Gofal ychwanegol

Mwy na chartref yn unig, mae gofal ychwanegol yn cynnig y rhyddid i chi fyw bywyd annibynnol gyda’r tawelwch meddwl y gallwch fanteisio ar ofal a chymorth ar y safle.

Mae pob cynllun gofal ychwanegol yn cynnig y cyfle i fyw yn eich cartref eich hun, gyda’ch drws ffrynt eich hun, a’r rhyddid i wneud eich dewisiadau eich hun – gyda chymorth ychwanegol y bydd modd ei deilwra i fodloni eich anghenion unigol.

Lleolir ein cynlluniau gofal ychwanegol mewn mannau cyfleus ac maent yn darparu eich fflat un neu ddwy ystafell wely eich hun i chi, bwyty ar y safle a chyfleusterau cymunol a rennir megis gerddi, lolfeydd a golchdy.

Am y ddarpariaeth gofal ychwanegol

Mae tai gofal ychwanegol yn cynnig eich cartref eich hun i chi mewn cymuned ofalgar a chefnogol – bydd gennych eich drws ffrynt eich hun a’r rhyddid i wneud eich dewisiadau eich hun, ond gyda’r tawelwch meddwl o wybod eich bod yn byw mewn amgylchedd diogel.

Darparir gofal a chymorth a thai ar y safle gan dîm sy’n gweithio ar y safle, ynghyd â’r sicrwydd bod gwasanaeth ymateb brys 24-awr ar gael. Gellir darparu cymorth mewn ffordd hyblyg er mwyn sicrhau y gallwch gael eich cynorthwyo mewn ffordd sy’n bodloni eich anghenion unigol chi.

Mae ein holl gynlluniau gofal ychwanegol yn darparu:

  • Eich fflat 1 neu 2 ystafell wely eich hun
  • Cyfleusterau cymunol a rennir
  • Darpariaeth gwasanaeth rheoli adeilad a thai
  • Pryd 3 chwrs dyddiol a ddarparir gan y bwyty ar y safle, sy’n cael ei gynnwys fel rhan o’ch tenantiaeth
  • Gofal a chymorth 24/7 ar y safle a gwasanaeth ymateb brys
  • Cymuned gefnogol sy’n cynnig rhyngweithio cymdeithasol, diddordebau a rennir a chysylltiadau â’r gymuned ehangach

Mae ein cynlluniau gofal ychwanegol yn cynnwys nodweddion unigryw hefyd. Gallwch gael gwybod mwy am y rhain trwy droi at dudalen pob cynllun ar y we.

Cost byw mewn cynllun gofal ychwanegol

Ceir gwahanol daliadau sy’n rhan o’r gost o fyw mewn cynllun gofal ychwanegol.

Rhent

Y swm a godir am rentu eich cartref, sy’n cynnwys cynnal a chadw a thrwsio’r adeilad.

Taliadau Gwasanaeth

Ceir dau fath o daliad gwasanaeth.

1. Taliadau gwasanaeth cymwys

Os oes gennych yr hawl i gael Budd-dal Tai/Credyd Cynhwysol, telir rhai o’r taliadau hyn neu’r holl daliadau hyn.

• Rheolwr Gofal Ychwanegol/Rheoli adeilad
• Garddio
• Glanhau’r ardaloedd cymunol
•Gwres, golau a chyflenwadau dŵr i’r ardaloedd cymunol
• Adnewyddu offer
• Contractau cynnal a chadw
• Amrywiol ee. darparu’r offer golchi dillad ac yswiriant y lifft
• Tâl Rheoli – cost y staffio a’r gorbenion er mwyn darparu gwasanaethau eich cynllun

2. Taliadau gwasanaeth nad ydynt yn gymwys

Hyd yn oed os oes gennych yr hawl i gael Budd-dal Tai/Credyd Cynhwysol, ni chaiff unrhyw rai o’r taliadau hyn eu cynnwys:

• Tâl fflat unigol – y tâl am y cyflenwad dŵr a gwres i bob fflat
• Y gwasanaeth arlwyo – y tâl am bryd 3 chwrs bob dydd

Pennir a thelir y rhent a’r taliadau gwasanaeth i Dai Wales & West ac nid ydynt yn cynnwys y costau canlynol:

• Cyflenwad trydan eich fflat
• Taliadau ffôn
• Pecynnau teledu fel Sky
• Treth Gyngor
• Glanhau eich fflat
• Unrhyw ofal a chymorth rheolaidd yr ydych yn ei gael

Taliadau Gofal a Chymorth

Hwn yw’r tâl am ofal a chymorth a ddarparir yn y cynllun gofal ychwanegol yn unol â chynlluniau darparu gwasanaeth a gofal.  Mae’r tâl hwn ar wahân i’r rhent a’r taliadau gwasanaeth a amlinellwyd gan Dai Wales & West er mwyn byw yn y cynllun gofal ychwanegol.

Sut allaf wneud cais?

Yn gyntaf, bydd angen i chi gofrestru eich manylion gyda ni. Gallwch wneud hyn trwy anfon e-bost at contactus@wwha.co.uk neu ffonio 0800 052 2526.

Ar ôl i chi gofrestru, byddwch yn cael gwahoddiad i ymweld â’r cynllun a chael gwybod mwy am fyw mewn llety gofal ychwanegol.

Yna, byddwn yn trefnu ymweld â chi yn eich cartref i asesu eich anghenion tai, gofal a chymorth.

Os derbynnir eich cais, byddwch yn cael eich cynnwys mewn rhestr aros. Caiff eiddo sydd ar gael eu neilltuo i bobl ar y rhestr aros.

WWH Extra Care Scheme Maes Y Mor exterior view of front of building

Maes y Môr

Aberystwyth, Ceredigion

Lleolir ein cynllun gofal ychwanegol cyntaf yng Ngheredigion ym Mhen yr Angor, Trefechan, ac mae’n mwynhau golygfeydd godidog dros dref Aberystwyth a’r harbwr.

WWH extra care scheme Plas yr Ywen exterior view of front of building

Plas yr Ywen

Treffynnon, Sir y Fflint

Mae llwybr trwy goetir hynafol yn rhan o’n hail gynllun gofal ychwanegol yn Sir y Fflint, ar safle hen ysgol gynradd.

Exterior view of front of WWH extra care building Llys Jasmine

Llys Jasmine

Yr Wyddgrug, Sir y Fflint

Ein cynllun gofal ychwanegol cyntaf yn Sir y Fflint oedd y cyntaf o’i fath yng Nghymru i gynnig fflatiau arbennig ar gyfer pobl sydd â dementia.

Exterior courtyard view of WWH extra care building Llys Glan yr Afon

Llys Glan yr Afon

Y Drenewydd, Powys

Y cynllun gofal ychwanegol cyntaf ym Mhowys, wedi’i leoli mewn man hyfryd ar lannau Afon Tafwys.

Exterior view of front of WWH extra care building Nant Y Mor

Nant y Môr

Prestatyn, Sir Ddinbych

Nant y Môr oedd ein cynllun gofal ychwanegol cyntaf, a agorwyd ar arfordir Gogledd Cymru ym mis Tachwedd 2011.