Talu eich rhent ac unrhyw daliadau ddylai fod eich blaenoriaeth bennaf. Os na fyddwch yn talu, byddwch mewn perygl o golli eich cartref.
Talu trwy drefniant Debyd Uniongyrchol yw’r ffordd hawsaf o dalu eich rhent. Mae’n hawdd gwneud y trefniant hwn a gellir cymryd taliadau bob wythnos, bob pythefnos neu bob mis yn unol â’ch dewis.
Mae Debyd Uniongyrchol yn gyfleus ac yn rhoi mwy o reolaeth i chi dros eich arian.
Mae’n cynllun talu Debyd Uniongyrchol yn cynnig gwarant taliad. Os bydd unrhyw newidiadau i swm eich Debyd Uniongyrchol, byddwn yn rhoi gwybod i chi o leiaf 10 diwrnod gwaith ymlaen llaw.
Os hoffech sefydlu Debyd Uniongyrchol cysylltwch â’ch swyddog tai.
Cwestiynau Cyffredin
Nid oes gennyf gyfrif banc, a oes modd i mi dalu trwy drefniant Debyd Uniongyrchol o hyd?
Os nag oes gennych chi gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu, peidiwch gofidio, gallwn eich helpu a’ch cynorthwyo i agor un.Cysylltu â’m Swyddog Tai
Taliadau Debyd Uniongyrchol - penwythnosau a gwyliau banc
Bydd Debyd Uniongyrchol sy’n ddyledus i’w talu ar ŵyl banc neu benwythnos, yn disgyn ar y diwrnod gwaith nesaf.
Os yw’ch debyd uniongyrchol yn ddyledus ar 15, 16, 17 neu 18 Ebrill ni welwch hwn yn dod allan o’ch cyfrif banc tan ddydd Mawrth 19 Ebrill.
Gan ein bod yn cyflwyno’r ffeil dalu ymlaen llaw fe all ddangos fel trafodyn sydd ar ddod ac felly effeithio ar eich cronfeydd sydd wedi’u clirio dros ŵyl y banc.
Nid oes gennyf ddigon o arian yn fy nghyfrif banc ar gyfer fy nhaliad Debyd Uniongyrchol. Beth ddylwn i ei wneud?
Cysylltwch â ni ar unwaith er mwyn i ni allu trafod talu eich rhent gyda chi. Os byddwn yn cael gwybod mewn da bryd, dri ddiwrnod gwaith fel arfer, efallai y byddwn yn gallu atal y Debyd Uniongyrchol, a fydd yn golygu na fydd yn rhaid i chi dalu taliadau banc.E-bost: Direct.Debits@wwha.co.ukCysylltu â’m Swyddog Tai
Rydw i'n ei chael hi'n anodd talu fy rhent a'm biliau. A oes modd i chi helpu?
Oes. Cysylltwch â’ch Swyddog Tai am gymorth a chyngor.Cysylltu â’m Swyddog Tai
Sut allaf drefnu archeb sefydlog?
Archeb Sefydlog yw pan fyddwch yn dweud wrth eich banc i dalu swm penodol i ni yn rheolaidd. Siaradwch â’ch swyddog tai, a fydd yn gallu eich helpu i drefnu archeb sefydlog.Cysylltu â’m Swyddog Tai
Pwy ddylwn i gysylltu â nhw os oes gennyf ymholiadau am fy rhent?
Cysylltwch â’ch Swyddog Tai, a fydd yn helpu gydag unrhyw ymholiadau sydd gennych chi, neu ffoniwch ein Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 0800 052 2526.Cysylltu â’m Swyddog Tai
Mae gennyf Gerdyn Sweipio, a ydw i'n gallu defnyddio hon o hyd?
Gall preswylwyr sy’n defnyddio Cardiau Sweipio ar hyn o bryd, barhau i dalu fel hyn. Talu trwy drefniant Debyd Uniongyrchol yw’r ffordd symlaf o dalu’ch rhent, wrth i daliadau rheolaidd gael eu cymryd o’ch cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu ar ddyddiad sy’n addas i chi.Cysylltu â’m Swyddog Tai