Llys Jasmine,
Yr Wyddgrug

Ynglŷn â Llys Jasmine, Yr Wyddgrug

Pan agorodd yn 2013, Llys Jasmine oedd y cynllun cyntaf yng Nghymru i gynnwys fflatiau arbennig ar gyfer pobl sydd â dementia, law yn llaw â gofal ychwanegol.

Mae’r rhain yn rhan o’r datblygiad sy’n cynnwys 61 o fflatiau a leolwyd mewn man delfrydol yn yr Wyddgrug. Mae Llys Jasmine funudau i ffwrdd o ganol y dref farchnad hanesyddol a bywiog hon, ynghyd â’i chyfoeth o fwynderau hanfodol. Adeiladwyd y cynllun mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint.

Cymhwysedd

Er mwyn cael eich hystyried am fflat yn Llys Jasmine:

  • Rhaid eich bod yn 65+ oed
  • Rhaid bod gennych chi angen gofal a chymorth

Rhoddir blaenoriaeth i bobl sy’n byw yn Sir y Fflint yn barod.

Ymholiadau cyffredinol & sut i wneud cais

I gael gwybod mwy am fyw yn Llys Jasmine anfonwch e-bost at contactus@wwha.co.uk neu ffoniwch 0800 052 2526

Nodweddion

  • 33 o fflatiau un ystafell wely
  • 28 o fflatiau dwy ystafell wely
  • 15 o fflatiau wedi’u haddasu’n arbennig ar gyfer pobl sydd â dementia
  • 2 fyngalo dwy ystafell wely
  • Darparir gofal ar y safle 24 awr y dydd gan Gyngor Sir y Fflint
  • Ystafelloedd cawod y gellir cerdded i mewn iddynt ac sy’n gysylltiedig, a cheginau cyfoes gosodedig (heb gynnwys nwyddau gwynion); mae nifer o’r fflatiau yn cynnwys balconi
  • Ystafell ymolchi â chymorth
  • Bwyty Y Petal Gwyn, sy’n gweini prydau wedi’u coginio yn ffres bob dydd
  • Safleoedd lolfa ac ystafell ar gyfer gwesteion
  • Cyfleusterau golchi dillad
  • Gerddi wedi’u tirlunio
  • Terasau
  • Lle storio bygis
  • Lle trin gwallt
  • Cynhelir gweithgareddau cymunedol rheolaidd ar y safle

Lleoliad

Beth yw Gofal Ychwanegol?

Nid fflat neu dŷ yn unig yw gofal ychwanegol – eich cartref chi ydyw, a bydd gennych eich drws ffrynt eich hun. Trwy symud i un o’n cynlluniau, gallwch gychwyn ar gyfnod newydd yn eich bywyd, gan wybod y gallwch chi fyw bywyd annibynnol yma a bod gofal a chymorth ar gael gan ein tîm cymorth ar y safle pan fydd ei angen arnoch.

Mae pob unigolyn yn wahanol, felly fel preswylydd, bydd y gofal a’r cymorth a ddarparir yn dibynnu ar eich anghenion. Mae cyfle i chi gymdeithasu, cyfarfod pobl newydd a mwynhau dysgu sgiliau newydd hefyd.