Nid ydym yn gyfrifol am ddelio â phlâu llygod yn eich gardd, oni bai ei bod yn ardd gymunol yn eich cynllun.
Os oes gennych chi ardd gymunol, a fyddech gystal â chysylltu â’r tîm trwsio ar y rhif isod.
Byddwn yn ymgymryd â gwaith trwsio i atal llygod mawr neu lygod rhag dod i mewn i’ch cartref neu’r lle yn nho eich cartref unwaith y byddwch wedi delio â’r pla. Os felly,
dylech lenwi’r ffurflen gwaith trwsio neu ffonio’r tîm trwsio ar 0800 052 2526.