Arall

Manylion polisi yswiriant/Manylion Adnabod y Porth
Ar gyfer Atebolrwydd Cyflogwr, ein hyswiriwr yw Aspen, rhif y polisi IoAG3WJ23A0M trwy Arthur J. Gallagher Insurance Brokers Ltd a manylion adnabod digolledwr y porth yw AJGallagher G00315. Ar gyfer Atebolrwydd Cyhoeddus, ein hyswiriwr yw Aspen, rhif y polisi IoAG3WJ23A0M trwy Arthur J. Gallagher Insurance Brokers Ltd a manylion adnabod digolledwr y porth yw AJGallagher G00315.

Cyffredinol

Cwyn neu Bryder
Gallwch wneud cwyn neu mynegi eich pryder gyda ni: Rydym yn cymryd cwynion a phryderon o ddifrif. Credwn mai'r peth gorau yw delio gyda materion yn syth a byddwn yn ceisio ei ddatrys i chi mewn ffordd anffurfiol yn y fan a'r lle neu'n cymryd camau i'w ddatrys. Byddwn yn adolygu eich cwyn/pryder yn ffurfiol os byddwch yn anfodlon neu os yw'ch cwyn/pryder yn un o natur ddifrifol iawn. Fel rhan o'r broses benderfynu ffurfiol:- Byddwn yn cydnabod eich cwyn gan nodi manylion y sawl a fydd yn ymchwilio i'ch cwyn. Byddwn yn gofyn i chi beth ydych yn dymuno i ni ei wneud i ddatrys y broblem. Ein nod fydd ymchwilio ac ymateb i chi cyn pen 20 diwrnod gwaith (ond efallai y bydd angen i ni ymestyn y cyfnod hwn os yw'n fater cymhleth). Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am yr hyn sy'n digwydd; bydd lefel y cyswllt yn seiliedig ar y mater ei hun.
Beth yw cost y cynllun perchentyaeth cost isel?
Gweithredir y cynllun hwn gan Dai Wales & West mewn partneriaeth â'r awdurdod lleol er mwyn cynorthwyo'r rhai sy'n prynu eiddo ac sy'n dymuno gwneud hynny, ond nad ydynt yn gallu talu'r gost lawn o brynu eu cartref cyntaf. Cynigir cartrefi dan y cynlluniau i brynwyr am 70% o'u gwerth ar y farchnad agored.  Byddech chi'n berchen ar yr eiddo yn llwyr, ond byddai Tai Wales & West yn dal pridiant cyfreithiol dros  y gyfran ecwiti 30% sy'n weddill.  Dim ond am y 70% y byddai angen i chi sicrhau morgais/blaendal, ac ni fyddai unrhyw log na rhent yn daladwy ar y gyfran ecwiti o 30%. Bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus ddangos trwy gyfrwng morgais mewn egwyddor eu bod yn gallu talu am 70% o werth yr eiddo.  Byddai gofyn i gwmnïau morgais gael blaendal o rhwng 5% a 15% o hyd fel arfer. Bydd prynu eiddo trwy'r cynllun yn golygu talu'r costau arferol sy'n gysylltiedig â phrynu eiddo ar y farchnad agored, gan gynnwys prisiad, ffioedd  arolwg a morgais, ffioedd cyfreithiol a threth stamp.
Sut allaf fod yn Aelod o’r Bwrdd?
Etholir aelodau'r Bwrdd o blith y cyfranddalwyr, felly rhaid bod unrhyw un sy'n ystyried gwneud cais i fod yn gyfranddaliwr feddu ar y sgiliau, y profiad ac mae gofyn iddynt fod yn fodlon sefyll fel Aelod Bwrdd. Mae'r Bwrdd yn cymeradwyo ceisiadau darpar gyfranddalwyr, ac mae'n ceisio denu pobl sy'n cynrychioli'r cymunedau y mae'r Gymdeithas yn eu gwasanaethu.

Rheoli fy nghartref

Sut allaf i gyfnewid cartref?
Os ydych chi’n dymuno symud tŷ, y ffordd hawsaf yw cyfnewid gyda rhywun arall sy’n byw mewn tŷ y mae landlord cymdeithasol cofrestredig yn berchen arno. Mae HomeSwapper yn wefan lle y gall pobl sy’n dymuno symud nodi manylion yr hyn y maent yn ei ddymuno a chael eu cyfateb gyda phobl arall sy’n dymuno symud.

Gall preswylwyr Tai Wales & West gofrestru am ddim ar HomeSwapper ac ar ôl i chi gofrestru, gallwch bostio manylion yr hyn yr ydych yn chwilio amdano a’r hyn yr ydych yn ei gyfnewid. Bydd HomeSwapper yn chwilio am unrhyw bosibiliadau yn awtomatig, gan roi gwybod i chi am unrhyw gyfleoedd addas posibl.

Ar ôl i chi ddod o hyd i rywun i gyfnewid â nhw, siarad â'ch swyddog tai. Byddant yn anfon y ffurflen gyfnewid atoch i’w llenwi a’i dychwelyd cyn y gallwn ni gymeradwyo’r cam o gyfnewid.

Cyn gwneud cais cydgyfnewid, dylech sicrhau:

  • Eich bod wedi bod yn denant ers dros 12 mis
  • Bod eich holl daliadau rhent wedi cael eu talu
  • Bod eich cartref mewn cyflwr da iawn
  • Bod yr eiddo yr ydych yn bwriadu symud iddo yn addas i’ch anghenion
  • Nad ydych yn torri unrhyw un o amodau eraill eich contract deiliadaeth
Rydw i eisiau newid rhywbeth yn fy nghartref
Bydd angen i chi ofyn i ni yn ysgrifenedig os ydych yn dymuno gwneud newidiadau i'ch cartref neu i'ch Contract Meddiannaeth (gan gynnwys gwneud cais i gael anifail anwes). A fyddech gystal â llenwi'r ffurflen hon i ofyn am ganiatâd i wneud newid neu i gysylltu â'ch Swyddog Tai.
Ble allaf i gael gwybod yr hyn i’w wneud am broblem benodol yn fy nghartref neu y tu allan i’m cartref? ⁠
Mae ein tudalen adrodd am waith trwsio yn cynnwys canllawiau am yr hyn i’w wneud am amrediad o faterion yn y cartref, o fod heb wres, dŵr poeth neu drydan i ddrysau wedi torri a dŵr yn gollwng. ⁠Gallwch gael gwybod yr hyn i’w wneud am faterion allanol hefyd fel llygod mawr, llygod, gwenyn a gwenyn meirch neu goed sydd wedi tyfu’n wyllt. ⁠Troi at dudalen adrodd am waith trwsio.
Sut allaf i adrodd am waith trwsio?
Gallwch adrodd ar-lein am waith trwsio y mae angen ei wneud, trwy ddefnyddio ein ffurflen gwaith trwsio, neu ffonio 0800 052 2926.  Mae ein llinell gwaith trwsio ar agor o 8am i 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener ⁠ Rhoddir sylw i’r holl waith trwsio nad yw’n waith trwsio brys yn ystod yr oriau hyn. I gael gwybod mwy, trowch at ein hadran adrodd am waith trwsio.
A ydych chi’n caniatáu anifeiliaid anwes?
Ydym mewn bron pob achos – rydym yn ymwybodol o’r hapusrwydd a’r cwmni y gall anifeiliaid anwes ei gynnig, a’r unig beth a ofynnwn yw eich bod yn dilyn rhai rheolau syml. A fyddech gystal â rhoi gwybod i’ch swyddog tai os ydych yn bwriadu cael anifail anwes. Ar ôl i chi gael anifail anwes, dylech ofalu amdanynt mewn ffordd gyfrifol, gan sicrhau na fyddant yn peri niwsans i gymdogion. Ni chewch gadw unrhyw anifail sydd wedi’i gofrestru dan Ddeddf Anifeiliaid Gwyllt Peryglus 1976, a dim ond os oes gennych chi dystysgrif eithriad gan lys y cewch chi gadw ci sydd wedi’i gofrestru dan Ddeddf Cŵn Peryglus 1991. Cysylltwch â’ch swyddog tai os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os bydd gofyn i chi gael cyngor.
Sut ydw i i drosglwyddo i gartref arall Tai Wales & West?
Os ydych eisoes yn byw mewn cartref Wales & West ond nid yw’n addas i chi mwyach, gallwch ofyn am drosglwyddiad.Os ydych yn byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr neu Wrecsam siarad â'ch swyddog tai a fydd yn gallu trafod eich dewisiadau gyda chi.

Ar gyfer ardaloedd awdurdodau lleol eraill, bydd yn rhaid i chi gysylltu â’r awdurdod lleol yn yr ardal yr ydych yn dymuno symud iddi, gan ymuno â’u Cofrestr Tai Cyffredin nhw.

Cyn gwneud cais am drosglwyddiad, dylech sicrhau:

  • Bod eich holl daliadau rhent wedi cael eu talu
  • Bod eich eiddo mewn cyflwr da
  • Nad ydych yn peri unrhyw niwsans i’ch cymdogion

Efallai yr hoffech ystyried cydgyfnewid, oherwydd y gallai hyn gynyddu’ch siawns o ddod o hyd i gartref addas yn gyflymach.

Rheoli fy nghyllid

Rydw i’n ei chael hi’n anodd talu fy rhent a’m biliau. A oes modd i chi helpu?
Oes. Cysylltwch â'ch Swyddog Tai am gymorth a chyngor. Cysylltu â'm Swyddog Tai
Sut allaf drefnu archeb sefydlog?
Archeb Sefydlog yw pan fyddwch yn dweud wrth eich banc i dalu swm penodol i ni yn rheolaidd. Siaradwch â'ch swyddog tai, a fydd yn gallu eich helpu i drefnu archeb sefydlog. Cysylltu â'm Swyddog Tai
A oes modd i mi dalu dros y ffôn?
Gallwch dalu dros y ffôn gan ddefnyddio'ch cerdyn debyd neu gredyd trwy ffonio 0800 052 2526 rhwng 8am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Ni allwn dderbyn taliadau cerdyn oni bai bod deiliad y cerdyn yn bresennol. Neu, gallwch dalu ar-lein gan ddefnyddio cerdyn unrhyw bryd.
Mae gennyf Gerdyn Sweipio, a ydw i’n gallu defnyddio hon o hyd?
Gall preswylwyr sy'n defnyddio Cardiau Sweipio ar hyn o bryd, barhau i dalu fel hyn.Talu trwy drefniant Debyd Uniongyrchol yw'r ffordd symlaf o dalu'ch rhent, wrth i daliadau rheolaidd gael eu cymryd o'ch cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu ar ddyddiad sy'n addas i chi. Cysylltu â'm Swyddog Tai
Nid oes gennyf gyfrif banc, a oes modd i mi dalu trwy drefniant Debyd Uniongyrchol o hyd?
Os nag oes gennych chi gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu, peidiwch gofidio, gallwn eich helpu a'ch cynorthwyo i agor un. Cysylltu â'm Swyddog Tai
Pwy ddylwn i gysylltu â nhw os oes gennyf ymholiadau am fy rhent?
Cysylltwch â'ch Swyddog Tai, a fydd yn helpu gydag unrhyw ymholiadau sydd gennych chi, neu ffoniwch ar 0800 052 2526. Cysylltu â'm Swyddog Tai
Nid oes gennyf ddigon o arian yn fy nghyfrif banc ar gyfer fy nhaliad Debyd Uniongyrchol. Beth ddylwn i ei wneud?
Cysylltwch â ni ar unwaith er mwyn i ni allu trafod talu eich rhent gyda chi. Os byddwn yn cael gwybod mewn da bryd, dau ddiwrnod gwaith fel arfer, efallai y byddwn yn gallu atal y Debyd Uniongyrchol, a fydd yn golygu na fydd yn rhaid i chi dalu taliadau banc.E-bost: Direct.Debits@wwha.co.uk Cysylltu â'm Swyddog Tai