Beth yw'r mater?

Os byddwch yn ogleuo nwy….

Ffoniwch y gwasanaethau brys ar gyfer nwy ar unwaith ar 0800 111 999.

Ar ôl i chi wneud hyn, dilynwch y camau hyn:

  • Diffoddwch eich holl ddyfeisiau nwy. Os oes modd, dylech ddiffodd y nwy wrth y mesurydd.
  • Agorwch bob ffenestr a drws.
  • Ni ddylech ddefnyddio unrhyw ddyfeisiau trydanol. Mae hyn yn cynnwys eich goleuadau.
  • Ni ddylech ysmygu, defnyddio e-sigaréts nac unrhyw fflamau noeth.
  • Ar ôl atal y nwy rhag gollwng, bydd y Peiriannydd Nwy yn esbonio pa waith y mae gofyn ei gwblhau nawr, gan roi gwaith papur i chi er mwyn cadarnhau hyn.

Ar ôl i chi wneud hyn, ffoniwch ni ar 0800 052 25 26.