Os yw’ch larwm carbon monocsid yn canu (yn hytrach na gwneud sŵn sy’n dynodi bod y batri yn isel) ac os nad oes unrhyw un sy’n bresennol yn teimlo’n sâl, dylech ddiffodd pob dyfais nwy a sicrhau bod pawb yn eich cartref yn gadael yr eiddo.
Yna ffoniwch 0800 052 2526 ar unwaith.
Os bydd unrhyw un yn eich cartref wedi bod yn agored i lefelau carbon monocsid isel, efallai y byddant yn cwyno am y canlynol:
- pennau tost
- dryswch
- teimlo’n ymosodol
- cyfog
- chwydu a/neu ddolur rhydd
Gallai symptomau difrifol gynnwys:
- croen llwyd-las
- anadlu’n gyflym a chael anhawster anadlu
- lefel ymateb ddiffygiol, gan arwain at ddiffyg ymateb
Os bydd gan unrhyw un yn eich cartref y symptomau hyn, dylech adael yr eiddo a cheisio cyngor meddygol ar unwaith.
Fodd bynnag, os yw’ch larwm yn canu bob hyn a hyn, mae’n debygol bod angen disodli’r batri sy’n cyflenwi pŵer wrth gefn iddo. I wneud hyn, tynnwch y gorchudd oddi ar y larwm, gan ddisodli’r batri sydd ynddo.