Newyddion

27/03/2024

Eich cyngor ariannol

Mae’r argyfwng costau byw yn cael effaith fawr ar nifer o’n preswylwyr o hyd. Dros y misoedd diwethaf, mae ein Swyddogion Cymorth Tenantiaeth (TSOs) wedi bod yn delio â chynnydd yn nifer y galwadau am help gan breswylwyr sy’n cael trafferthion ariannol.

Yma, mae ein tîm o TSOs wedi paratoi ychydig gyngor am y materion y bydd preswylwyr yn gofyn iddynt am help amdanynt amlaf.

Nid oes gennyf ddigon o arian i fyw. Beth allaf ei wneud?

Gallwn helpu trwy gynnal archwiliad ariannol gyda chi. Gallwn edrych i weld pa fudd-daliadau yr ydych yn gymwys i’w cael a’ch helpu i’w hawlio, os nad ydych yn eu hawlio yn barod. Yna, byddem yn trafod unrhyw ddyledion sydd gennych chi ac sy’n cael eu tynnu o’ch budd-daliadau, gan edrych i weld a allech chi fod yn gymwys i fanteisio ar dariffau ynni sy’n arbed arian ac unrhyw bethau eraill i’ch helpu i arbed arian ar hanfodion.

Byddem yn edrych ar rai o’ch alldaliadau hefyd, gan edrych i weld a fyddai modd stopio unrhyw danysgrifiadau a thaliadau eraill nad ydynt yn hanfodol. Mae’n anodd pan fo’ch incwm yn gyfyngedig, ond gallwn helpu gyda chyngor er mwyn rheoli’r arian sydd gennych chi.

Ni allaf fforddio talu fy rhent.

Mewn rhai achosion, gallwn eich helpu i wneud cais i’ch cyngor lleol am daliad untro megis Taliadau Tai Dewisol i dalu eich ôl-ddyledion neu grantiau Atal Digartrefedd, a gynlluniwyd i helpu’r rhai sydd yn yr angen mwyaf. Yna, gallwn weithio gyda chi i greu cynllun talu rhent sy’n ystyried eich sefyllfa ariannol.

Beth ddylwn i ei wneud?

  • Peidiwch â chuddio. Siaradwch â’ch Swyddog Tai neu’ch Swyddog Cymorth Tenantiaeth.
  • Byddwn yn cynnal archwiliad budd-daliadau er mwyn sicrhau eich bod yn hawlio’r holl gymorth ariannol sydd ar gael i chi.
  • Os nad ydym yn gwybod eich bod yn cael anawsterau, ni allwn eich helpu.

Rydw i wedi gwario fy holl arian ar filiau a rhent ac nid oes gennyf unrhyw beth ar ôl i dalu am fwyd.

Mae’r rhan fwyaf o fanciau bwyd yn rhedeg ar gynllun cyfeirio.Gallwn gynnig taleb banc bwyd/atgyfeiriad i chi os ydych chi’n wynebu caledi eithafol.

Fel arfer, mae parsel banc bwyd yn cynnwys digon o fwyd am dri i bum niwrnod, ac weithiau, bydd yn cynnwys pethau ymolchi hanfodol. Fel arfer, bydd banciau bwyd yn cyfyngu ar nifer y parseli y byddant yn eu rhoi i unigolyn.

Mae nifer y talebau banciau bwyd yr ydym wedi’u dosbarthu wedi cynyddu dros y misoedd diwethaf, felly byddem yn edrych i weld faint o dalebau y byddwch chi wedi’u cael dros y chwe mis diwethaf. Os byddwch wedi cyrraedd y terfyn, sef uchafswm o bedwar bob chwe mis fel arfer, byddem yn cynnal ymarfer cyllidebu aelwyd gyda chi ac yn trafod cymorth ariannol arall gan mai cynnig datrysiad tymor byr yw diben banciau bwyd.

Ceir nifer o bantrïoedd mewn nifer o’n cymunedau, lle y gallwch ymuno am ffi isel, yna talu ffi enwol o tua £5 am gwdyn o fwyd bob wythnos.

I gael gwybod a oes unrhyw bantrïoedd yn eich ardal chi, trowch at dudalennau 27 a 34.

Sut allaf wneud cais am fudd-daliadau anabledd fel Taliadau Annibyniaeth Personol (PIP)?

Rydym yn gweld mwy o bobl yn gwneud cais am PIP eleni.Gallwn eich helpu i lenwi eich cais am fudd-daliadau anabledd, gan ddibynnu ar gymhlethdod eich amgylchiadau.

Byddwn yn trafod y math o gais PIP yr hoffech ei wneud a pha gyflyrau iechyd sydd arnoch chi ar hyn o bryd.

Yna, byddwn yn trefnu ymweliad â’ch cartref er mwyn eich helpu i lenwi’r cais neu weithiau byddwn yn eich cyfeirio at asiantaeth arall fel Cyngor ar Bopeth neu Hawliau Lles os byddwn yn credu bod angen mewnbwn arbenigol arnoch.

Gall gymryd dau neu dri apwyntiad, naill ai dros y ffôn neu wyneb yn wyneb, i baratoi’r cais. Yna, dylai DWP (Yr Adran Gwaith a Phensiynau) gysylltu â chi i drefnu asesiad er mwyn gweld sut y mae’ch cyflwr iechyd yn effeithio arnoch o ddydd i ddydd.

Gwrthodwyd fy nghais am daliadau anabledd, a ydw i’n gallu apelio yn erbyn y penderfyniad?

Os gwrthodir eich cais ac os na fyddwch yn cytuno â’r penderfyniad, gallwch apelio.

Byddem yn eich cyfeirio at ein partneriaid yng Nghyngor ar Bopeth yn uniongyrchol, sydd â phrofiad o’r broses apêl. Os byddwch yn mynd trwy apêl, gallwn eich helpu i lenwi ffurflenni a chasglu’r gwaith papur a’r dystiolaeth y mae ei hangen arnoch.

Rydw i mewn dyled ac rydw i wedi cael bygythiad y bydd camau yn cael eu cymryd yn fy erbyn mewn llys. Rydw i’n gofidio, beth allaf ei wneud?

Gallwn eich helpu i gysylltu â’ch credydwyr er mwyn oedi camau adfer megis gorfodi neu alwad am daliadau.

Yna byddem yn mynd trwy holiadur incwm a gwariant gyda chi i ystyried eich dyledion a ddylai gael blaenoriaeth. Y rhain yw’r taliadau pwysig fel rhent, treth gyngor, biliau nwy, trydan a dŵr a bwyd.

O’r fan honno, gallwch gyfrifo faint y gallwch fforddio ei dalu. Yna, byddwn yn eich helpu i drafod gyda’r cwmnïau y mae arnoch arian iddynt.

Os oes gennych chi nifer fawr o ddyledion mawr, efallai y byddwn yn eich cyfeirio at Gyngor ar Bopeth am gyngor ynghylch dyledion, a byddan nhw yn gallu helpu gydag amrywiaeth o ddatrysiadau dyledion gan gynnwys gorchmynion rhyddhau o ddyled a threfniadau talu.

Rydw i ar ei hôl hi gyda fy nhaliadau treth gyngor ac nid wyf yn gwybod beth i’w wneud.

Gallwn ddechrau trwy ddarganfod swm eich dyled ac ar gyfer pa flynyddoedd treth yw hyn. Yna, byddem yn edrych i weld a ydych chi’n cael unrhyw ostyngiadau treth gyngor.

Os na, gallwn gynnal archwiliad budd-daliadau a’ch helpu i wneud hawliad os ydych chi’n gymwys. Mewn rhai achosion, gellir ôl-ddyddio’r taliadau am dri mis. Gallwn edrych i weld a ydych chi’n gymwys i gael Gostyngiad Person Sengl hefyd, a’ch helpu i wneud cais amdano.

Byddem hefyd yn archwilio incwm unrhyw oedolion eraill fel plant sydd wedi tyfu i fyny neu unigolion nad ydynt yn berthnasau, a elwir yn unigolion nad ydynt yn ddibynyddion, sy’n byw yn y tŷ. Os nad yw eu manylion nhw yn gywir, gallai eich bil treth gyngor fod yn uwch.

Yna, byddem yn mynd trwy archwiliad cyllideb gyda chi i ddarganfod yr hyn y gallwch fforddio ei dalu tuag at y ddyled. Ar ôl i chi nodi faint y gallwch fforddio ei dalu’n ôl, byddem yn eich helpu i gyflwyno cynllun talu i’ch cyngor a hefyd, gwasgaru’r rhandaliadau treth gyngor dros 12 mis yn lle’r 10 mis safonol o’r flwyddyn.

Os bydd y ddyled dreth gyngor yn sylweddol, dan fygythiad camau cyfreithiol neu os nad oes gennych chi unrhyw incwm ar gael i dalu tuag at y ddyled, gallech ofyn am oedi o un mis gan y cyngor, ac fe allai hwn roi’r amser i chi gael eich cyfeirio at Gyngor ar Bopeth am gyngor ynghylch dyledion.

Cai Cox

Hyfforddai CC a Chyfathrebu