd neu’r Amwythig.

Anfonwch e-bost at Claire.Hammond@wwha.co.uk am ragor o wybodaeth.

Facebook logo

Grwpiau Facebook

Ymunwch ag un o’n grwpiau Facebook caeedig i breswylwyr yn unig. Mae grwpiau Facebook Crefft, Tyfu a Dod Ynghyd yn caniatáu i chi rannu lluniau, straeon a syniadau am y gweithgareddau cymunedol yr ydych yn eu cyflawni gyda phreswylwyr eraill.

Anfonwch e-bost at Claire.Hammond@wwha.co.uk am ragor o wybodaeth.

Graphic two speech bubbles

A ydym wedi gwrando?

‘A ydym wedi gwrando’ – hwn yw ein dull ar gyfer rheoli ystadau, lle y byddwn yn ymgysylltu mewn ffordd ragweithiol gyda phreswylwyr lle’r ydych chi’n byw. Rydym yn cydweithio er mwyn meithrin dealltwriaeth o’r hyn sy’n bwysig i chi am eich cartref a’ch cymuned, gan gytuno ar gamau gweithredu ar y cyd gyda’n gilydd.

Mae ‘A ydym wedi gwrando’ yn broses barhaus ac yn sgwrs sy’n datblygu yn barhaus. Gan bod pob cynllun neu ystad yn wahanol, bydd y ffordd y byddwn yn gwneud hyn yn amrywio o ardal i ardal, o ddiwrnodau agored a diwrnodau hwyl i drafodaethau gyda phreswylwyr unigol yn eich cartrefi eich hunain.