Datblygiadau yn y dyfodol

Ein huchelgais yw adeiladu mwy o gartrefi er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r prinder tai fforddiadwy yng Nghymru.

Rydym yn adeiladu mwy o gartrefi nag erioed o’r blaen – y mathau o gartrefi y mae pobl yn dymuno byw ynddynt, yn yr ardaloedd lle y maent yn dymuno byw. Mewn nifer o ardaloedd, rydym yn gweithio tuag at fod yn garbon niwtral o ran deunyddiau ac adeiladwaith, gan arwain at feddiannaeth sy’n defnyddio bron i ddim ynni o gwbl.

St Bride’s Road

Wick, Bro Morgannwg

Rydym yn gweithio gyda’n partneriaid datblygu tymor hir P+P Builders i ddod â 17 o gartrefi newydd i’w rhentu i’r pentref.

CGI of WWH multi-purpose building at the site of the Former Cardigan Hospital

Hen Safle Ysbyty 

Aberteifi, Ceredigion

Rydym yn gweithio i ailddatblygu hen safle Ysbyty Aberteifi fel y porth i’r dref, gan ddwyn 20 o gartrefi ecogyfeillgar rhent fforddiadwy ar gyfer pobl leol a swyddfeydd newydd i’r ardal.

CGI image of Maes Merydd development

Hen Safle Ysbyty Aberaeron

Aberaeron, Ceredigion

Rydym yn gweithio gyda’n partneriaid adeiladu, Jamson, i ddatblygu 20 o gartrefi newydd am rhent fforddiadwy yn Aberaeron.

CGI image of Maes Merydd development

Bay View Road

Bae Colwyn, Conwy

Rydym yn gweithio gyda’n partneriaid adeiladu hirdymor, Castlemead Group Limited, i ddarparu 54 o gartrefi newydd yn nhref Bae Colwyn.