Nant y Môr,
Prestatyn

Ynglŷn â Nant y Môr, Prestatyn

Nant y Môr oedd ein cynllun gofal ychwanegol cyntaf, gan gynnig ffordd o fyw newydd i breswylwyr Sir Ddinbych pan agorodd ym mis Tachwedd 2011.

Mae’n cynnwys 59 o fflatiau mewn lleoliad arbennig ym Mhrestatyn, gan edrych allan dros arfordir Gogledd Cymru. Mae gwasanaeth bws rheolaidd yn cysylltu Nant-Y-Môr a chanol tref Prestatyn ac mae gorsaf rheilffordd Prestatyn gerllaw hefyd. Adeiladwyd Nant y Môr mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir Ddinbych.

Cymhwysedd

Er mwyn cael eich hystyried am fflat yn Nant y Môr:

  • Rhaid eich bod yn 60+ oed
  • Rhaid bod gennych chi angen gofal a chymorth

Rhoddir blaenoriaeth i bobl sy’n byw yn Sir Ddinbych yn barod.

Ymholiadau cyffredinol & sut i wneud cais

I gael gwybod mwy am fyw ym Maes y Môr anfonwch e-bost at contactus@wwha.co.uk neu ffoniwch 0800 052 2526

Nodweddion

  • 27 o fflatiau un ystafell wely
  • 32 o fflatiau dwy ystafell wely
  • Darparir gofal ar y safle 24 awr y dydd gan Gyngor Sir Ddinbych
  • Ystafelloedd cawod y gellir cerdded i mewn iddynt ac sy’n gysylltiedig, a cheginau cyfoes gosodedig
    (heb gynnwys nwyddau gwynion); mae nifer o’r fflatiau yn cynnwys balconi
  • Bwyty Golwg y Mynydd, sy’n gweini prydau wedi’u coginio yn ffres bob dydd
  • Safleoedd lolfa ac ystafell ar gyfer gwesteion
  • Cyfleusterau golchi dillad
  • Gerddi wedi’u tirlunio
  • Terasau
  • Lle storio bygis
  • Lle trin gwallt
  • Cynhelir gweithgareddau cymunedol rheolaidd ar y safle

Lleoliad

Beth yw Gofal Ychwanegol?

Nid fflat neu dŷ yn unig yw gofal ychwanegol – eich cartref chi ydyw, a bydd gennych eich drws ffrynt eich hun. Trwy symud i un o’n cynlluniau, gallwch gychwyn ar gyfnod newydd yn eich bywyd, gan wybod y gallwch chi fyw bywyd annibynnol yma a bod gofal a chymorth ar gael gan ein tîm cymorth ar y safle pan fydd ei angen arnoch.

Mae pob unigolyn yn wahanol, felly fel preswylydd, bydd y gofal a’r cymorth a ddarparir yn dibynnu ar eich anghenion. Mae cyfle i chi gymdeithasu, cyfarfod pobl newydd a mwynhau dysgu sgiliau newydd hefyd.