Newyddion

08/02/2024

Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau 2024: Prentisiaeth yn arwain at swydd amser llawn ym maes diogelwch data i Megan

Mae Megan Crowley, prentis, wedi llwyddo i sicrhau swydd amser llawn fel Cynorthwyydd Dadansoddi Diogelwch ar ôl cwblhau prentisiaeth dwy flynedd gyda Grŵp Tai Wales & West (WWHG). 

Beth oedd eich disgwyliadau ar y dechrau? A ydynt wedi newid erbyn hyn ar ôl i chi gwblhau’r brentisiaeth?

Cychwynnais ar fy mhrentisiaeth heb wybod fawr ddim o’r hyn i’w ddisgwyl, a chan gamu i yrfa newydd sef diogelwch gwybodaeth.   Roedd ymuno â chwmni newydd mewn sector nad oeddwn yn gwybod fawr iawn amdano yn deimlad eithaf brawychus ar y dechrau, ond cefais fy nghroesawu yn syth.   O’r diwrnod cyntaf, rydw i wedi cael fy nghynorthwyo gyda fy nysgu ac mae hynny wedi parhau.   Dros y ddwy flynedd, deuthum i deimlo’n angerddol am ddiogelwch seiber mewn cwmni yr wyf yn dwli arno, felly byddaf wastad yn ddiolchgar fy mod wedi manteisio ar y cyfle i ddilyn prentisiaeth gyda WWHG.

Roeddech chi wedi cwblhau eich cwrs yn gynnar.   Pa gymorth oedd WWHG wedi ei roi i chi er mwyn gwneud hyn?

Bu fy rheolwr, fy mentor a WWHG yn anhygoel trwy gydol fy mhrentisiaeth.   Dysgais gynnwys gan fy mentor un wythnos ac yna ei ddefnyddio mewn sefyllfaoedd go iawn gyda fy rheolwr yr wythnos wedyn, a hon fu’r ffordd fwyaf effeithiol o ddysgu. Mae wedi caniatáu i mi gwblhau fy modiwlau yn gyflym, gan ddarparu digon o dystiolaeth ar gyfer fy nghwrs a chwblhau fy mhrentisiaeth chwe mis yn gynnar!  Bûm yn ddigon ffodus i gael cymorth tiwtora un-i-un gan fy mentor, gan fod dim ond grŵp bach ohonom oedd ar y cwrs, er mwyn sicrhau fy mod yn deall pob cysyniad cyn symud ymlaen.  Mae’r chwe mis diwethaf wedi datblygu fy nysgu ymhellach, ac mae wedi caniatáu i mi ddefnyddio fy ngwybodaeth am ddiogelwch seiber yn ystod sefyllfaoedd bob dydd yn y tîm.

“Mae prentisiaethau yn wych er mwyn cychwyn gyrfa. Byddwch yn cael mentor a fydd yn darparu popeth y bydd angen i chi ei wybod, a chymorth gan eich tîm i’ch helpu ar eich taith.”
Megan Crowley, Cynorthwyydd Dadansoddwr Diogelwch, Grŵp Tai Wales &  West

Beth fu’r rhan fwyaf gwerth chweil o’r cwrs?

Cael y cyfle i barhau i weithio gyda’r Tîm TGCh yn Nhai Wales & West.   Rydw i wedi gallu defnyddio’r wybodaeth a ddysgais yn ystod fy mhrentisiaeth yn fy rôl newydd bob dydd.   Gan edrych yn ôl, nid ydw i’n credu y gallwn i fod wedi cwblhau’r cwrs heb gymorth fy rheolwr.   Gallu parhau i ddysgu a meithrin fy sgiliau wrth ei ymyl ef yw’r canlyniad gorau y gallwn fod wedi gobeithio amdano.

Sut wnaeth y brentisiaeth eich paratoi chi ar gyfer y rôl yr ydych yn ei chyflawni nawr?

Mae rhan fwyaf y sgiliau a ddysgais yn ystod fy mhrentisiaeth wedi cael eu teilwra i’m rôl benodol nawr.  Mae’r rhain yn cynnwys deall hanfodion diogelwch, adnabod negeseuon e-bost gwe-rwydo, dadansoddi traffig rhwydwaith gan ddefnyddio offerynnau fel Wireshark, ymateb i ddigwyddiadau, a mwy.   Ac eithrio’r sector penodol y mae eich prentisiaeth yn seiliedig arno, mae prentisiaethau yn sicrhau hefyd eich bod yn meddu ar y lefel sylfaenol mewn mathemateg, Saesneg a TG, sy’n waelodlin ar gyfer y rhan fwyaf o swyddi.   Roeddwn yn ffodus iawn bod WWHG yn dymuno ehangu ei dîm diogelwch, ac roedd gennyf y profiad a’r sgiliau yr oeddent yn chwilio amdanynt gan fy mod wedi cwblhau fy mhrentisiaeth.

Sut oeddech chi’n teimlo ar ôl clywed eich bod wedi llwyddo i sicrhau swydd amser llawn?

Pan ymgeisiais ddwy flynedd yn ôl, roeddwn yn gwybod nad oedd hyn yn addewid o swydd amser llawn.   I mi, roedd yn gyfle i gychwyn mewn gyrfa yr oedd gennyf ddiddordeb ynddi, ac roedd penderfyniad WWHG i ddarparu hynny ar fy nghyfer yn gychwyn gwych.   Pan hysbysebwyd y swydd, ymgeisiais yn syth gan fy mod yn dymuno parhau fy natblygiad.   Roeddwn ar ben fy nigon pan gynigiwyd y swydd i mi;  roedd wir yn teimlo fel pe bai fy ngwaith caled wedi talu ar ei ganfed.   Mae’n beth arferol dioddef o “syndrom y ffugiwr”, lle na fyddwch yn teimlo eich bod yn perthyn.   Teimlais hyn am gyfnod byr gan bod gan bawb o fy nghwmpas ddegawdau o brofiad ac roeddwn i yn cychwyn ar fy ngyrfa.   Dysgais yn gyflym mai cael nifer o bobl o’ch cwmpas, sy’n meddu ar wybodaeth helaeth, yw’r peth gorau gan eich bod yn dysgu rhywbeth newydd bob dydd.   Sicrhau’r swydd hon fu un o’r pethau gorau sydd wedi digwydd i mi, ac ni fyddwn wedi gallu cyflawni hyn heb fy mhrentisiaeth.  

Pa gyngor fyddech yn ei roi i rywun sy’n ystyried prentisiaeth?

Byddwn yn eu cynghori i fynd amdani.   Mae prentisiaethau yn wych er mwyn cychwyn gyrfa.   Nid oes terfyn oed ac mae rhywbeth ar gael i bawb.   Byddwch yn cael profiad ymarferol ac yn cael y cyfle i ddefnyddio eich sgiliau trwy gydol y cwrs.   Gyda mentor yn darparu popeth y bydd angen i chi ei wybod, a chymorth gan y bobl yn eich cwmni, byddwch yn dysgu llawer, ac yn goron ar y cyfan, cewch eich talu!

Cai Cox

Hyfforddai CC a Chyfathrebu