Newyddion

10/10/2022

Pa ddyfais sy’n defnyddio mwy o ynni nag unrhyw un arall yn eich cartref?

Wrth i brisiau nwy, olew a thrydan barhau i godi’n sylweddol, nid yw hi fyth wedi bod mor bwysig i ni ddefnyddio ynni mewn ffordd effeithlon.Gall dewis y dyfeisiau cartref mwyaf effeithlon o ran eu defnydd o ynni eich helpu i arbed ynni – ac arian – ar filiau. Fodd bynnag, mae rhai eitemau cyffredin yn y cartref yn defnyddio mwy o ynni nag eraill.

Yma, rydym yn nodi’r rhai sy’n defnyddio cyfanswm mwyaf y trydan yn y cartref, yn ôl yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni ac rydym yn cynnig ychydig gyngor am y ffordd o’u defnyddio mor effeithlon ag y bo modd.

Dyfeisiau golchi

WMae 14% o’r bil ynni cyffredin yn cael ei wario ar beiriannau golchi dillad, peiriannau golchi llestri a pheiriannau sychu dillad.

Mae’r pŵer y mae ei angen i wresogi’r dŵr y maent yn ei ddefnyddio yn golygu eu bod yn defnyddio mwy o ynni, sy’n eu gwneud yn ddyfeisiau cartref y mae wastad eisiau eu bodloni.

Gall dewis golchi dillad ar dymheredd is eich helpu I ddefnyddio llai o ynni. Gall defnyddio eich peiriant golchi dillad ar gylch 30-gradd yn lle ar dymheredd uwch, arbed arian hefyd. Ceisiwch osgoi golchi hanner llwyth er mwyn arbed dŵr.

Rhoddir yr un cyngor am eich peiriant golchi llestri: defnyddiwch y gosodiad Eco os yw’n cynnwys un a cheisiwch aros nes bydd yn llawn cyn ei ddefnyddio.

Dylech osgoi defnyddio peiriant sychu dillad: sychwch ddillad ar reseli y tu mewn pan fo modd a phan fo hynny’n ddewis diogel, neu y tu allan pan fo’r tywydd yn gynhesach, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn gadael ffenestr ar agor er mwyn awyru.

Oergell/rhewgelloedd

Mae tua 13% o fil ynni aelwydydd cyffredin yn cael ei wario ar oergelloedd a rhewgelloedd.

Mae angen i’r dyfeisiau hyn gael eu cadw ymlaen bob amser, felly maent yn defnyddio pŵer yn barhaus er mwyn cynnal tymheredd cyson.

Maen nhw ymhlith y dyfeisiau sy’n para hiraf yn eich cartrefi hefyd. Mae’r oergell-rhewgell gyffredin yn para 17 mlynedd.

Oherwydd y byddant ymlaen 24 awr y dydd, a gallent bara 17 mlynedd i chi, ceir cryn fudd
o fuddsoddi mewn un sy’n defnyddio ynni yn effeithlon. Y tro cyntaf y byddwch yn prynu
oergell neu rewgell newydd, ystyriwch yr un lleiaf sy’n gallu bodloni eich anghenion, yn
ogystal â’r un sydd wedi sicrhau’r perfformiad gorau y gallwch ei fforddio. Gall dadrewi yn rheolaidd helpu hefyd.


Electroneg

O liniaduron i setiau teledu i gonsolau gemau – rydym yn fwy dibynnol ar declynnau electronig
nag erioed, a bellach, caiff tua 6% o’n biliau ynni eu gwario arnynt.

Mae rhywfaint o’r cyngor hynaf yn berthnasol o hyd: cofiwch ddiffodd eich dyfeisiau, heb eu gadael ymlaen yn y modd gorffwys, pan fo modd. Os ydych chi’n buddsoddi mewn set deledu newydd, edrychwch am yr un sy’n defnyddio ynni yn y ffordd fwyaf effeithlon y gallwch ei fforddio, neu dewiswch sgrin o faint llai er mwyn arbed costau rhedeg.

Goleuadau

Caiff tua 5% o fil ynni cartref cyffredin ei wario ar oleuadau.

Gallwch ddefnyddio llai o ynni trwy ddisodli bylbiau halogen gyda rhai LED. Pe bai aelwyd gyffredin yn disodli’r holl fylbiau gyda rhai LED, byddai’n costio tua £160 ac yn arbed tua £55 y flwyddyn ar y biliau. Sicrhewch eich bod yn diffodd eich golau pan na fyddwch yn eu defnyddio neu pan fyddwch yn gadael ystafell. Bydd hyn yn arbed arian i chi ar eich biliau ynni blynyddol hefyd.

Coginio

Caiff tua 4% o’ch bil ynni ei wario ar ddyfeisiau cegin pwerus, gan gynnwys yr hob, y ffwrn, y tegell a’r microdon.

Mae hi’n fwy effeithlon coginio mewn microdonnau nag mewn ffyrnau, gan mai dim ond y bwyd ac nid yr aer y tu mewn y maent
yn ei wresogi. Ceisiwch osgoi gorlwytho’r tegell, gan arbed arian ar eich bil trydan.

Am ragor o gyngor, trowch at energysavingtrust.org.uk

Dan Ryan

Cyswllt: Dan.Ryan@wwha.co.uk