Llys Glan Yr Afon,
Y Drenewydd

Ynglŷn â Llys Glan Yr Afon, Y Drenewydd

Mae’r cynllun gofal ychwanegol cyntaf ym Mhowys yn cynnig ffordd newydd o fyw bywyd annibynnol, ond gan fanteisio ar ofal ar y safle, 24 awr y dydd.

Adeiladwyd y datblygiad hwn, sy’n cynnwys 48 o fflatiau ac a gostiodd £7.5m, mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir Powys ac fe’i lleolir mewn man prydferth ar lannau Afon Hafren. Y Drenewydd yw’r dref fwyaf ym Mhowys ac mae nifer fawr o siopau, bwytai a chaffis gerllaw, yn ogystal â sinema a theatr.

Cymhwysedd

Er mwyn cael eich hystyried am fflat yn Llys Glan-yr-Afon:

  • Rhaid eich bod yn 18+ oed
  • Rhaid bod gennych chi angen gofal a chymorth

Rhoddir blaenoriaeth i bobl sy’n byw ym Mhowys yn barod.

Ymholiadau cyffredinol & sut i wneud cais

I gael gwybod mwy am fyw yn Llys Glan yr Afon anfonwch e-bost at contactus@wwha.co.uk neu ffoniwch 0800 052 2526

Nodweddion

  • 48 fflat – cymysgedd o gartrefi un a dwy ystafell wely
  • Staff gofal ar y safle 24 awr y dydd (Gofal a Chymorth Castell)
  • Ystafelloedd cawod y gellir cerdded i mewn iddynt ac sy’n gysylltiedig, a cheginau cyfoes gosodedig (heb gynnwys nwyddau gwynion); mae nifer o’r fflatiau yn cynnwys balconi
  • Ystafell ymolchi â chymorth
  • Bwyty Orendy, sy’n gweini prydau wedi’u coginio yn ffres bob dydd
  • Safleoedd lolfa ac ystafell ar gyfer gwesteion
  • Cyfleusterau golchi dillad
  • Gerddi wedi’u tirlunio
  • Terasau
  • Lle storio bygis
  • Lle trin gwallt
  • Cynhelir gweithgareddau cymunedol rheolaidd ar y safle

Lleoliad

Beth yw Gofal Ychwanegol?

Nid fflat neu dŷ yn unig yw gofal ychwanegol – eich cartref chi ydyw, a bydd gennych eich drws ffrynt eich hun. Trwy symud i un o’n cynlluniau, gallwch gychwyn ar gyfnod newydd yn eich bywyd, gan wybod y gallwch chi fyw bywyd annibynnol yma a bod gofal a chymorth ar gael gan ein tîm cymorth ar y safle pan fydd ei angen arnoch.

Mae pob unigolyn yn wahanol, felly fel preswylydd, bydd y gofal a’r cymorth a ddarparir yn dibynnu ar eich anghenion. Mae cyfle i chi gymdeithasu, cyfarfod pobl newydd a mwynhau dysgu sgiliau newydd hefyd.