Newyddion

08/04/2024

Cynllun Gofal Ychwanegol Penarth i ddechrau yn yr haf

Disgwylir i’r gwaith ddechrau’r haf hwn ar gynllun gofal ychwanegol newydd Tai Wales & West ar gyfer pobl hŷn ym Mhenarth. 

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Bro Morgannwg i gyflawni’r prosiect gwerth £20 miliwn ar safle 3.6 erw ger Myrtle Close, Penarth.

Bydd y cynllun yn cynnwys 70 o fflatiau hunangynhwysol fforddiadwy, gyda gofal a chymorth wedi’i deilwra ar y safle, ar gyfer bobl sydd am fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain o fewn cymuned ofalgar, gefnogol.

Yn ddiweddar, mae TWW wedi arwyddo prydles hirdymor ar dir wrth y Cyngor, sy’n paratoi’r ffordd ar gyfer cam nesaf o’r datblygiad.  

Rydym bellach wedi penodi contractwr o Gymru, JG Hale Group, sydd wedi dechrau gwaith galluogi ar y safle gyda’r prif waith adeiladu yn dechrau ym mis Mehefin. Disgwylir ei gwblhau yn 2026.  

Wedi’u hadeiladu dros dri llawr, mae’r fflatiau ynni effeithlon wedi’u cynllunio gyda lefelau uchel o inswleiddio a fydd yn helpu i gadw biliau ynni yn fforddiadwy i breswylwyr.⁠ ⁠ ⁠  Bydd gan yr holl fflatiau eu balconïau eu hunain a mynediad i gwrt canolog a gardd sy’n addas i breswylwyr a dementia.  

Mae’r cynllun hefyd yn cynnwys bwyty ar y safle a lolfeydd cymunol a golchdy. ⁠ 

Bydd paneli solar yn cyd-fynd â’r adeilad i gynhyrchu pŵer ar gyfer yr ardaloedd cymunol a lleihau ei ôl troed carbon.
⁠ 
Mae’n cael ei adeiladu ochr yn ochr â Oak Court, ein cynllun tai presennol i bobl hŷn, a Thŷ Dewi Sant, cartref gofal sy’n deall dementia a weithredir gan y Cyngor. Hwn fydd ein cynllun gofal ychwanegol cyntaf yn Ne Cymru a’n chweched ar draws Cymru gydag eraill yn Aberystwyth, Treffynnon, Prestatyn, Yr Wyddgrug a’r Drenewydd. ⁠ ⁠   

Dywedodd Rheolwr Datblygu Rhanbarthol Tai Wales & West, Jon Harvey: ⁠⁠ “Mae hwn yn brosiect cyffrous a mawr ei angen ar gyfer yr ardal leol, ac rydym yn falch i weithio mewn partneriaeth â Chyngor Bro Morgannwg, Llywodraeth Cymru a JG Hale Group i ddod â’r cynllun gofal ychwanegol hwn i Benarth.

“Gyda phroffil poblogaeth sy’n heneiddio, mae galw sylweddol yn yr ardal am gartrefi modern fforddiadwy o ansawdd uchel a gwasanaethau gofal er mwyn bodloni anghenion pobl hŷn yn yr ardal.”
Rheolwr Datblygu Rhanbarthol Tai Wales & West, Jon Harvey

“Bydd ein cynllun yn rhoi’r rhyddid i breswylwyr fyw’n annibynnol yn eu fflat eu hunain ond gyda thawelwch meddwl o wybod eu bod yn byw yn rhywle diogel gyda gwasanaeth ymateb brys 24 awr.

Wedi’i ariannu’n rhannol gan y Gronfa Tai â Gofal a Grant Tai Cymdeithasol wrth Lywodraeth Cymru, cynllun Gofal Ychwanegol Penarth yw’r cam diweddaraf ym mhrosiect mwy o faint i integreiddio cartrefi pobl hŷn newydd, a rhai sy’n bodoli eisoes gyda chyfleusterau iechyd a gofal cymdeithasol yn y lleoliad.

Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: “Rwy’n falch iawn bod trefniadau prydlesu ar gyfer y tir hwn wedi’u cwblhau a gall gwaith ar yr adeilad newydd cyffrous hwn ddechrau.
⁠

“Bydd yn darparu llety fforddiadwy mawr ei angen i bobl hŷn ym Mhenarth ac mae’n enghraifft wych o’r hyn y gellir ei gyflawni trwy weithio mewn partneriaeth effeithiol gan sefydliadau’r sector cyhoeddus.”
Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg

“Ymhen amser, rydym yn gobeithio y gellir ychwanegu elfennau eraill at y cynllun er mwyn darparu cefnogaeth gynhwysfawr i’w chymuned o breswylwyr. 

“Datgelodd ein ‘Arolwg Bywyd yn y Fro’ diweddar mai dwy brif flaenoriaeth i breswylwyr yw: gofal hawdd ei gyrraedd a gwasanaethau gofal iechyd a gallu prynu neu rentu cartref o ansawdd da. Gwyddom hefyd bod y ddau yn bryderon i bobl hŷn. 

“Mae’n hanfodol ein bod yn gwrando ar adborth o’r fath ac mae datblygiadau fel hyn yn gam sylweddol wrth helpu i fynd i’r afael â’r pryderon hynny.” 

Ar dir cyfagos, mae’r Cyngor hefyd yn bwriadu adeiladu datblygiad byw’n annibynnol i bobl hŷn o tua 32 o gartrefi fforddiadwy.