Rheoli fy nghartref

Mae croeso i chi fynd ati i greu cartref o’ch eiddo Tai Wales & West. 

Byddwn yn eich cynorthwyo i gynnal eich meddiannaeth a byw yn eich cartref am ba mor hir y byddwch yn dymuno gwneud hynny.  Yn ei dro, disgwylir i chi ofalu am eich cartref.  Boed hynny trwy sicrhau eich bod yn talu eich rhent mewn pryd, yn adrodd am faterion cynnal a chadw neu’n gofyn am newidiadau i’ch contract meddiannaeth, gallwch reoli hyn oll ar-lein mewn ffordd syml. 

Talu fy rhent

Adrodd am waith trwsio

Adrodd am ymddygiad gwrthgymdeithasol

Talu fy rhent   >
Adrodd am waith trwsio   >
Adrodd am ymddygiad gwrthgymdeithasol   >
Cymorth gyda’r argyfwng costau byw   >

Gwneud newidiadau i’ch contract meddiannaeth 

Bydd angen i chi ofyn i ni yn ysgrifenedig os byddwch yn dymuno gwneud newidiadau i’ch cartref neu i’ch Contract Meddiannaeth.  Mae hyn yn cynnwys: 

  • Cael anifail anwes  
  • Cael rhywun arall yn symud i mewn i’ch cartref
  • Gwneud gwelliannau DIY megis paentio tu allan eich cartref neu adeiladu sied

A fyddech gystal â llenwi’r ffurflen hon i ofyn am ganiatâd i wneud newid neu gysylltu â’ch Swyddog Tai am ragor o wybodaeth. 

i
Gofyn am newid i’m contract meddiannaeth >
Small dog looks to camera standing next to a 'Home Sweet Home' celebration card
Small dog looks to camera standing next to a 'Home Sweet Home' celebration card

Mythau am gyddwysiad 

Efallai eich bod wedi sylwi ar ddiferion dŵr yn ffurfio o bryd i’w gilydd, gan redeg i lawr eich ffenestri.  Cyddwysiad yw hwn.  Mae’n digwydd pan fydd lleithder yn yr aer yn eich cartref yn cyffwrdd arwyneb oer fel ffenestri a waliau.  Fel arfer, mae’r aer yn ein cartrefi yn llaith, ond gall coginio, ymolchi a chael cawod, a hyd yn oed anadlu, ychwanegu i’r lleithder.  Nid yw hyn yn broblem o reidrwydd os bydd yn clirio yn gyflym, ond os byddwch yn ei adael, gydag amser, gall arwain at dyfiant llwydni. 

Pa ddyfais yn eich cartref sy’n defnyddio cyfanswm mwyaf yr ynni? 

Wrth i brisiau nwy, olew a thrydan barhau i godi’n sylweddol, nid yw hi fyth wedi bod mor bwysig defnyddio ynni mewn ffordd effeithlon.  Gall dewis y dyfeisiau sy’n defnyddio ynni yn y ffordd fwyaf effeithlon yn eich cartref arbed ynni – ac arian – i chi ar filiau.  Yma, rydym yn darganfod beth yw’r dyfeisiau sy’n defnyddio cyfanswm uchaf yr ynni yn y cartref, yn ôl yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni, a chynigir ychydig gyngor am sut i’w defnyddio mewn ffordd mor effeithlon ag y bo modd. 

Cyngor am dywydd oer

Mae tywydd oer yn rhan o dywydd tymhorol arferol bob blwyddyn, ac mae’n bwysig gofalu am eich hunain a’ch cartref pan fydd yn codi.

Ceir rhai camau syml y gallwch eu cymryd i gadw eich hun yn gynnes ac i sicrhau bod eich cartref yn cael ei ddiogelu rhag amodau gwaethaf tywydd y gaeaf.

Cofiwch y dylech wastad ein ffonio ni mewn argyfwng, sef 0800 052 2526.