
Ynglŷn â Maes y Môr, Aberystwyth
Ym mis Awst 2019, cychwynnodd y gwaith adeiladu ar ein cynllun gofal ychwanegol newydd yn Aberystwyth a fydd yn costio £9m.
Wedi’i leoli ym Mhen yr Angor, Trefechan, gyda golygfeydd godidog dros y dref a’r harbwr, hwn fydd ein cynllun gofal ychwanegol cyntaf yng Ngheredigion a’r ail i gael ei agor yn y sir.
Bydd y cynllun yn darparu ystod o gyfleusterau a gofal a chymorth 24 awr y dydd.
Datblygir Maes y Môr mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ceredigion a’r prif gontractwr, Anwyl Construction.
Cymhwysedd
Byddwn yn derbyn ceisiadau gan oedolion sydd ag angen gofal neu gymorth.
Rhoddir blaenoriaeth i’r rhai sydd eisoes yn byw yng Ngheredigion.
Gwneir asesiad o amgylchiadau pob un yn unigol i bennu eu hangen am dai gofal ychwanegol.
Llyfryn: Maes y Môr – Cymuned Gefnogol
Ymholiadau cyffredinol & sut i wneud cais
I gael gwybod mwy am fyw ym Maes y Môr anfonwch e-bost at contactus@wwha.co.uk neu ffoniwch 0800 052 2526
Nodweddion
Bydd y cyfleusterau yng nghynllun gofal ychwanegol Aberystwyth yn debyg i’r rhai yn ein cynlluniau presennol yn Nhreffynnon, Prestatyn, Yr Wyddgrug a’r Drenewydd.
Mae’r rhain yn cynnwys:
- Ystafelloedd cawod cerdded i mewn iddynt yn gysylltiedig
- Ceginau gosod cyfoes (heb gynnwys nwyddau gwynion)
- Ystafelloedd ymolchi gyda chymorth
- Bwyty ar y safle, sy’n gweini prydau wedi’u coginio’n ffres bob dydd
- Safleoedd lolfa
- Ystafell i westeion
- Cyfleusterau golchdy
- Lle storio sgwter symudedd
- Gerddi a therasau
Lleoliad
FAQs
Ehangwch y tabiau isod i weld atebion i’r Cwestiynau Cyffredin.
Na. Bydd Maes y Môr ar agor i bobl 18 oed ac yn hŷn sydd ag angen gofal a chymorth.
Gall pobl sydd â chlefyd Alzheimer fyw mewn tai gofal ychwanegol. Fel rhan o’r asesiad a gynhelir o bob unigolyn, ystyrir pob cyflwr iechyd er mwyn sicrhau y gellir bodloni eu hanghenion gofal a chymorth cyn iddynt gael eu derbyn ar y rhestr aros am lety.
Ydym. Ceir fflatiau sy’n cynnwys 2 ystafell wely, sy’n eang ac yn ddelfrydol i gyplau. Wrth asesu addasrwydd cyplau sy’n dymuno cael eu hystyried am dai gofal ychwanegol, byddem yn ystyried anghenion y ddau unigolyn a’r ddau ohonynt fel pâr.
Y prif wahaniaeth yw bod tîm gofal a chymorth ar y safle yn ein cynlluniau gofal ychwanegol. Mae’r tîm hwn yn darparu gwasanaethau i bobl yn unol â’r hyn a gytunwyd yn eu cynlluniau gofal a chymorth unigol.
Pan fydd lle gwag yn codi, ystyrir pawb sydd ar y rhestr aros. Cynigir yr eiddo i’r sawl y bernir eu bod yn yr angen mwyaf ar yr adeg honno.
Ystyrir unrhyw bosibilrwydd y bydd y risg i’r unigolyn yn colli eu hannibyniaeth yn cynyddu a/neu y bydd lefel y cymorth mae ei angen arnynt yn cynyddu os byddant yn aros yn eu llety presennol.
Disgwylir y gallai’ch anghenion newid gydag amser ac y gallai lefel y gofal a’r cymorth y bydd ei angen arnoch amrywio. Bydd y timau yn eich cynorthwyo i barhau i fyw yn eich cartref am gyfnod mor hir ag y bo modd ac am ba mor hir y bydd hyn yn bodloni eich anghenion.
Fflatiau i’w rhentu yn unig yw’r rhain.
Byddwch yn y rhan fwyaf o achosion. Byddwn yn holi sut y bydd pobl yn gofalu am eu hanifail anwes, gan gadarnhau eu bod yn deall bod rhannau mewnol ac allanol yn cael eu rhannu.
Eich cartref chi yw eich fflat – gallwch fynd a dod a chael ymwelwyr pryd bynnag y byddwch yn dymuno.