Newyddion

21/04/2026

Mynd â’n Sgyrsiau Cymunedol i Geredigion

Image of staff member talking to residents

Ym mis Ionawr, cynhaliom Sgwrs Gymunedol lwyddiannus yng Ngwar Y Garth, Penrhyn-coch, ger Aberystwyth, lle ymwelodd staff gweithredol a datblygu â phreswylwyr yn eu cartrefi newydd flwyddyn ar ôl iddynt symud i mewn.

 

Roeddem yn awyddus i sicrhau bod popeth yn eu cartrefi’n gweithio fel y dylai, yn ogystal â chlywed beth oedd yn gweithio’n dda iddynt. Cawsom hefyd gyfle i ateb unrhyw gwestiynau oedd ganddynt am eu heiddo, costau byw, a’r gymuned ehangach.

 

Fe wnaethom barcio ein fan TWW ar y safle, a’i ddefnyddio fel man cyfarfod i breswylwyr ddod draw i’n gweld. Trefnodd ein Swyddog Datblygu Cymunedol ar gyfer Gorllewin Cymru weithgareddau lliwio hefyd ar gyfer y preswylwyr iau.

 

Tra’r oeddem ar y safle dros ddau ddiwrnod, clywsom lawer o sylwadau cadarnhaol.  Dywedodd preswylwyr eu bod yn teimlo bod yna ysbryd cymunedol cryf ar yr ystâd, ynghyd â chysylltiadau trafnidiaeth ragorol. Awgrymodd rhai gwelliannau i greu llwybr troed yn arwain o’r safle i gyfleusterau cyfagos, a byddwn yn codi hyn gyda’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am briffyrdd yn yr ardal. Gofynnodd eraill i rai o’r mannau gwyrdd gael eu hail-hadu â blodau gwyllt, a gwnaethom drefniadau gyda’n contractwr i wneud hyn.

 

Mae’r holl adborth a gasglwyd yn ystod ein sgyrsiau yn cael ei adolygu er mwyn nodi themâu cyffredin ac edrych ar ba welliannau y gallwn eu gwneud i’n gwasanaethau a’n cartrefi.  Yna byddwn yn rhoi adborth i breswylwyr Gwar Y Garth.

 

Diolch i bawb a gymerodd yr amser i sgwrsio â ni yn ystod yr ymweliad.  Mae eich barn yn bwysig i ni.