Amser i arddwyr Penarth ofyn cwestiynau
Roedd y gerddi cymunedol ymhlith y nifer o bynciau a drafodwyd pan ymwelodd ein tîm â phreswylwyr cynllun ymddeol Oak Court ym Mhenarth.
Fel rhan o’n hymgyrch Sgyrsiau Cymunedol, treuliodd staff brynhawn ym mis Ebrill yng nghynllun Bro Morgannwg yn gwrando ar farn y preswylwyr sy’n byw yno.
Beth a glywsom
Buom yn sgwrsio â phreswylwyr yn eu fflatiau, lle gwnaethant rannu eu profiadau a’u syniadau am eu cartrefi a’u cymuned.
Treulion ni amser hefyd yn yr ardd gyda rhai o’r preswylwyr sydd wedi gweithio’n galed dros nifer o flynyddoedd i greu lle hardd i bawb ei fwynhau. Rhannwyd eu syniadau ar gyfer y safle allanol gyda ni.
Roedd yr ymweliad yn gyfle i bob preswylydd ofyn cwestiynau a mynegi unrhyw bryderon, fel y gallwn ddysgu beth sy’n gweithio’n dda ac ystyried sut y gall preswylwyr helpu i lunio gwasanaethau lleol.
“Rwy’n gwerthfawrogi bod y staff wedi cymryd yr amser i ddod i siarad â’r preswylwyr. Mae’n teimlo fel bod rhywun yn gwrando arnom.”
Preswylydd Oak Court
Beth nesaf?
Byddwn yn adolygu’r holl sgyrsiau er mwyn nodi themâu ac edrych ar feysydd lle gallwn wneud gwelliannau i’n gwasanaethau. Yna byddwn yn rhoi adborth i’r preswylwyr.
