Gallwch wneud cwyn neu mynegi eich pryder gyda ni:

Rydym yn cymryd cwynion a phryderon o ddifrif. Credwn mai’r peth gorau yw delio gyda materion yn syth a byddwn yn ceisio ei ddatrys i chi mewn ffordd anffurfiol yn y fan a’r lle neu’n cymryd camau i’w ddatrys. Byddwn yn adolygu eich cwyn/pryder yn ffurfiol os byddwch yn anfodlon neu os yw’ch cwyn/pryder yn un o natur ddifrifol iawn. Fel rhan o’r broses benderfynu ffurfiol:- Byddwn yn cydnabod eich cwyn gan nodi manylion y sawl a fydd yn ymchwilio i’ch cwyn. Byddwn yn gofyn i chi beth ydych yn dymuno i ni ei wneud i ddatrys y broblem. Ein nod fydd ymchwilio ac ymateb i chi cyn pen 20 diwrnod gwaith (ond efallai y bydd angen i ni ymestyn y cyfnod hwn os yw’n fater cymhleth). Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am yr hyn sy’n digwydd; bydd lefel y cyswllt yn seiliedig ar y mater ei hun.