Newyddion

12/02/2024

Cyfrannodd gwirfoddolwyr sy’n staff Wales & West dros 350 awr y llynedd

Yn Nhai Wales & West, rydym yn annog ein holl staff i neilltuo amser i wirfoddoli yn ein cymunedau.   Rydym yn galw hyn ein Diwrnodau Rhoi Rhywbeth yn Ôl.

Caiff pob aelod o staff gymryd diwrnod ychwanegol o wyliau y flwyddyn, gyda thâl, er mwyn gwirfoddoli a helpu i wneud gwahaniaeth i’n preswylwyr a’r cymunedau y maent yn byw ynddynt neu’r elusennau y mae ein staff a’n Bwrdd yn dewis eu cefnogi yn ariannol bob blwyddyn.  

Yn 2023, ymrwymodd 61 aelod o staff 350 awr er mwyn helpu elusennau a phrosiectau cymunedol.  

Un o’r rhain oedd Ambiwlans Awyr Cymru, un o’n helusennau staff a ddewiswyd, lle y rhoddodd staff 90 awr at ei gilydd trwy weithio yn eu pencadlys yn Llanelli a helpu gyda’u rafflau codi arian blynyddol.

Dros dri diwrnod ym mis Gorffennaf, mis Awst a mis Rhagfyr, roedd 17 o aelodau o staff TWW wedi helpu gyda’r dasg weinyddol enfawr o drefnu raffl yr Haf Ambiwlans Awyr Cymru a cheisiadau i’r apêl Nadolig, gan roi mwy amser i staff a’u helpwyr i ganolbwyntio ar elfennau pwysig eraill o’r gweithgarwch codi arian. ⁠  

Roedd Kerry Williams, Cydlynydd Cymorth Cymunedol yn Nhai Wales & West, yn un o’r staff a fu’n gwirfoddoli gydag Ambiwlans Awyr Cymru. ⁠  

Dywedodd: “Mae ein Diwrnodau Rhoi Rhywbeth yn Ôl wedi cynnig cymaint o fudd i’r ddwy ochr. Roedd hi’n ysbrydoledig clywed y straeon a deall yr effaith y mae’r elusennau hyn yn ei chael ar bobl.

“Weithiau, nid oes yn rhaid iddo fod yn ariannol, gall rhoi amser fod yn rhywbeth enfawr. Roedd helpu gyda’r gwaith gweinyddol ar gyfer raffl yr haf yn golygu y gallai staff a helpwyr Ambiwlans Awyr Cymru dreulio eu hamser yn gwneud y pethau y maent yn ei wneud orau – mynd allan a chodi arian.” 

Kerry Williams, Cydlynydd Cymorth Cymunedol yn Nhai Wales & West

 Dywedodd Phae Jones, Rheolwr Rhoi Unigol Ambiwlans Awyr Cymru: “Rydym yn dymuno dweud diolch o galon i’r staff yn Nhai Wales & West am eu holl gymorth.   ⁠ Mae wedi bod yn wych.” 

 “Mae’r costau a arbedwyd wrth i’r gwirfoddolwyr roi eu hamser wedi cyfateb â dros 90 awr, sy’n arbediad gwych ac yn rhywbeth hynod o fuddiol ar gyfer cynnydd ein raffl.” 

“Mae’n dangos y gwahaniaeth y mae gwirfoddoli yn ei wneud i’r elusen, a mawr obeithiwn y bydd yn ysbrydoli darpar bartneriaid eraill i ystyried ein cynorthwyo yn y fath ffordd.” 

Phae Jones, Rheolwr Rhoi Unigol Ambiwlans Awyr Cymru
 

Mewn ffigurau: Diwrnodau Rhoi Rhywbeth ac Ambiwlans Awyr Cymru   

  • Gwirfoddolwyd 90 awr gan staff TWW er mwyn helpu Ambiwlans Awyr ⁠
  • Gwerthwyd ac archwiliwyd 38,000 o docynnau papur ar gyfer raffl yr haf 2023 ⁠
  • Codwyd £50,000 ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru trwy gyfrwng raffl yr haf 2023 ⁠ ⁠ ⁠
  • Mae angen codi £11.2 miliwn bob blwyddyn er mwyn cadw Ambiwlansiau Awyr Cymru yn yr awyr ⁠
  • Cwblhawyd 48,000 o deithiau gan Ambiwlans Awyr Cymru ers y sefydlwyd yr elusen ar Ddydd Gŵyl Dewi, 1 Mawrth 2001 ⁠ ⁠ ⁠
  • Mae 4 o hofrenyddion Ambiwlans Awyr Cymru yn gwneud tua 3,500 o deithiau y flwyddyn, gan hedfan allan o’u canolfannau awyr yng Nghaernarfon, Llanelli, Y Trallwng a Chaerdydd ⁠


Rhoddom 350 awr yn ôl yn 2023
 

Ar draws Cymru, roedd 61 aelod o staff TWW wedi gwirfoddoli 350 awr o’u hamser i nifer o brosiectau yn ystod 2023. Roedd y rhain yn cynnwys y gweithgareddau canlynol: 

  • cynorthwyo dysgwyr ifanc trwy gynnal Cyfweliadau ffug, gweithdai ysgrifennu ceisiadau am swydd/CV mewn ysgolion ar draws Cymru  
  • gwaith garddio a chynnal a chadw mewn cynlluniau preswylwyr yng Nghaerdydd ac yn Y Waun 
  • gweithio gyda’n Contractwyr Datblygu, Jones Brothers (Henllan) Ltd, i baentio ysgol yn Llandysilio, Sir Benfro  
  • cefnogi cinio Nadolig i’r henoed ym Mhenparcau, Aberystwyth 
  • gwirfoddoli mewn pantri bwyd a gardd gymunedol yn ardal Trowbridge, Caerdydd  

Alison Stokes

alison.stokes@wwha.co.uk 07484 911100 Alison yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer De a Gorllewin Cymru.