Beth yw'r mater?

Os yw’r goeden ar dir Tai Wales & West neu o fewn ffiniau ein heiddo, dylech lenwi’r ffurflen. Os yw’r goeden mewn cyflwr peryglus, ffoniwch ni ar 0800 052 2526 a byddwn yn trefnu ei bod yn cael ei gwneud yn ddiogel neu’n cael ei harchwilio.

Os yw’r goeden yn destun Gorchymyn Cadw Coed, rhaid i ni wneud cais i’r awdurdod perthnasol i gyflawni unrhyw waith arni. Gall hyn gymryd ychydig amser.

Ni allwn dorri coed na gwrychoedd yn ystod y tymor pan fo adar yn nythu, rhwng mis Mawrth a mis Awst, yn unol â chanllawiau gan RSPB.