Byddwn yn hyrwyddo amrediad o gyfleoedd i hyfforddeion a fydd yn cynnig cyfle unigryw i chi gyflawni rôl wrth wneud gwahaniaeth, gan sicrhau profiad gwaith gwerthfawr ar yr un pryd.  

Rhaglen Graddedigion 

Beth am sicrhau cyfle fel Hyfforddai Graddedig gyda’r sefydliad tai gorau i weithio iddo yng Nghymru, gan roi cychwyn da i’ch gyrfa yn eich proffesiwn newydd. 

Bydd ein rhaglen hyfforddeion yn cynnig y wybodaeth dechnegol i chi, gan feithrin eich sgiliau arwain, a byddwch yn cael eich cynorthwyo gan eich rheolwr i wneud gwaith go iawn a chymryd rhan mewn prosiectau go iawn er mwyn gwneud gwir wahaniaeth i fywydau, cartrefi a chymunedau pobl.  Ar yr un pryd, byddwch yn cael y cyfrifoldeb a’r profiad y bydd ei angen arnoch er mwyn gwneud argraff arnom ni. 

Ac ar ôl i chi gwblhau eich rhaglen hyfforddai, efallai y cynigir swydd i chi hyd yn oed, ond os na, bydd gennych chi gyfoeth o brofiad a fydd yn gallu eich helpu yn ystod cam nesaf eich gyrfa. 

(Fideo yn Saesneg)

“Heb os, byddwn yn argymell rôl fel hyfforddai ar raglen Datblygu ein Gweithlu ein Hunain.  Mae pawb wedi bod mor groesawgar ac mae’n gyflwyniad gwych i’r cam cyntaf o’ch gyrfa!” 

 

Rachel

Swyddog Datblygu

“Y peth gorau am raglen Datblygu ein Gweithlu ein Hunain yw’r cyfle y mae’n ei gynnig,  Roeddwn yn aelod defnyddiol o’r tîm a rhoddwyd cyfrifoldeb i mi dros reoli fy mhrosiectau fy hun.” 

Isaac

Dadansoddwr Data (Cyn-weithiwr Data Dan Hyfforddiant)

“Mae hyfforddeion Datblygu ein Gweithlu ein Hunain wedi bod mor gadarnhaol a brwdfrydig i ddysgu ac maent eisoes wedi gwneud cymaint o wahaniaeth i ni.  Rydw i’n teimlo’n gyffrous i weld yr hyn y byddant yn mynd ymlaen i’w gyflawni.  Mae’r dyfodol yn ddisglair!” 

Joanna Davoile

Cyfarwyddwr Gweithredol (Gweithrediadau)

Prentisiaethau

Rydym yn cynnig nifer o Brentisiaethau Masnachol trwy ein cwmni Grŵp, Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria.  Maent yn gwneud rhan fwyaf y gwaith trwsio ac uwchraddio yng nghartrefi Tai Wales & West, gan gynnwys gwaith trydanol, gwaith nwy a phlymio a gwaith trwsio aml-sgiliau. 

Ar ôl i chi sicrhau eich cymhwyster, efallai y cynigir swydd i chi hyd yn oed, ond os na, bydd gennych chi gyfoeth o brofiad a chymhwyster a fydd yn gallu eich helpu yn ystod cam nesaf eich gyrfa. 

 

Darllen mwy

Lleoliadau Gwaith

Rydym yn cynnig cyfleoedd ar ffurf lleoliadau gwaith er mwyn i chi allu darganfod ble yr hoffech ddilyn gyrfa yn un o’n hadrannau.  Bydd y gwaith y byddwch yn ei wneud yn dibynnu ar y rôl a’r lleoliad y byddwch yn ei ddewis, ond waeth pa gyfeiriad y byddwch yn ei ddewis, byddwch yn cael gweithio ar brosiectau cyffrous sy’n cael effaith go iawn, gan gynnig gwir ddirnadaeth o fywyd a gyrfa yn Nhai Wales & West. 

Siaradwch â’r tîm trwy anfon e-bost at: Careers@wwha.co.uk 

Isod, gallwch ddarganfod sut y mae eraill wedi cael budd gan leoliad gwaith gyda Thai Wales & West: 

Alys Hassan

 

Nid ydym yn recriwtio pobl i rolau graddedig ar hyn o bryd.  Byddwn yn hysbysebu swyddi gwag ar y dudalen hon pan fyddwn yn recriwtio.  Tan hynny, cadwch olwg am ddiweddariadau, cofrestrwch i gael negeseuon am swyddi neu anfonwch e-bost at careers@wwha.co.uk am ragor o wybodaeth.

Pam dewis Tai Wales & West?

Gwneud gwahaniaeth

Mae’r gwaith a wnawn yn cael effaith uniongyrchol ar yr unigolion sy’n byw yn ein heiddo.  Ymgorfforir hyn yn ein gweledigaeth: sicrhau twf cadarn a chynaliadwy er mwyn gwneud gwahaniaeth i fywydau, cartrefi a chymunedau pobl. 

Mae pob diwrnod yn wahanol

Mae gweithio ym maes tai yn cynnig amrywiaeth enfawr ym mhob rôl. Rydym yn gwella ac yn arloesi gyda ffyrdd newydd o ddarparu ein gwasanaethau yn gyson, er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau i’n cwsmeriaid. 

Ystod eang o yrfaoedd

Fel cymdeithas tai, rydym yn gyfrifol am adeiladu, cynnal a chadw a rheoli eiddo, yn ogystal â chynorthwyo’r unigolion sy’n byw ynddynt.  Gyda dros 12,000 eiddo, mae hyn yn gryn dipyn o waith!  Dyma pam bod gennym dros 13 adran a dros 150 o rolau gwahanol er mwyn ein helpu i ddarparu’r gwasanaethau hyn. 

Trefniadau gweithio hyblyg

Ystod enfawr o ddewisiadau gweithio hyblyg er mwyn eich helpu i sicrhau’r cydbwysedd gorau ag y bo modd rhwng bywyd a gwaith. 

Cyflog a buddion gwych

Fel hyfforddai, byddwch yn cael cyflog hael a phrofiad gwaith gwerthfawr ar yr un pryd.  Byddwch yn gallu manteisio ar ein buddion gwych hefyd sy’n cynnwys cynllun iechyd a lwfans gwyliau blynyddol hael. 

Wedi ymrwymo i fuddsoddi yn eich gyrfa

Yn ogystal â’r profiad ‘yn y swydd’ y byddwch yn ei gael, byddwch yn cael hyfforddiant arbenigol yn eich maes dethol er mwyn eich helpu i sicrhau cymhwyster ar gyfer eich dyfodol.  Byddwch yn mynychu ein hyfforddiant ymsefydlu mewnol hefyd er mwyn sicrhau eich bod yn setlo yn dda yn eich rôl ac yn y sefydliad. 

Straeon diweddaraf

Eich cyngor ariannol

Yma, mae ein tîm o TSOs wedi paratoi ychydig gyngor am y materion y bydd preswylwyr yn gofyn iddynt am help amdanynt amlaf.

Darllen mwy