Trwy ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn cytuno cydymffurfio gyda a bod yn rhwym i’r amodau defnyddio canlynol o’r dyddiad pan fyddwch yn defnyddio’r wefan am y tro cyntaf. Os byddwch yn anghytuno ag unrhyw ran o’r amodau a thelerau hyn, ni ddylech ddefnyddio ein gwefan.

Mae Tai Wales & West yn gwneud pob ymdrech i gynnal cywirdeb a dibynadwyedd y wefan hon. Nid yw, fodd bynnag, yn gwneud unrhyw honiadau ynghylch ei natur gyflawn neu ei chywirdeb. Rydych chi’n cydnabod y gallai gwybodaeth a deunyddiau o’r fath gynnwys anghywirdeb neu gamgymeriadau ac rydym yn eithrio atebolrwydd dros unrhyw anghywirdeb neu gamgymeriadau o’r fath yn ffurfiol, i’w graddau llawnaf a ganiateir gan y gyfraith.

  • Ni fydd Tai Wales & West, ei chyflogeion, ei chyflenwyr na thrydydd partïon eraill sy’n ymwneud â chreu a darparu’r wefan hon yn atebol am unrhyw niwed, colled neu anghyfleustra uniongyrchol, anuniongyrchol, damweiniol, arbennig neu ganlyniadol a achosir trwy ddibynnu ar gynnwys y wefan hon neu sy’n deillio o ddefnyddio’r wefan hon.
  • Mae Tai Wales & West yn cadw gafael ar yr hawlfraint ar gyfer ei holl ddeunydd ar y wefan hon. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, cedwir hawliau dros yr holl ddeunydd ar y wefan, gan gynnwys deunydd sydd ynghlwm gyda chaniatâd perchnogion hawlfraint eraill. Gellir adfer a lawrlwytho’r deunyddiau ar y wefan hon at ddefnydd personol yn unig. Ni cheir copïo, addasu, cyhoeddi na ddosbarthu deunyddiau fel arall, heb sicrhau caniatâd ysgrifenedig Cymdeithas Tai Wales & West Cyf ymlaen llaw.
  • Mae cynnwys tudalennau’r wefan hon er eich gwybodaeth a’ch defnydd cyffredinol chi. Gall newid heb roi unrhyw rybudd o hynny.
  • Gallai defnydd anawdurdodedig o’r wefan hon arwain at hawliad am iawndal a/neu gyfateb â throsedd.
  • Mae’ch defnydd chi o unrhyw wybodaeth neu ddeunyddiau ar y wefan hon ar eich menter eich hun yn llwyr, ac ni fyddwn yn atebol am hyn. Chi fydd yn gyfrifol am sicrhau bod unrhyw gynhyrchion, gwasanaethau neu wybodaeth sydd ar gael trwy’r wefan hon yn bodloni’ch gofynion penodol chi.
  • Mae’r wefan hon yn cynnwys dolenni i wefannau eraill nad ydynt yn cael eu gweithredu gan Dai Wales & West efallai. Nid yw Tai Wales & West yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb dros gynnwys gwefannau o’r fath ac nid yw’n derbyn unrhyw atebolrwydd mewn perthynas â nhw.
  • Mae’ch defnydd o’r wefan hon ac unrhyw anghydfod sy’n deillio o ddefnydd o’r fath o’r wefan yn rhwym i gyfreithiau Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
  • Os byddwch yn darganfod unrhyw beth ar y wefan hon sy’n peri pryder i chi, a fyddech gystal â rhoi gwybod i ni.