Helpu i reoli eich arian trwy’r argyfwng costau byw

Taliadau Costau Byw y Llywodraeth

Bydd miliynau o’r aelwydydd sydd ar yr incwm isaf ar draws y DU yn cael hyd at £1,350 gan y Llywodraeth yn ystod 2023/24 er mwyn helpu i dalu costau byw.

Gan ddibynnu ar eich amgylchiadau, gallech gael hyd at 3 thaliad gwahanol rhwng Gwanwyn 2023 a Gwanwyn 2024:

  • Taliad Costau Byw, os ydych chi’n cael budd-dal incwm isel cymwys neu gredydau treth (hyd at £900)
  • Taliad Costau Byw Anabledd, os ydych chi’n cael budd-dal anabledd cymwys (£150)
  • Taliad Costau Byw i Bensiynwyr, os ydych chi’n gymwys i gael Taliad Tanwydd Gaeaf ar gyfer Gaeaf 2023 i 2024.

Nid yw’r taliadau hyn yn drethadwy ac ni fyddant yn effeithio ar y budd-daliadau neu’r credydau treth yr ydych yn eu cael.

Cyhoeddir y meini prawf cymhwyso a’r union ddyddiadau talu yn agosach at yr amser, ond maent wedi’u gwasgaru ar draws cyfnod hwy er mwyn sicrhau y cynigir cymorth cyson trwy gydol y flwyddyn.

Disgwylir iddynt fod fel a ganlyn:

  • £300 – Ail Daliad Costau Byw – yn ystod yr Hydref 2023
  • £150-£300 – Taliad Costau Byw i Bensiynwyr – fe gewch chi £150 neu £300 ychwanegol gyda’ch taliad arferol o fis Tachwedd 2023
  • £299 – Trydydd Taliad Costau Byw – yn ystod y Gwanwyn 2024

Os ydych chi’n gymwys, byddwch yn cael y taliad yn awtomatig, ac ni fydd angen i chi wneud cais.

Am ragor o wybodaeth, trowch at: https://www.gov.uk/guidance/cost-of-living-payment.cy  

Yma i helpu

A ydych chi’n gwybod pa help sydd ar gael i’ch helpu i dalu costau byw?

Mae Advice Link Cymru, gwasanaeth Cyngor ar Bopeth a ariannir gan y llywodraeth, a Llywodraeth Cymru yn cydweithio er mwyn helpu pobl gyda chostau byw sy’n codi.

Os nad ydych yn siŵr pa gymorth sydd ar gael i chi, gall Advicelink Cymru eich helpu i ddarganfod yr hyn yr ydych yn gymwys i’w gael ac i hawlio’r hyn sy’n ddyledus i chi megis Taliad Annibyniaeth Personol, Lwfans Gofalwyr a Chredyd Pensiwn.  Mae eu cyngor yn gyfrinachol ac ar gael yn rhad ac am ddim ar 0808 250 5700.  Mae’r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm.

Croesawir galwadau yn Gymraeg / Calls are welcomed in Welsh.

Cyngor ar bopeth: Advicelink Cymru

Llywodraeth Cymru: Yma i helpu gyda chostau byw

Sut i reoli eich arian

1. Beth yw eich incwm?

Faint o arian sy’n dod i mewn i’ch aelwyd? A ydych chi’n hawlio’r holl fudd-daliadau sydd ar gael i chi?

“Un o’r pethau cyffredin y mae pobl oedran cael pensiwn ac y mae ganddynt gynilion yn ei gamddeall yw re ydynt yn gallu hawlio Credydau Pensiwn,” dywedodd Kate Abraham, ein TSO ym Mhen-y-bont ar Ogwr. “Mae’r budd-dal hwn yn seiliedig ar incwm, nid cynilion. Os ydych yn gymwys i gael y Credyd Pensiwn, hyd yn oed os byddwch yn cael £1 ychwanegol yn unig, yna gallwch hawlio cymorth arall fel Budd-dal Tai, gostyngiadau i’ch treth gyngor a budd-daliadau iechyd eraill.’

“Mae pobl iau sy’n gweithio yn tybio re ydynt yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol re ic bod yn ennill cyflog. Fodd bynnag, os ydynt yn talu eu rhent ac ar incwm isel, gallent fod yn gymwys i gael rhywfaint o Gredyd Cynhwysol. Os ydych chi’n hawlio Credyd Cynhwysol, gallwch hawlio taliadau grant dewisol a thaliadau costau byw eraill hefyd.

 

2. Beth ydych chi’n ei wario?

  1. I wneud hyn, bydd angen i chi gasglu eich datganiadau banc am y tri mis diwethaf o leiaf. Y ffordd orau o ddechrau yw casglu biliau, datganiadau banc, slipiau cyflog a derbynebau a gawsoch yn ddiweddar er mwyn cael darlun clir o’ch incwm a’ch alldaliadau bob mis, a gwneud nodyn ohonynt. Cofiwch gynnwys unrhyw filiau blynyddol fel trwydded deledu, treth car neu yswiriant car.

 

3. Beth yw’r biliau sy’n flaenoriaeth i chi?

Dylid ystyried mai talu eich rhent, eich treth gyngor, eich biliau nwy, trydan a dŵr yw’r peth pwysicaf i’w wneud. Fodd bynnag, mae pethau y gallwch eu gwneud i sicrhau ei bod yn haws i chi dalu’r alldaliadau.

Os na fyddwch yn talu eich rhent, gallech golli eich cartref, felly os ydych chi’n ei chael hi’n anodd, dylech gael sgwrs gyda’ch Swyddog Tai am reoli taliadau cyn i chi fynd i ddyled.

 

Treth gyngor

I ddarganfod a ydych chi’n gymwys i hawlio gostyngiad, trowch at gov.uk/apply-council-tax-reduction 

Trwydded deledu

Os ydych chi’n gwylio teledu, trwy ffrydio re ich neu sianelau tanysgrifio eraill, rhaid bod gennych chi drwydded deledu. Gallwch dalu am eich trwydded deledu mewn sawl ffordd, re  ai bob wythnos, bob pythefnos, bob mis neu bob blwyddyn. I gael gwybod pa ddewis yw’r un gorau i chi, trowch at eu gwefan, tvlicensing.co.uk/cs/pay-for-your-tv-licence

Bil dŵr

Cynlluniwyd tariff HelpU Dŵr Cymru er mwyn helpu aelwydydd sydd ar incwm isel trwy roi cap ar y swm y bydd yn rhaid i chi ei dalu am eich dŵr. I gael gwybod mwy, trowch at dwrcymru.com/en/support-with-bills/helpu-tariff

Nwy a Thrydan

Yn yr hinsawdd sydd ohoni, mae’n anos newid i gyflenwr rhatach. Ond os ydych chi’n ei chael hi’n anodd, siaradwch â’ch cyflenwr.

Rhyngrwyd a ffôn

Os ydych chi ar incwm isel, mae rhai darparwyr ffôn a band eang yn cynnig tariff cymdeithasol, am gyn lleied â £10 y mis, sy’n cynnig pecyn rhwyd ddiogelwch o funudau am ddim ar gyfer galwadau a swm bach o ddata. Trowch at ofcom.org.uk/phones-telecoms-and-internet/advice-for-consumers/costs-and-billing/social-tariffs i gael gwybod mwy.

4. Archwiliwch eich tanysgrifiadau

A ydych chi’n talu am dreialon am ddim a ddaeth i beth fisoedd yn ôl ac re ydych re i defnyddio mwyach? A oes angen i chi dalu am bethau fel yswiriant ffôn, yswiriant re ich dyfeisiau, neu wasanaethau ffrydio fel Amazon, Netflix, Disney? A yw eich hoff raglenni teledu ar gael ar blatfformau eraill am ddim e.e. All4, ITVHub neu BBC iPlayer?

  1.  

 

5. A oes gennych chi ddyledion cerdyn credyd?

Os ydych chi yn gwario neu wedi gwario symiau ar gerdyn credyd sydd â chyfraddau llog uchel trwy dalu’r isafswm bob mis, mae’n bosibl mai’r llog yn unig y byddwch yn ei dalu, nid y ddyled. Efallai ei bod yn werth i chi ystyried newid i gerdyn sy’n cynnig cyfradd llog o 0%. Gallai hyn gostio ffi gychwynnol o 1%. Gan ddibynnu ar y swm a hyd y cyfnod y byddwch yn gallu manteisio ar log o 0%, gallai fod yn werth ei wneud. Byddwch yn ofalus pan fydd y cyfnod llog 0% yn dod i ben, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu llog – neu newid eto. Am ragor o gyngor, trowch at: moneysavingexpert.com/credit-cards/ 

  1.  

 

6. A ydych chi’n gallu arbed arian wrth siopa bwyd?

A yw’ch teulu chi yn hoff iawn o frandiau bwyd ac a fydden nhw’n gwybod pe baech yn dewis cynhyrchion rhatach neu frand siop?

Mae rhwydwaith y pantrïoedd bwyd yn tyfu. Gall pobl ar incwm isel ymuno â’u pantri lleol a phrynu bagiau o fwyd bob wythnos am bris llawer is.

I gael manylion eich pantri leol, trowch at yourlocalpantry.co.uk/pantry-listings/

Mae Ymddiriedolaeth Trussell yn rhedeg rhwydwaith o fanciau bwyd hefyd, lle y gallwch gael 3 parsel bwyd am ddim bob chwe mis.

Am ragor o wybodaeth, trowch at trusselltrust.org/get-help/find-a-foodbank/ Gallwch gysylltu â’ch Swyddog Cymorth Tenantiaeth lleol hefyd, a fydd yn gwybod am gynlluniau bwyd a chymorth arall yn eich ardal hefyd.

Wrth i gost eitemau bob dydd a phrisiau ynni barhau i godi, mae nifer o bobl yn canfod bod llai o arian yn dod i mewn na swm yr arian sy’n mynd allan.

Nid yw paratoi – a chynnal – cyllideb (rhestr o bopeth y byddwch yn ei wario ac yn ei ennill mewn mis) fyth wedi bod yn bwysicach.

Bron bob dydd fel arfer, bydd ein Swyddogion Cymorth Tenantiaeth (TSOs) yn cynnig cyngor cyllidebu i breswylwyr sy’n ei chael hi’n anodd. Yma, maent yn rhannu eu cyngor er mwyn creu cyllideb a rheoli eich incwm a’ch alldaliadau.

Taliadau i helpu i dalu biliau ynni yn ystod y gaeaf

Hider

Your content goes here. Edit or remove this text inline or in the module Content settings. You can also style every aspect of this content in the module Design settings and even apply custom CSS to this text in the module Advanced settings.

Taliadau Tanwydd Gaeaf

Os cawsoch eich geni ar neu cyn 25 Medi 1957, gallech gael rhwng £250 a £600 er mwyn eich helpu i dalu eich biliau gwresogi.

Er mwyn bod yn gymwys, rhaid eich bod yn cael Pensiwn y Wladwriaeth neu fudd-dal nawdd cymdeithasol arall (nid Budd-dal Tai, Gostyngiad Treth Gyngor, Budd-dal Plant neu’r Credyd Cynhwysol). Byddwch yn cael eich Taliad Tanwydd Gaeaf yn awtomatig (ni fydd angen i chi ei hawlio)

gov.uk/winter-fuel-payment

Taliadau Tywydd Oer

Bydd cynllun Tywydd Oer 2022 yn cychwyn ar 1 Tachwedd. Mae Taliadau Tywydd Oer yn wahanol i Daliadau Tanwydd Gaeaf ac fe’u telir os cofnodir bod y tymheredd cyfartalog yn eich ardal yn sero gradd Celsius neu’n is am 7 diwrnod yn olynol, neu os disgwylir iddo fod yn sero gradd Celsius neu’n is am 7 diwrnod yn olynol.

Gallech gael £25 am bob cyfnod 7 diwrnod o dywydd oer iawn rhwng 1 Tachwedd a 31 Mawrth.

Byddwch yn gallu edrych i weld a fydd taliad yn cael ei dalu yn eich ardal chi ym mis Tachwedd 2022. Gallwch fod yn gymwys i gael taliadau os ydych chi’n cael budd-daliadau penodol e.e., Credyd Pensiwn, Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy’n seiliedig ar Incwm, Credyd Cynhwysol neu Gymorth ar gyfer Llog Morgais.

gov.uk/cold-weather-payment

Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes Newydd

Mae’r Llywodraeth wedi codi’r taliad o £140 i £150 ond mae wedi newid y manylion o ran y sawl sy’n gallu hawlio a’r sawl nad ydynt yn gallu hawlio’r cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes. Cyflwynwyd y newidiadau ym mis Gorffennaf 2022, ac ni fydd y rhai sy’n hawlio lwfans byw i’r anabl a thaliadau annibyniaeth personol yn gymwys i gael yr ad-daliad mwyach. Fodd bynnag, gall y rhai sy’n hawlio Budd-dal Tai ei hawlio nawr.

Dan y newidiadau, dim ond y rhai y mae eu costau ynni yn uchel ac sy’n hawlio budd-dal prawf modd fydd yn gymwys. Bydd eich cymhwystra i hawlio (a faint o arian y byddwch yn ei gael wedyn) yn dibynnu ar eich incwm a’ch cynilion.

I gael gwybod mwy ac i weld a yw’ch cyflenwr ynni yn rhan o’r cynllun, trowch at gov.uk/the-warm-home-discount-scheme

Bydd eich cyflenwr trydan yn penderfynu pwy fydd yn gallu cael y gostyngiad ac mae nifer y gostyngiadau yn gyfyngedig. Os ydych chi’n gymwys, bydd angen i chi aros gyda’ch cyflenwr nes y caiff ei dalu.

Os ydych chi’n gymwys dan y rheolau newydd, byddwch yn cael llythyr o fis Hydref a fydd yn nodi y byddwch yn cael yr ad-daliad yn awtomatig ac felly, na fydd angen i chi wneud unrhyw beth, neu a fydd yn nodi y gallech fod yn gymwys, ond bod angen i chi ffonio llinell gymorth benodedig i ddarparu tystiolaeth bellach o’ch cymhwystra.

Os ydych chi’n credu eich bod yn gymwys ond os na fyddwch yn cael y llythyr ym mis Hydref, gallwch gysylltu â llinell gymorth, a fydd ar gael ar Gov.uk neu trwy Gyngor ar Bopeth.

I gael gwybod mwy, trowch at:

moneysavingexpert.com/news/2022/03/warm-home-discount-reforms-/

Dyled ynni

Os tynnir didyniadau dyled o’ch mesurydd rhagdalu, gallwch ffonio eich cyflenwr a gofyn iddynt ostwng cyfradd y didyniad i’r isafswm os byddwch yn sôn wrthynt am unrhyw elfennau agored i niwed, cyflyrau iechyd neu bryderon ariannol sydd gennych chi. Fel arfer, gallwch weld rhif eich cyflenwr ar eich bil neu’ch datganiad. Mae’r help y byddant yn gallu ei ddarparu yn cynnwys credyd ‘oriau cyfeillgar’, credyd cymorth ychwanegol neu gredyd brys.

Dylech ddweud wrth eich cyflenwr yn syth os nad ydych yn gallu gwneud taliad atodol i’ch mesurydd am unrhyw reswm.

Am ragor o wybodaeth, trowch at www.fuelbankfoundation.org