Newyddion

10/04/2024

“Mae’r lleoliad hwn wedi rhoi llawer o bersbectif.”  

Mae Rachel Adams yn fyfyrwraig yn y gyfraith yn ei thrydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd. Ym mis Mawrth cwblhaodd leoliad gwaith gyda Thai Wales & West (TWW), gan weithio ochr yn ochr â chyfreithwyr ein cwmni Victoria Williams a Dorrett Evans. Dywedodd bod ei lleoliad yn TWW wedi ei helpu i wneud synnwyr o’i hastudiaethau yn y gyfraith drwy roi ei gwybodaeth ar waith. 

 


Sut glywoch chi am y lleoliad gyda TWW? 

Fe’i gwelais yn cael ei hysbysebu yn yr e-gylchlythyr yn ein prifysgol fis Mehefin diwethaf.  Roedd gen i ddiddordeb oherwydd nad oedd hwn yn lleoliad arferol yng nghwmni cyfreithiol.
Pan ymgeisiais, doeddwn i ddim yn siŵr os oeddwn i eisiau mynd i weithio yn y gyfraith. Roeddwn i newydd fod yn astudio cyfraith tir ac roedd gen i fwy o ddiddordeb mewn eiddo a thrawsgludo.
Meddyliais y byddai’n ddiddorol gweld sut mae’r gyfraith yn gweithio’n ymarferol.
Cyn dod yma, doeddwn i ddim wedi gwneud unrhyw brofiad gwaith gan fod fy lleoliad chweched dosbarth wedi’i ganslo oherwydd Covid, felly dyma oedd fy nghyfle cyntaf i gael profiad gwaith go iawn.


 

Beth ydych chi wedi bod yn ei wneud ar eich lleoliad?

Yn bennaf, rwyf wedi bod yn gweithio gyda Victoria a Dorrett, sydd wedi bod yn dda iawn gan fod gan y ddau ohonynt lawer o brofiad ym maes tai a’r gyfraith.
Rwyf wedi bod o gwmpas y busnes yn cysgodi gwahanol adrannau, gan weithio gydag AD a Llywodraethu. Es i allan gyda’r Tîm Lesddaliadau i gwrdd â rhai preswylwyr a chlywed am eu profiadau.
Mae wedi bod yn braf i siarad â phobl eraill a chlywed am eu profiadau.
Rwyf wedi helpu Dorrett i ysgrifennu tystysgrifau teitl ar gyfer eiddo ac mae Victoria wedi anfon enghreifftiau i mi o rai o’r ymholiadau cyfreithiol y mae’n eu cael ac wedi gofyn i mi ddrafftio’r hyn y credaf y dylai’r ateb i fod.
Mae wedi gwneud i mi deimlo’n ddefnyddiol.  

“Mae wedi bod yn braf i siarad â phobl eraill a chlywed am eu profiadau.”
Rachel Adams, Fyfyrwraig yn y gyfraith

A oeddech chi’n gwybod unrhyw beth am faes tai? 

Na, ddim mewn gwirionedd, dyna pam roedd yn ddiddorol i mi. Mae’n anodd dod o hyd i’r rhan fwyaf o leoliadau cyfreithiol. 
Maent fel arfer o fewn cwmnïau cyfreithiol ac mae’r gystadleuaeth yn uchel. Mae gen i ddiddordeb yng ngwerthoedd Tai Wales & West a’r ffaith mai tai cymdeithasol ydyw. 
Mae pawb wedi bod yn gyfeillgar iawn ac yn barod eu cymwynas Not really, that’s why I found it interesting. Most legal placements are hard to come by. They are usually within law firms and the competition is high.


Sut mae’r lleoliad yn cyd-fynd â’ch astudiaethau blwyddyn olaf?

 

Yn dda iawn, diolch. Fe’i hysbysebwyd yn wreiddiol fel lleoliad dwy wythnos dros yr haf, ond roedd fy narlithoedd wedi dechrau yn ôl erbyn i mi gael fy nghyfweld a’m derbyn, felly nid oedd gen i’r argaeledd.
Roeddwn i’n lwcus bod TWW wedi gadael i mi ddod i mewn am un diwrnod, bob pythefnos, felly nid yw wedi effeithio ar fy ngwaith cwrs ar gyfer fy ngradd.
Erbyn i mi fynd adref, mae Victoria wedi anfon dolenni ataf i ddarllen mwy am y pethau y mae gennyf ddiddordeb ynddynt.

“Rydw i wedi dysgu mwy fel hyn. Rwy’n cael rhywbeth gwahanol i’w wneud bob tro.”
Rachel Adams

Sut fydd y lleoliad hwn yn eich helpu chi a’ch astudiaethau? 

Rwyf wedi gweld bod y gwaith rwy’n ei wneud yma yn llawer mwy diddorol nag unrhyw beth rwyf wedi’i astudio ar fy ngradd, oherwydd mae’n ymarferol.
Mae’n gwneud mwy o synnwyr gweld sut mae pethau’n gweithio mewn bywyd go iawn.  

Rwyf wedi dod yn fwy cyfarwydd â’r ffordd y mae popeth yn cael ei wneud yn ymarferol. Er enghraifft, pan oeddwn yn astudio cyfraith tir yn y brifysgol y llynedd, nid oeddwn yn ei ddeall yn iawn. Darllenais werslyfr cyfan ac nid oeddwn dal yn ei ddeall. Yna des i yma, ac esboniodd Victoria’r peth i mi mewn pum munud ac roedd y cyfan yn gwneud synnwyr. Pan rydych chi’n gweld y dogfennau cyfreithiol a’r ffordd y mae’r system yn gweithio, mae’n gwneud synnwyr. 


Sut mae’r lleoliad wedi dylanwadu ar eich cynlluniau gyrfa am y dyfodol? 

Cyn i mi ddechrau, roeddwn i’n meddwl y byddwn naill ai’n mynd i wneud y gyfraith ac yn gyfreithiwr mewn cwmni cyfreithiol neu ni fyddwn yn gweithio yn y gyfraith o gwbl. Nid oeddwn erioed wedi ystyried mewn gwirionedd y gallwn weithio fel cyfreithiwr yn fewnol.  Roeddwn yn 50/50 p’un a oeddwn am fynd i wneud cyfraith droseddol neu fasnachol. Ers dod yma rydw i wedi sylweddoli bod gen i fwy o ddiddordeb mewn gweithio ym maes eiddo neu gyfraith tai. Mae cyfraith droseddol yn fwy diddorol i mi, ond rwy’n meddwl bod hynny oherwydd, fel llawer o bobl, rwy’n mwynhau sioeau troseddol go iawn, ond nid wyf am weithio yn y maes hwnnw. 

 

Beth nesaf i chi?  

Rwyf am gymhwyso fel cyfreithiwr. Mae’n rhaid i mi sefyll fy arholiadau ac yna gwneud dwy flynedd o hyfforddiant mewn cwmni cyfreithiol cyn bod yn gwbl gymwys. Mae’n broses eithaf hir. Mae’r lleoliad hwn wedi rhoi llawer o bersbectif i mi am beidio â gorfod gweithio mewn cwmni cyfreithiol i fod yn gyfreithiwr. 

“Mae wedi rhoi mwy o hyder i mi wneud cais am swyddi ym maes tai neu eiddo.”
Rachel Adams

Alison Stokes

alison.stokes@wwha.co.uk 07484 911100 Alison yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer De a Gorllewin Cymru.