Ynglŷn â’r datblygiad hwn
Rydym yn gweithio gyda’n partneriaid adeiladu hirdymor, Jones Brothers (Henllan) Ltd, i ddatblygu 23 o gartrefi newydd ym mhentref Eglwyswrw.
Mae’r datblygiad yn cynnwys cymysgedd o
6 tŷ dwy ystafell wely
4 tŷ 3 ystafell wely
3 byngalo 1 ystafell wely
6 byngalo 2 ystafell wely
4 fflat 1 ystafell wely
Pwy fydd yn gymwys yn ôl y meini prawf Gosod ar gyfer y cartrefi yng Ngolwg y Llan?
- a) Hysbysir ymgeiswyr sydd wedi cofrestru gyda ChartrefiDewisedig@SirBenfro o’r datblygiad trwy wefan CartrefiDewisedig@SirBenfro.
- b) Ymgeiswyr y mae angen tai arnynt ac y dyfarnwyd band ARIAN, band AUR, neu gerdyn blaenoriaeth iddynt. Ymgeiswyr sy’n byw mewn tenantiaeth yn y sector preifat ac y dyfarnwyd band EFYDD iddynt.
- c) Mae’r aelwyd o’r maint cywir ar gyfer y cartref yr ymgeisir amdano.
Caiff y cartrefi eu neilltuo gan ddefnyddio’r Meini Prawf Gosod Lleol canlynol:
- a) Mae’r ymgeisydd yn byw yn ardal Cyngor Cymuned Eglwyswrw, Cilgerran, Manordeifi, Boncath, Nanhyfer neu Landudoch fel eu prif neu eu hunig gartref, ac maent wedi bod yn byw yno am y 12 mis diwethaf o leiaf, neu
- b) Nid yw’r ymgeisydd yn byw yn ardal Cyngor Cymuned Eglwyswrw, Cilgerran Manordeifi, Boncath, Nanhyfer neu Landudoch ar hyn o bryd fel eu prif neu eu hunig gartref, ond maent wedi byw yn yr ardal hon am o leiaf 5 o’r 10 mlynedd ddiwethaf, neu
- c) Mae ganddynt aelodau teuluol agos (mam-guod a thad-cuod, rhieni, brodyr neu chwiorydd, plant sy’n oedolion) sydd wedi bod yn byw yn ardal Eglwyswrw, Cilgerran, Manordeifi, Boncath, Nanhyfer neu Landudoch am o leiaf 5 mlynedd fel eu prif neu eu hunig gartref, neu
- d) Mae ganddynt blentyn sy’n aelod o’r aelwyd ac sy’n mynychu ysgol yn yr ardal, sydd wedi bod yn yr ysgol am o leiaf 12 mis, neu
- e) Maent wedi sicrhau cyflogaeth barhaol (o leiaf 16 awr yr wythnos) yn yr ardal am y 12 mis diwethaf. Gall hyn gynnwys gwaith di-dâl i’r gwasanaethau brys neu i wylwyr y glannau.
Cychwynnodd y gwaith ar y safle yn ystod yr Gaeaf 2022 a disgwylir iddo gael ei gwblhau yn ystod y Gwanwyn 2024.
Am ymholiadau ynghylch adeiladu’r cynllun hwn, cysylltwch â Ryan Parry at ryan.parry@wwha.co.uk
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau pellach am y cynllun, anfonwch e-bost at development.queries@wwha.co.uk
Am ymholiadau ynghylch adeiladu’r cynllun hwn, cysylltwch â Ryan Parry at ryan.parry@wwha.co.uk
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau pellach am y cynllun, anfonwch e-bost at development.queries@wwha.co.uk