Newyddion

09/12/2022

Mythau am gyddwysiad


Efallai eich bod wedi sylwi bod diferion dŵr yn ffurfio o bryd i’w gilydd, ac yn rhedeg i lawr eich ffenestri weithiau.

Cyddwysiad yw hwn.

Mae’n digwydd pan fydd lleithder yn yr aer yn eich cartref yn cyfarfod arwyneb oer fel ffenestri a waliau.

Fel arfer, mae’r aer yn ein cartrefi yn llaith, ond gall coginio, defnyddio’r bath a’r gawod a hyd yn oed anadlu ychwanegu i’r lleithder.

Nid yw hyn yn broblem o anghenraid os bydd yn clirio yn gyflym, ond os caiff ei adael, gall arwain at dyfiant llwydni

Sut i osgoi cyddwysiad rhag cronni

Ni ddylech droi eich gwres i ffwrdd

Ceisiwch gadw eich gwres ymlaen ar osodiad isel cyson. Mae hyn yn well na chael y tymheredd yn newid rhwng bod yn oer ac yn boeth yn eich cartref.

Dylech leihau cyfanswm y lleithder yn yr aer
Pan fyddwch yn coginio, dylech gadw cloriau ar sosbenni a defnyddio lwfer eich cwcer neu’ch ffan echdynnu, os oes un gennych chi. Os nad oes gennych chi ffan yn eich cegin, agorwch y ffenestri pan fyddwch yn coginio neu’n golchi llestri.
Os ydych chi’n cael bath, cawod neu’n golchi, trowch y ffan ymlaen yn eich ystafell ymolchi neu agorwch ffenestr, os oes un gennych chi.
Gwnewch yn siŵr bod eich dyfeisiau cegin yn gweithio’n iawn ac nad ydynt yn gollwng dŵr.

Dylech osgoi sychu dillad y tu mewn
Dylech sychu dillad y tu allan pan fo modd, ac os ydych chi’n defnyddio peiriant sychu dillad, dylech sicrhau ei fod yn rhyddhau’r aer y tu allan.

Dylech gynyddu’r awyru yn eich cartref

  • Agorwch y ffenestri pan fo modd pan fyddwch gartref neu gadewch fentiau’r ffenestri ar agor, os oes rhai wedi’u gosod.
  • Agorwch ffenestr eich ystafell wely am 15 munud bob bore.
  • Dylech awyru ystafelloedd yn rheolaidd a gadael drysau ar agor er mwyn caniatáu i’r aer gylchredeg, oni bai eich bod yn coginio neu’n cael cawod.
  • Ni ddylech rwystro unrhyw fentiau eraill yn eich cartref.
  • Gwnewch yn siŵr bod aer yn gallu cylchredeg trwy adael bylchau rhwng y dodrefn a’r wal.

Cadwch olwg am unrhyw ddŵr sy’n gollwng
Os yw dŵr yn dod i mewn trwy doeon sy’n gollwng, cafnau sydd wedi’u rhwystro neu eu difrodi neu os oes dŵr yn gollwng yn eich ystafell ymolchi, dywedwch wrth ein tîm trwsio trwy ffonio 0800 052 2526 (8am-6pm o ddydd Llun i ddydd Gwener) neu ar-lein trwy droi.

Clirio cyddwysiad
Os byddwch yn sylwi ar gyddwysiad ar eich ffenestri neu’ch waliau, dylech ei glirio yn rheolaidd fel na fydd yn achosi niwed neu’n datblygu i fod yn llwydni.
Dylech sychu waliau gan ddefnyddio tywel, hancesi papur neu ddefnyddio gwesgi ar ffenestri.

Yr hyn i’w wneud os byddwch yn gweld llwydni
Dylech ei lanhau i ffwrdd yn syth er mwyn lleihau unrhyw risg i iechyd gymaint ag y bo modd, ond bydd angen i chi fwrw golwg ar y broblem sy’n achosi’r cyddwysiad hefyd, a gwella’r awyru er mwyn ei atal rhag dychwelyd. Am ragor o gyngor am y ffordd o lanhau llwydni mewn ffordd ddiogel

 

Alison Stokes

alison.stokes@wwha.co.uk 07484 911100 Alison yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer De a Gorllewin Cymru.