Beth yw'r mater?

Rydych chi’n gyfrifol am hyn. A ydych chi wedi ceisio gosod bwlb golau newydd? Mae’n rhywbeth eithaf hawdd i’w wneud, os byddwch yn dilyn y camau hyn.

Dilynwch y camau syml hyn:

  1. Yn gyntaf, gwnewch yn siŵr bod y golau wedi’i ddiffodd a bod y bwlb yn oer.
  2. Sefwch ar ysgol risiau ddiogel a chadarn, gan ddibynnu ar uchder eich golau.
  3. Tynnwch y bwlb marw i ffwrdd yn ofalus trwy ei droi yn groes i’r cloc. Os bydd gan eich bwlb blwg bidog (peg metel bach ar y ddwy ochr), bydd angen i chi ei wthio i fyny (neu i lawr) yn ysgafn cyn ei droi.
  4. Rhowch fwlb newydd o’r un math yn lle yr hen un, y gallwch ei brynu o unrhyw siop DIY neu siop drydanol. Argymhellwn eich bod yn defnyddio bwlb halogen sy’n arbed ynni, ac sy’n para’n hirach. Mae bylbiau rhad yn tueddu i chwythu yn fwy rheolaidd na bylbiau o ansawdd da.
  5. I sicrhau bod y golau yn gweithio, dylech ei droi ymlaen wrth y switsh neu’r soced, gan sicrhau nad ydych yn cyffwrdd y bwlb ar y pryd.
  6. Llwyddiant!

Mewn ystafelloedd ymolchi, pan fo’r gosodiad golau yn uned seliedig, eich cyfrifoldeb chi yw newid y bwlb o hyd. Yn yr achos hwn, fel o’r blaen, arhoswch nes bod y bwlb wedi oeri a defnyddiwch ysgol risiau er mwyn cael mynediad diogel. Dylech droi’r gosodiad golau cyfan neu dynnu’r sgriwiau allan er mwyn cael mynediad i’r bwlb golau 2D. Ar ôl tynnu’r gorchudd i ffwrdd, tynnwch y bwlb allan trwy ddal y canol plastig sgwâr. Gellir prynu’r rhain o’r rhan fwyaf o archfarchnadoedd a siopau DIY.