Beth yw'r mater?

Yn gyntaf, ceisiwch dynnu unrhyw beth allan a allai fod yn achosi’r broblem.  Os na fydd hyn yn gweithio, ceisiwch ddefnyddio deunydd dadflocio, y gallwch ei brynu mewn nifer o siopau DIY neu offer neu archfarchnadoedd.

Sicrhewch eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau yn ofalus.  Argymhellwn eich bod yn defnyddio deunydd glanhau sy’n creu ewyn yn rheolaidd (tua unwaith y mis) er mwyn cadw eich system tŷ bach yn lân ac yn glir.

Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod systemau tŷ bach yn lân ac yn glir.  Os bydd peiriannydd yn mynychu a phe byddai wedi bod modd i chi glirio’r rhwystr, mae’n debygol y codir tâl arnoch am y gwaith hwn.