Newyddion

23/02/2024

Gweinidog Llywodraeth Cymru yn canmol ein cartrefi newydd yng Nghaerdydd sy’n defnyddio ynni mewn ffordd effeithlon

Mae Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Newid Hinsawdd, Julie James, wedi disgrifio ein cartrefi newydd yng Nghaerdydd fel “enghraifft wych o gartrefi o ansawdd uchel sy’n defnyddio ynni mewn ffordd effeithlon ac sy’n fforddiadwy.” 

Gwnaeth ei sylwadau yn ystod ymweliad â Chwrt Three Brewers, ein datblygiad o 50 o fflatiau un a dwy ystafell wely yn Rhodfa Colchester, Penylan, Caerdydd. 

Adeiladwyd Cwrt Three Brewers ar safle hen dafarn Three Brewers a’r safle gwerthu ceir cyfagos, a hwn yw ein datblygiad cyntaf o fflatiau wedi’u hadeiladu i gyflawni’r sgôr EPC uchaf, sef A.   Mae’r cartrefi mewn dau floc wrth ymyl ei gilydd, ac mae siop Co-op ar y llawr gwaelod.  


Dyluniwyd y cartrefi i gynnwys: 

  • lefelau inswleiddio uchel ar y waliau allanol 
  • drysau a ffenestri alwminiwm gwydr triphlyg, sydd ymhlith y rhai mwyaf effeithlon yn y farchnad 
  • system gwresogi dŵr ffynhonnell aer, sy’n cymryd gwres o’r aer y tu allan i wresogi dŵr mewn tanc silindr.  
  • y systemau MVHR (Awyru Mecanyddol ac Adfer Gwres) diweddaraf, sy’n cylchredeg aer ffres cynnes ac sy’n lleihau cyddwysiad  

 Mae gerddi glaw y tu allan i amsugno dŵr dros ben a’i ddraenio i ffwrdd yn araf, gan leihau’r effaith ar y system ddraenio a risg llifogydd.   Ceir lle parcio ceir, storfeydd beiciau a gerddi cymunol y tu allan hefyd i’r preswylwyr eu mwynhau.  

Nod y cartrefi sydd wedi’u pweru gan drydan yn llwyr, yw lleihau tlodi tanwydd i’r preswylwyr a fydd yn symud i mewn ddiwedd fis Chwefror 2024.   Amcangyfrifir mai swm y biliau ynni blynyddol cyfartalog fydd tua £307 am fflat dwy ystafell wely a £216 am eiddo un ystafell wely. 

Dywedodd Anne Hinchey, Prif Weithredwr Grŵp Tai Wales & West: “Roeddem wrth ein bodd i gynnig taith i’r Gweinidog o gwmpas ein cartrefi newydd yng Nghwrt Three Brewers a dangos iddi sut yr ydym yn adeiladu cartrefi er mwyn helpu i leihau costau rhedeg i breswylwyr. ⁠ 

“Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi dysgu cryn dipyn am y ffordd yr ydym yn adeiladu cartrefi newydd a’r gwahanol fath o systemau gwresogi a dŵr poeth y gallwn eu gosod er mwyn lleihau’r effaith o ran carbon a gwella lefelau effeithlonrwydd ynni.  

“Caiff ein holl gartrefi newydd eu hadeiladu gyda’r nod o sicrhau sgôr EPC A, heb yr angen am systemau gwresogi nwy neu olew, ac mae hyn yn golygu eu bod yn gyffyrddus ac yn fforddiadwy i’n preswylwyr eu gwresogi a’u rhedeg, yn ogystal â bod yn gartrefi carbon isel.”
Anne Hinchey, Prif Weithredwr Grŵp Tai Wales & West
 

“Y cartrefi yng Nghwrt Three Brewers yw rhai o’r cartrefi newydd cynhesaf yr ydym wedi’u hadeiladu ac maent yn cyfrannu at osod y safon ar gyfer ein cartrefi yn y dyfodol.” ⁠   

“Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru a gwneud ein rhan er mwyn helpu i gyflawni ei tharged o sicrhau 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel newydd i’w rhentu yn ystod tymor presennol y llywodraeth.” 

Dywedodd y Gweinidog dros Newid Hinsawdd, Julie James: “Bydd y datblygiad newydd hwn yn darparu tai cymdeithasol y mae cryn angen amdanynt i breswylwyr yng Nghaerdydd, yn ogystal ag annog teithio llesol a helpu pobl a theuluoedd i arbed arian ar eu biliau ynni. ⁠  

“Mae’n enghraifft wych o’r math o gartrefi o ansawdd uchel fforddiadwy ac sy’n defnyddio ynni mewn ffordd effeithlon yr ydym yn ceisio eu darparu i bobl a theuluoedd yng Nghymru.” 

“Datblygwyd Cwrt Three Brewers mewn partneriaeth â Chyngor Caerdydd ac fe’i ariannwyd yn rhannol gyda chymorth Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.”
Gweinidog dros Newid Hinsawdd, Julie James

Amserlen y prosiect 


  • Chwefror 2020:  cyflwynwyd cynlluniau i Gyngor Caerdydd, yn union cyn y cyfnod clo cenedlaethol
  • Mawrth 2021:  cychwynnwyd ar y gwaith dymchwel 
  • Tachwedd 2022:  bu’n rhaid atal y gwaith dros dro pan aeth y partneriaid adeiladu, Grŵp Jehu, i ddwylo’r gweinyddwyr
  • Ionawr 2023:  ailgychwynnwyd ar y gwaith pan gyflogom yr is-gontractwyr, yr oeddent eisoes yn gweithio ar y safle, a thynnwyd cwmni Hale Construction o Gastell-nedd i mewn i reoli’r safle
  • Chwefror 2024:  y cartrefi yn barod i’r preswylwyr symud i mewn

 

Alison Stokes

alison.stokes@wwha.co.uk 07484 911100 Alison yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer De a Gorllewin Cymru.