
Chwilio am gartref
Mae gan Dai Wales & West dros 12,000 eiddo yn ardaloedd 15 o awdurdodau lleol ar draws Gogledd, De a Gorllewin Cymru.
Mae mwyafrif ein cartrefi yn rhai i’w rhentu. Mae’r rhain yn amrywio o fflatiau un ystafell wely a chartrefi mwy o faint i deuluoedd, i fflatiau ymddeol a gofal ychwanegol.
Rydym yn ddatblygwr mawr sy’n adeiladu cannoedd o gartrefi newydd fforddiadwy ac o ansawdd uchel bob blwyddyn, i’w rhentu mewn mannau lle y byddwch yn dymuno byw. Yn ogystal, rydym yn gwerthu cartrefi newydd trwy ein cynlluniau Perchentyaeth Cost Isel.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn byw yn un o’n cartrefi, defnyddiwch yr offeryn chwilio am gartref uchod, a fydd yn dweud wrthych yr hyn y mae angen i chi ei wneud er mwyn gwneud cais.
Cwestiynau Cyffredin
Beth yw Gofal Ychwanegol?
Mae pob unigolyn yn wahanol, felly fel preswylydd, bydd y gofal a’r cymorth a ddarparir yn dibynnu ar eich anghenion. Mae cyfle i chi gymdeithasu, cyfarfod pobl newydd a mwynhau dysgu sgiliau newydd hefyd.
Beth yw cost y cynllun perchentyaeth cost isel?
Cynigir cartrefi dan y cynlluniau i brynwyr am 70% o’u gwerth ar y farchnad agored. Byddech chi’n berchen ar yr eiddo yn llwyr, ond byddai Tai Wales & West yn dal pridiant cyfreithiol dros y gyfran ecwiti 30% sy’n weddill. Dim ond am y 70% y byddai angen i chi sicrhau morgais/blaendal, ac ni fyddai unrhyw log na rhent yn daladwy ar y gyfran ecwiti o 30%.
Bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus ddangos trwy gyfrwng morgais mewn egwyddor eu bod yn gallu talu am 70% o werth yr eiddo. Byddai gofyn i gwmnïau morgais gael blaendal o rhwng 5% a 15% o hyd fel arfer.
Bydd prynu eiddo trwy’r cynllun yn golygu talu’r costau arferol sy’n gysylltiedig â phrynu eiddo ar y farchnad agored, gan gynnwys prisiad, ffioedd arolwg a morgais, ffioedd cyfreithiol a threth stamp.
A ydych chi'n caniatáu anifeiliaid anwes?
Sut ydw i i drosglwyddo i gartref arall Tai Wales & West?
Gall preswylwyr Tai Wales & West gofrestru am ddim ar HomeSwapper ac ar ôl i chi gofrestru, gallwch bostio manylion yr hyn yr ydych yn chwilio amdano a’r hyn yr ydych yn ei gyfnewid. Bydd HomeSwapper yn chwilio am unrhyw bosibiliadau yn awtomatig, gan roi gwybod i chi am unrhyw gyfleoedd addas posibl.
Ar ôl i chi ddod o hyd i rywun i gyfnewid â nhw, cysylltwch â’n Tîm Dewisiadau Tai ar 0800 052 2526 neu anfonwch e-bost atom, at housingoptionsteam@wwha.co.uk. Byddant yn anfon y ffurflen gyfnewid atoch i’w llenwi a’i dychwelyd cyn y gallwn ni gymeradwyo’r cam o gyfnewid.
Cyn gwneud cais cydgyfnewid, dylech sicrhau:
- Eich bod wedi bod yn denant ers dros 12 mis
- Bod eich holl daliadau rhent wedi cael eu talu
- Bod eich cartref mewn cyflwr da iawn
- Bod yr eiddo yr ydych yn bwriadu symud iddo yn addas i’ch anghenion
- Nad ydych yn torri unrhyw un o amodau eraill eich cytundeb tenantiaeth
Sut allaf i gyfnewid cartref?
Ar gyfer ardaloedd awdurdodau lleol eraill, bydd yn rhaid i chi gysylltu â’r awdurdod lleol yn yr ardal yr ydych yn dymuno symud iddi, gan ymuno â’u Cofrestr Tai Cyffredin nhw.
Cyn gwneud cais am drosglwyddiad, dylech sicrhau:
- Bod eich holl daliadau rhent wedi cael eu talu
- Bod eich eiddo mewn cyflwr da
- Nad ydych yn peri unrhyw niwsans i’ch cymdogion
Efallai yr hoffech ystyried cydgyfnewid, oherwydd y gallai hyn gynyddu’ch siawns o ddod o hyd i gartref addas yn gyflymach.