Gyrfaoedd
Yr holl swyddi gwag presennol.
Cofrestrwch i gael ein hysbysiadau am swyddi
Pam gweithio i ni?
Rydym yn falch o’n diwylliant, rydym yn gweithio’n galed i sicrhau bod Tai Wales & West yn lle gwych i weithio ac rydym yn ymrwymo i reolaeth ac arweinyddiaeth graff.
Peidiwch â chymryd ein gair ni yn unig, gofynnir i’n staff roi adborth bob blwyddyn, ac mae eu hadborth nhw wedi arwain at achrediad Cwmnïau Gorau sy’n cadarnhau ein bod yn gwmni 3 Seren ac yn perthyn i’r Grŵp o gwmnïau Dosbarth Byd i weithio iddynt yn 2022. Ni hefyd oedd y sefydliad cyntaf yng Nghymru i sicrhau Safon Platinwm Buddsoddwyr mewn Pobl am y ffordd ragorol yr ydym yn gweithredu ac yn gofalu am ein staff, ac rydym yn falch iawn o fod wedi dal ein gafael ar y safon hon.

Swyddi Gwag Presennol
Receptionist/Concierge – Extra Care / Porthor/Derbynnydd – Gofal Ychwanegol
Administration Assistant / Cynorthwyydd Gweinyddol (North)

Yr hyn y byddwn yn ei gynnig i chi
Cyflog gwych
Rydym yn cynnig cyflog cystadleuol ac yn cynnal adolygiad blynyddol.
Gwyliau blynyddol
25 diwrnod o wyliau y flwyddyn, gan godi i uchafswm o 30 diwrnod, 8 o wyliau banc a diwrnod ychwanegol gan y cwmni dros y Nadolig
Prynu a gwerthu gwyliau blynyddol
Y dewis i brynu a gwerthu hyd at 5 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn
Hyfforddiant a datblygu
Gan gynnwys rhaglen ymsefydlu wedi’i phersonoli, rhaglen hyfforddiant arweinyddiaeth sydd wedi ennill gwobrau a chyrsiau Cymraeg a ariannir 100%.
Lles cyflogeion
Gan gynnwys ein cynllun ariannol Simplyhealth er mwyn helpu i ofalu am faich ariannol rhai o’ch triniaethau gofal iechyd arferol.
Trefniadau gweithio hyblyg
Ystod eang o ddewisiadau gwaith hyblyg, megis amser hyblyg, rhannu swydd a gwaith rhan-amser, sydd ar gael i ran fwyaf ein staff
Datblygu ein gweithlu ein hunain
Gwybodaeth am ein menter ddiweddaraf sy’n ceisio rhoi hwb i yrfaoedd pobl trwy roi help llaw iddynt ar yr ysgol yrfaoedd. Datblygu gweithlu ein dyfodol.
–
Gyrfaoedd Cambria
A ydych chi’n drydanwr neu’n beiriannydd nwy cymwys neu a oes gennych chi brofiad ym maes cynnal a chadw eiddo? Mae Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria, sy’n helpu i gynnal a chadw ein cartrefi, yn recriwtio nawr.
Gyrfaoedd Castell
A ydych chi’n chwilio am rôl newydd ym maes gofal a chymorth, arlwyo neu lanhau? Mae Mentrau Castell, rhan o Grŵp Tai Wales & West yn recriwtio nawr am swyddi yng Ngogledd Cymru a Chanolbarth Cymru.
–

Ydych chi eisiau gyrfa sy’n gwneud gwahaniaeth?
Mae tai cymdeithasol yn sector deinamig ac uchelgeisiol gyda chyfleoedd gyrfa gwych.