Newyddion

15/03/2024

Dyma rai o’u hawgrymiadau ar gyfer defnyddio ffrwythau a llysiau a allai fel arall fynd yn wastraff.

Mae’r garddwr preswyl Glenys a’r gwirfoddolwyr yng Ngardd Gymunedol Llaneirwg yng Nghaerdydd yn ôl gyda rhai awgrymiadau arbed arian ar gyfer y gwanwyn

Eu harwyddair yw peidio byth â thaflu dim i ffwrdd

Dyma rai o’u hawgrymiadau ar gyfer defnyddio ffrwythau a llysiau a allai fel arall fynd yn wastraff. 

Tomatos 

Nid oes angen i chi brynu pecynnau o hadau.  Ewch â sleisen o domato a’i phlannu mewn pot a’i gorchuddio â phridd. 

Os oes lle gennych chi y tu mewn, gallwch eu gadael ar silff ffenestr a bydd eginblanhigion yn gwthio trwy’r pridd yn fuan.  Ym mis Mai, byddwch yn gallu eu plannu allan yn yr ardd neu mewn potiau ar eich patio. 

Ciwcymbrau  

Fel tomatos, gallwch gymryd sleisen o giwcymbr a’i phlannu mewn pot a bydd hon hefyd yn dechrau egino planhigion unigol o’r hadau. 

Tatws  

Ni fydd ein garddwyr fyth yn taflu eu tatws i ffwrdd pan fyddant yn dechrau egino yn y cwpwrdd.  Byddwn yn eu plannu yn yr ardd.  Ymhen 15-17 wythnos, byddant yn rhoi cnwd o datws i ni.  Rydym wastad yn gweld bod gwneud hyn yn rhoi tatws mwy blasus na phe baech yn eu prynu yn barod i’w plannu mewn canolfan arddio. 

Nid oes angen gardd arnoch i dyfu tatws gan bod modd eu plannu mewn bagiau du cryf neu hyd yn oed mewn hen gwdyn siopa amldro ar yr amod eich bod yn gwneud tyllau draenio ynddo.  Yn wir, bydd tatws yn tyfu mewn unrhyw beth os bydd tyllau draenio ynddo. 

Nionod/Winwns  

Pan fyddwch yn sleisio eich nionod/winwns ar gyfer eich cinio, peidiwch â thaflu’r pen i ffwrdd sy’n edrych fel darnau o wallt.  Torrwch hwn yn chwarteri a’u plannu mewn pot a dylai planhigion nionod/winwns dorri trwyddo.  Gallwch eu plannu allan yn yr ardd o fis Ebrill ymlaen. 

Gallwch wneud yr un peth gyda hen ewinedd garlleg sy’n dechrau egino yn yr oergell. 

Pys  

Rydw i wrth fy modd gyda phys sych Leo yn fy nghinio dydd Sul.  Os byddwch yn socian ychydig bys mewn dŵr am gyfnod hwy, dylent ddechrau egino a gallwch blannu’r rhain yn yr ardd hefyd. 

Cyngor defnyddiol  

  • Plannwch lafant wrth ymyl bylbiau’r haf, fel cleddlys, gellesg neu garlleg.  Bydd yn denu’r gwenyn i beillio’r blodau. 
  • Os ydych chi’n plannu mewn basgedi crog, rhowch ddysgl neu soser yn y gwaelod yn gyntaf.  (Gallech ailgylchu caeadau potiau plastig mawr neu ddysglau pastai ffoil arian.)  Bydd y rhain yn casglu’r dŵr ac yn atal eich basgedi rhag sychu allan mor gyflym. 
  • Torrwch hen boteli plastig er mwyn gwneud potiau.  Gallwch hyd yn oed eu hongian o goed a thyfu moron ynddynt.  Cofiwch wneud tyllau draenio. 
  • Gellir defnyddio hambyrddau plastig gyda gorchuddion, fel y math yr ydych chi’n eu cael gyda chacennau bychain, fel lluosogwyr, sydd fel tai gwydr bychain er mwyn tyfu hadau. 
  • Plannwch melyn Mair wrth ymyl eich llysiau, yn enwedig tomatos, er mwyn helpu i gadw’r pryfed i ffwrdd.  Yn yr un modd, gellir plannu blodau cosmos wrth ymyl bresych a blodfresych gan bod eu harogl yn drysu glöynnod mawr gwyn ac yn eu hatal rhag bwyta eich planhigion. 

Alison Stokes

alison.stokes@wwha.co.uk 07484 911100 Alison yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer De a Gorllewin Cymru.