Newyddion

02/08/2023

Llwyddiant pellach ar gyfer rhaglen Datblygu ein Gweithlu ein Hunain


Ymunodd Bailey Powell ac Emily Myles â Thîm Iechyd a Diogelwch Tai Wales & West ar ddechrau 2022.  Roeddent wedi ymuno fel rhan o raglen Datblygu ein Gweithlu ein Hunain ar raglen graddedig 18 mis, a fyddai’n ceisio rhoi cymwysterau a sgiliau proffesiynol iddynt er mwyn iddynt fod yn barod ar gyfer byd gwaith ar ddiwedd eu cyfnod gyda ni.

18 mis yn ddiweddarach ar ôl cryn dipyn o waith caled, arholiadau a gwaith amser llawn, rydym wrth ein bodd i gyhoeddi bod y ddwy ohonynt wedi llwyddo i sicrhau swyddi parhaol gyda Thai Wales & West.  Aethom i gael sgwrs gyda’r ddwy wrth iddynt fyfyrio am eu hamser ar raglen Datblygu ein Gweithlu ein Hunain ac er mwyn iddynt sôn wrthym am eu teimladau wrth sicrhau swyddi parhaol yn y tîm.

 

 

Llongyfarchiadau!  Sut ydych chi’n teimlo erbyn hyn ar ôl ‘graddio o’r rhaglen graddedig’ a sicrhau swydd barhaol gyda Thai Wales & West?

Bailey: Roeddwn yn falch iawn o glywed fy mod i wedi sicrhau’r swydd barhaol.  Rhoddais wybod i’m teulu cyfan yn syth, ac roeddent yn falch iawn drosof.  Rydw i wir wedi mwynhau’r rhaglen graddedig ac rydw i’n edrych ymlaen i barhau i weithio i’r sefydliad ac i’r Tîm Iechyd a Diogelwch.  Hwn oedd fy mhrofiad cyntaf o’r sector iechyd a diogelwch, ac rydw i wedi ei fwynhau’n fawr, felly mae’n braf gwybod y gallaf ei barhau.

Emily: Cyffrous iawn!  Roeddwn yn dymuno aros yn fy nhîm ac yn Nhai Wales & West yn gyffredinol, felly roeddwn wedi gobeithio y byddwn yn gallu sicrhau swydd barhaol.  Mae’n teimlo fel pe bai’r amser wedi hedfan;  nid yw hi’n teimlo’n hir iawn yn ôl pan ymgeisiais am le ar y rhaglen.  Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr i’r cam nesaf!

Faint oedd y rhaglen graddedig wedi eich helpu i baratoi ar gyfer y broses ymgeisio?

Bailey: Roedd y rhaglen graddedig wedi bod yn help aruthrol i mi.  Roedd wedi fy  helpu i feithrin sgiliau a hyder mewn amgylchedd swyddfa proffesiynol.  Yn ogystal, roedd wedi fy helpu i feithrin sgiliau a chymwysterau i’m helpu yn fy ngyrfa iechyd a diogelwch;  rhywbeth y byddai wedi bod yn anodd iawn i mi ei sicrhau heb y rhaglen graddedig.  Roedd ymuno â’r rhaglen graddedig wedi fy ngalluogi i ddysgu mwy am y posibiliadau sydd ar gael i mi hefyd, a sut y gallaf symud ymlaen yn fy mywyd proffesiynol.

Emily: Ni fyddwn wedi gallu sicrhau fy swydd newydd heb y rhaglen graddedig.  Yn ystod fy nghyfnod ar y rhaglen, cefais y cyfle i astudio am gymhwyster NEBOSH wrth weithio yn y Tîm Iechyd a Diogelwch.  Roedd sicrhau’r cymhwyster a’r profiad ar yr un pryd wedi fy mharatoi ar gyfer y broses ymgeisi

A oedd y rhaglen graddedig wedi bodloni eich disgwyliadau o’r diwrnod cyntaf?

Bailey: Nid oeddwn yn gwybod yr hyn i’w ddisgwyl ar y dechrau gan mai hwn oedd fy mhrofiad cyntaf o weithio mewn amgylchedd swyddfa.  Roedd cael y cyfle i deithio o gwmpas Cymru yn rhywbeth nad oeddwn yn disgwyl ei wneud ar y dechrau pan gychwynnais yn y swydd, ac mae hwn yn rhywbeth yr wyf wedi ei fwynhau yn fawr.  Mae lefel y cymhwyster yr wyf wedi llwyddo i’w sicrhau yn rhywbeth arall sydd wedi rhagori ar fy nisgwyliadau ac mae hyn wir wedi helpu i feithrin fy hyder.  Roedd hi’n hwyl cael cyfarfod graddedigion eraill mewn sefyllfa debyg i mi ar y rhaglen hefyd.

Emily: Oedd, roedd yn gyfle gwych, ac yn ogystal â dysgu am fy rôl, buom yn cymryd rhan mewn diwrnodau hyfforddiant, ymweld â gwahanol swyddfeydd, cymryd rhan mewn gweithgareddau meithrin tîm, hunan-fyfyrio a meithrin sgiliau cyfathrebu.  Roedd y rhaglen graddedig wedi fy helpu i ddatblygu sgiliau gwahanol, nid fy rôl a’m cyfrifoldebau uniongyrchol yn unig.  Hyd yn oed pe na bawn wedi dymuno aros yn fy adran neu gyda Thai Wales & West, dysgais gryn dipyn o sgiliau trosglwyddadwy o hyd.

A fyddech chi’n argymell y rhaglen graddedig i eraill?

Bailey: Byddwn, byddwn yn argymell y rhaglen graddedig i eraill heb os, ac rydw i eisoes wedi gwneud hynny ymhlith fy ffrindiau.  Mae’r rhaglen wedi sicrhau bod gennyf y sgiliau a’r hyfforddiant cywir er mwyn bod yn weithiwr iechyd a diogelwch proffesiynol.  Mae’n gyfle da i gyfarfod a gweithio gyda graddedigion eraill hefyd.

Emily: Byddwn!  Os ydych chi’n teimlo fel fi pan ymgeisiais, heb fod yn sicr o’r hyn yr ydych yn dymuno ei wneud, mae’n ffordd wych o roi cynnig ar rywbeth newydd a dysgu am yr holl rannau gwahanol o’r busnes wrth gael y cyfle i astudio am gymhwyster proffesiynol ar yr un pryd.  Roedd y rhaglen yn gefnogol iawn a chefais fy annog i roi cynnig ar wahanol bethau.  Mae wedi fy helpu i sicrhau fy mod yn gwneud y dewisiadau gyrfa cywir a meddwl am fy natblygiad.

Eleni, bydd ein rhaglen Datblygu ein Gweithlu ein Hunain yn datblygu mwy nag erioed o’r blaen, wrth i 6 graddedig ymuno â ni ym mis Medi.  Byddant yn ymuno â’n 7 hyfforddai presennol, a fydd yn rhoi ein cyfanswm uchaf o raddedigion ar y rhaglen ers iddi gael ei sefydlu yn 2021.  Yn ogystal, gwelir y dewis ehangaf o adrannau a bydd lleoliadau newydd yn cael eu hychwanegu i restr y lleoliadau graddedig yr ydym yn eu cynnig, ym maes Tai, CC a Chyfathrebu a TGCh, ynghyd â rolau ym maes Gwasanaethau Corfforaethol, Data, Datblygu, Cyllid a Gwasanaethau Eiddo.

 

Gallwch gael gwybod mwy am ein rhaglen Datblygu ein Gweithlu ein Hunain yma.

Dan Ryan

Cyswllt: Dan.Ryan@wwha.co.uk