Os ydych chi’n credu bod Nwy yn gollwng gyda chi, ffoniwch Wales and West Utilities ar 0800 111 999 ar unwaith

Os bydd eich Larwm CO yn canu, ffoniwch Wales and West Utilities ar 0800 111 999 ar unwaith

Gwasanaeth gwresogi y tu allan i oriau swyddfa

Bydd ein timau yn dod allan i argyfyngau yn unig (fel arfer, bydd argyfwng yn golygu bod risg i ddiogelwch neu risg difrod helaeth i’r eiddo)

  • Gollyngiad anataliadwy o system wresogi, ni ellir delio â’r gollyngiad hwn gan ddefnyddio bwced ac mae’n achosi difrod helaeth i eiddo (eiddo arall cyfagos); bydd y peiriannydd yn sicrhau ei fod yn ddiogel yn unig, mae’n bosibl na fydd hyn yn trwsio’r broblem yn llawn, ac mae’n debygol y bydd gofyn cynnal ymweliad arall ymhen ychydig oriau er mwyn cwblhau’r gwaith trwsio
  • Dim gwres Canolog/dŵr poeth – bydd un o beirianwyr Cambria yn dod allan i sicrhau ei fod yn ddiogel (yn ôl y gofyn) ac yn darparu gwres trydanol dros dro – os derbynnir hyn.
  • Efallai y bydd y peiriannydd yn ceisio ffonio’r preswylydd a delio â’r mater dros y ffôn

Beth allwch chi ei archwilio?

  • A oes credyd gennych chi yn y ddau fesurydd?
  • A oes unrhyw godau gwall ar eich mesurydd?  (bydd angen adrodd am hyn i’ch cyflenwr ynni)
  • Ewch i archwilio thermostat yr ystafell – a yw hwn ymlaen?
  • A yw eich falfiau rheiddiadur thermostatig wedi’u troi i fyny?
  • A oes unrhyw godau gwall yn fflachio ar y boeler?  (bydd hyn yn helpu’r peiriannydd i gywiro’r mater dros y ffôn, materion pwysedd, materion ailosod, ac ati)