Mae gwrando ar breswylwyr yn helpu i ddod â’r gymuned ynghyd yn Nhongwynlais
Dywedodd preswylwyr wrthym y byddent yn hoffi gweld mwy o weithgareddau i blant pan gynhaliwyd Sgwrs Gymunedol yng Nghatherine Drive, Tongwynlais.
Fel rhan o’r cynllun gweithredu a luniwyd yn sgil y sgwrs honno, trefnom ddiwrnod o hwyl yr haf ym mis Awst.
Buom yn gweithio gyda’n partneriaid yn Heddlu De Cymru a Chyngor Caerdydd i drefnu’r digwyddiad, a fynychwyd gan tua 50 o blant a’u rhieni. Tra roedd y plant yn mwynhau gemau, yn bownsio ar y castell neidio, yn rhoi gwisgoedd yr heddlu ymlaen ac yn dysgu am waith yr heddlu, cafodd rhieni gyfle i ddod i adnabod eu cymdogion yn well.
Dim ond un o’r gwelliannau rydym yn eu gwneud yng Nghatherine Drive oedd y diwrnod hwyl ac mae’r gymuned yn gartref i dros 100 o breswylwyr a’u teuluoedd.
Ers ein Sgwrs Gymunedol ym mis Ebrill, rydym wedi:
- gweithio gyda Thîm Gwastraff Cyngor Caerdydd ar gynllun peilot i fynd i’r afael â sbwriel a thipio anghyfreithlon ym mhen uchaf Catherine Drive. Darparwyd biniau unigol a storfeydd biniau i breswylwyr yn yr ardal hon er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r problemau hyn, ac rydym yn parhau i fonitro’r sefyllfa
- trefnu sesiynau casglu sbwriel rheolaidd gyda Chyngor Cymuned Tongwynlais
- gwneud gwelliannau i’r safle, gan gynnwys gosod leiniau sychu dillad newydd a ffensys ffin mewn rhai ardaloedd, a phenodi contractwyr newydd i dorri’r glaswellt
Ym mis Medi, mae ein staff hefyd yn bwriadu cynnwys preswylwyr mewn digwyddiad casglu sbwriel cymunedol fel rhan o ymgyrch flynyddol Tacluso Caerdydd.
Dywedodd Chris Walton, Rheolwr Tai Rhanbarthol: “Mae ein Sgyrsiau Cymunedol wedi dod â manteision gwirioneddol i’r gymuned yn Nhongwynlais.
“Drwy dreulio amser gyda phreswylwyr, siarad â nhw a gwrando ar eu barn, rydym wedi datblygu cynllun gweithredu ac yn gwneud gwelliannau ar sail eu hadborth.
“Rydym wedi gwrando ar yr hyn a ddywedodd preswylwyr wrthym ac wedi defnyddio eu hadborth i ddatblygu a gweithredu cynllun gweithredu sy’n mynd i’r afael â’r materion a godwyd ganddynt.”
Chris Walton, Rheolwr Tai Rhanbarthol
“Roedd hi’n braf gweld cymaint o breswylwyr a’u plant yn dod ynghyd ac yn mwynhau eu hunain yn ystod diwrnod hwyl yr haf. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda phreswylwyr ar brosiectau eraill i gryfhau’r gymuned.”
Dywedodd un preswylydd: “Cafodd y plant amser arbennig yn y diwrnod hwyl. Roedd hi’n braf gweld pawb allan yn mwynhau, a chefais gyfle i siarad â chymdogion nad oeddwn wedi siarad llawer â nhw o’r blaen. Daeth y digwyddiad â’r gymuned ynghyd.”
“Mae’n teimlo fel bod Tai Wales & West yn gwrando ar ein barn ac yn gwneud rhywbeth er budd pawb.”
Preswylydd Catherine Drive
- Mae Sgyrsiau Cymunedol yn un o’r ffyrdd rydym yn casglu adborth gan breswylwyr. Maent yn rhoi cyfle i breswylwyr leisio eu barn a chymryd rhan wrth lunio’r pethau sy’n bwysig iddynt yn eu cymuned leol.
