Anne Hinchey

Prif Weithredwr y Grŵp

Ymunodd Anne â’r Grŵp ym 1999 ac fe’i penodwyd yn Brif Weithredwr y Grŵp yn 2006.  Mae ganddi brofiad helaeth yn y sector cymdeithasau tai, y sector gwirfoddol a’r sector awdurdodau lleol yng Nghymru, ar ôl cychwyn ar ei gyrfa fel swyddog casglu rhent ym 1985 yng Nghaerdydd.  Mae gan Anne radd BA mewn Hanes a Gwleidyddiaeth, gradd MA mewn Addysg, ac mae’n Gymrawd y Sefydliad Tai Siartredig.

Diddordebau eraill: Aelod o Fwrdd Cambria, Enfys Developments a Castell Homes.

Joanna Davoile

Cyfarwyddwr Gweithredol (Gweithrediadau)

Mae Joanna wedi bod yn gweithio yn y sector tai cymdeithasol yng Nghymru a Lloegr ers dros 20 mlynedd, ar ôl treulio rhan fwyaf yr amser hwnnw ym maes datblygu tai cymdeithasol newydd.  Mae gan Jo ddiploma arweinyddiaeth ôl-raddedig, gradd Meistr mewn Gweinyddu Busnes ac mae’n Hyfforddwr Proffesiynol achrededig.  Ymunodd Jo â’r Grŵp fel Cyfarwyddwr Datblygu yn 2019, cyn dod yn Gyfarwyddwr Gweithredol (Gweithrediadau) yn 2022.

Cyfrifoldebau:  Gwasanaethau Eiddo.

Stuart Epps

Cyfarwyddwr Gweithredol (Cyllid a Datblygu)

Ymunodd Stuart â’r Grŵp yn 2011 a daeth yn Gyfarwyddwr Gweithredol (Cyllid a Datblygu) ar ddechrau 2016.  Mae ganddo dros 30 mlynedd o brofiad fel gweithiwr cyllid proffesiynol uwch ym maes datblygu eiddo, ymgynghori yn yr amgylchedd adeiledig ac adeiladu yng Nghymru.  Mae Stuart yn Gyfrifydd Siartredig cymwysedig.

Cyfrifoldebau: Cyllid, rheoli trysorlys a datblygu.

Buddiannau eraill: Aelod o Fwrdd Cambria, Enfys Developments a Castell Homes.

Steve Porter

Cyfarwyddwr Gweithredol (Datblygu Sefydliadol)

Ymunodd Steve â’r Grŵp yn 2008 fel Pennaeth Gwasanaethau Eiddo cyn dod yn Gyfarwyddwr Gweithrediadau yn 2012 ac yn Gyfarwyddwr Gweithredol (Asedau) yn 2019.  Mae’n meddu ar gymhwyster proffesiynol ac mae ganddo dros 30 mlynedd o brofiad mewn amrywiaeth o rolau arwain uwch ym maes tai, adeiladu a chynnal a chadw.

Cyfrifoldebau: Diogelwch a Chydymffurfiaeth a Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria.

Buddiannau eraill: Aelod o Fwrdd Cambria, Datblygiadau Enfys a Castell Homes.

Alex Stephenson

Cyfarwyddwr Gweithredol (Strategaeth Gorfforaethol a Gwasanaethau)

Mae gan Alex bron i 20 mlynedd o brofiad ym maes tai.  Ar ôl ymuno â’r Grŵp yn yr adran gyllid yn 2004 fel cyfrifydd cymwys, aeth ymlaen i gael ei benodi yn Bennaeth Gwasanaethau Eiddo ac yn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol cyn dod yn Gyfarwyddwr Gweithredol (Strategaeth Gorfforaethol a Gwasanaethau) ar ddechrau 2020.

Cyfrifoldebau: TGCh, Gwasanaethau Corfforaethol, Data, Archwilio ac Uniondeb ac Ailgynllunio Busnes

Buddiannau eraill: Aelod o Fwrdd Cambria, Enfys Developments a Castell Homes.