Mae ein staff yn cynnal Sgyrsiau Cymunedol mewn ardaloedd ar draws Cymru, ac yn gwahodd y preswylwyr sy’n byw yn yr ardaloedd hynny i ddod i gael sgwrs.
Hoffem glywed eich safbwyntiau am y pethau sy’n bwysig i chi, er enghraifft, gallai hynny fod yn rhenti, eich cartref, gwaith trwsio, y gwasanaethau yr ydym yn eu rhedeg neu’r gymuned lle’r ydych yn byw.
Dweud eich Dweud
Credwn mai’r ffordd orau i ni wneud gwelliannau a theilwra gwasanaethau, yw trwy wrando ar yr hyn y byddwch yn ei ddweud wrthym, a gweithredu ar sail yr adborth hwnnw.
Rydym wastad yn ceisio gwella’r ffordd yr ydym yn eich cynnwys wrth gynllunio darpariaeth gwasanaethau sy’n bwysig i chi. Yn ychwanegol i’r sgyrsiau y bydd ein timau yn eu cael o ddydd i ddydd yn ystod digwyddiadau ymgysylltu â’r gymuned megis sesiynau dal i fyny, cyfarfod y timau a gweithgareddau lleol, mae Sgyrsiau Cymunedol yn ffordd o ddwyn y rhain oll ynghyd i gasglu eich adborth.
Rydym yn cynnal digwyddiadau Sgyrsiau Cymunedol yn rheolaidd mewn cymunedau ar draws Cymru.
Dyma le y gallwch chi ymuno â’r sgwrs 2026
Tŷ Wilfred Brook, Caerdydd
Dydd Llun, Gorffennaf 13
Oldwell Court, Caerdydd
Dydd Gwener, Gorffennaf 17
Parc Brynach, Dinas, Sir Penfro
Dydd Iau, Gorffennaf 30
Ble rydyn ni wedi bod
Beth nesaf?
Diolch i bawb a ddaeth i’n hymweliadau cymunedol mwyaf diweddar.
Rydym wedi cofnodi eich holl adborth o’r Sgyrsiau Cymunedol a gynhaliwyd yn ddiweddar, ac rydym yn ystyried yr hyn y gallwn ei wneud i wella ein gwasanaethau.
Lle y mae materion ehangach sy’n effeithio ar sawl cymuned, byddwn yn ystyried pa newidiadau y gallwn eu gwneud i’n ffyrdd o weithio er mwyn helpu preswylwyr.
Byddwn hefyd yn adrodd yn ôl i breswylwyr sy’n byw yn y cymunedau unigol hynny, gan nodi’r hyn a glywsom a’r hyn y byddwn yn ei wneud.



