Aberteifi
Hen Safle Ysbyty, Aberteifi
34
fflat
Swyddfeydd

Ynglŷn â’r datblygiad hwn

Rydym yn gweithio i ailddatblygu hen safle Ysbyty Aberteifi fel y porth i’r dref, gan ddwyn cartrefi ecogyfeillgar a swyddfeydd newydd i’r ardal.

Cedwir y Priordy hanesyddol fel canolbwynt y datblygiad newydd o 34 o fflatiau ecogyfeillgar sy’n defnyddio ynni mewn ffordd effeithlon, ac y byddant ar gael i bobl leol am rhent fforddiadwy.  Bydd yr ailddatblygiad yn creu caffi cymunedol yn y Priordy hefyd, ynghyd â gerddi cyhoeddus a llwybrau ar y safle,a hefyd, swyddfeydd ar gyfer ein staff, gan gynnwys canolfan ranbarthol ar gyfer ein cwmni cynnal a chadw mewnol, Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria.

Rydym yn gweithio gyda’n partner adeiladu hirdymor, T Richard Jones (Betws) Ltd, er mwyn darparu’r datblygiad newydd cyffrous hwn yn y dref.

Cychwynnwyd ar y gwaith ar y safle ym mis Rhagfyr 2021 a disgwylir iddo gael ei gwblhau erbyn diwedd 2023.

Dolen i’r stori newyddion ddiweddaraf

Lleoliad

Beth sydd gan yr ardal i'w gynnig?

Lleolir tref hynafol Aberteifi ar aber Afon Teifi.  Mae’n gweithredu fel porth ar gyfer Dyffryn Teifi a Llwybrau Arfordir Ceredigion a Sir Benfro, ac mae’n lle poblogaidd ymhlith twristiaid.

Mae’r safle yn agos i ganol y dref, lle y ceir amrywiaeth o wasanaethau lleol gan gynnwys detholiad da o siopau sy’n cynnwys Marchnad Gradd II rhestredig yn Neuadd y Dref, cyfleusterau chwaraeon a mannau addoli gan gynnwys Eglwys Santes Fair sydd gerllaw.

Mae Aberteifi yn gartref i un o’r ardaloedd bywyd gwyllt gwlyptirol gorau yng Nghymru hefyd yng Nghorsydd Teifi.

Pwy ddylwn i gysylltu â nhw am y datblygiad?

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am y gwaith adeiladu, cysylltwch ag Andrew Davies

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau pellach am y cynllun, anfonwch e-bost at development.queries@wwha.co.uk

Sut i wneud cais

Ar ôl eu cwblhau, caiff yr eiddo hyn eu neilltuo trwy gofrestr tai Cyngor Sir Ceredigion.  Cânt eu rhentu trwy gofrestr tai Cyngor Sir Ceredigion i bobl hŷn lleol yn bennaf ac i’r rhai y gallent gael budd gan gartrefi cefnogol ac sy’n cynnig mynediad hawdd.

FAQs