Cyngor am dywydd oer

Mae tywydd oer yn rhan o dywydd tymhorol arferol bob blwyddyn, ac mae’n bwysig gofalu am eich hunain a’ch cartref pan fydd yn codi.

Ceir rhai camau syml y gallwch eu cymryd i gadw eich hun yn gynnes ac i sicrhau bod eich cartref yn cael ei ddiogelu rhag amodau gwaethaf tywydd y gaeaf.

Cofiwch y dylech wastad ein ffonio ni mewn argyfwng, sef 0800 052 2526.

Sylwer bod rhywfaint o’r cynnwys fideo ar gael yn Saesneg yn unig, fel y nodir isod.

Troi unrhyw dapiau tu allan i ffwrdd

Gallai dŵr mewn tapiau a phibellau tu allan rewi yn ystod y gaeaf, gan achosi difrod a allai arwain at ddŵr yn gollwng. Cyn cyfnodau o dywydd rhew, gallwch droi’r dŵr i ffwrdd i’ch tap tu allan (os oes un gennych chi).
Yn eich cartref, dan y sinc yn y gegin fel arfer, dylech weld tap sy’n cyflenwi dŵr i’ch tap tu allan. Trowch hwn i ffwrdd ac yna ewch y tu allan i droi’r tap ymlaen i gael gwared ag unrhyw ddŵr dros ben.

Sut i ofalu am eich tap tu allan yn ystod y gaeaf (Redrow)

A yw eich gwres wedi mynd i ffwrdd? Neu a yw eich cartref yn oer hyd yn oed pan fydd eich gwres ymlaen?⁠

Gallai diffyg dŵr poeth yn eich rheiddiaduron fod yn un achos, ac mae modd trwsio hyn trwy ddilyn proses o’r enw gollwng aer o’ch rheiddiadur.

Gallai’r broblem hefyd fod oherwydd un o’r pibellau sy’n gysylltiedig â’ch boeler ac sy’n cario dŵr gwastraff fel rhan o’r broses arferol o wresogi eich cartref. Fe’i gelwir yn bibell gyddwyso ac fe allai rewi yn ystod y gaeaf.

Mae gollwng aer o’ch rheiddiaduron a dadrewi pibell gyddwyso yn ddau beth y gallwch chi eu gwneud yn hawdd yn eich cartref.

Os byddwch yn cael unrhyw broblemau neu mewn argyfwng, gallwch ein ffonio ni ar 0800 052 2526.

Sut i ollwng aer o reiddiadur

Os byddwch yn gweld bod eich cartref yn oer, ac mae eich gwres ymlaen, gallai gollwng aer o reiddiadur helpu i’w ddatrys.

Weithiau, gall rheiddiaduron fynd yn oer oherwydd bod aer yn eich system gwres canolog. Y ffordd orau o edrych i weld ai hyn sydd wedi digwydd yw edrych i weld a yw eich rheiddiadur yn oer ar y gwaelod neu yn y rhan uchaf. Byddwch yn ofalus pan fyddwch yn gwneud hyn.

Os yw, bydd angen i chi ollwng aer o’ch rheiddiadur. Mae hon yn broses syml y gallwch chi ei chyflawni eich hun er mwyn caniatáu i ddŵr poeth ddechrau cylchredeg yn eich system wresogi unwaith eto.

*Mae’r cyngor a’r fideos isod yn berthnasol os oes gennych chi chi foeler nwy yn eich cartref yn unig. ⁠Bydd angen i chi gymryd camau gwahanol os oes gennych chi Bwmp Gwres Ffynhonnell Aer*

Sut i ollwng aer o reiddiadur (British Gas) [in English]

Sut i ollwng aer o reiddiadur (eon energy) [in English]

Sut i ollwng aer o reiddiadur (Vaillant) [in English]

Os oes gennych chi Bwmp Gwres Ffynhonnell Aer yn eich cartref, gwyliwch sut i gael dŵr poeth a gwres yn ôl neu ffoniwch ni ar 0800 052 2526. ⁠ ⁠

Mewn argyfwng, os bydd angen i chi ddiffodd eich cyflenwad dŵr yn llwyr, gallwch wneud hyn trwy droi’r stop-tap i ffwrdd yn eich cartref ⁠

Sut i ddadrewi pibell gyddwyso sydd wedi rhewi

Fel arfer, mae’r bibell gyddwyso yn bibell blastig ac mae’n rhedeg o’ch boeler i system ddraenio y tu allan. Os bydd yn rhewi, gall atal y boeler rhag gweithio’n iawn ond os yw hi’n ddiogel i chi wneud hynny, gallwch ddilyn y camau hyn i’w dadrewi. ⁠[in English]

Gofalu am eich hun yn ystod y gaeaf

Mae sawl peth y gallwch eu gwneud i gadw eich hun yn gynnes, yn ffit ac yn iach yn ystod cyfnod o dywydd oer. Efallai bod cymorth ar gael gan y Llywodraeth hefyd neu yn eich ardal leol.

• Gwisgwch haenau
• Dylech fwyta bwyd da. Gall digon o ffrwythau a llysiau helpu i gadw eich lefelau egni yn uchel a chadw salwch i ffwrdd
• Cadwch yn brysur. Mae’n hawdd eistedd gartref pan fydd hi mor oer y tu allan, ond byddwch yn cael budd o symud o gwmpas a chadw’n brysur
• Trefnwch apwyntiad gyda’ch meddyg teulu i gael unrhyw frechiadau os ydych chi’n gymwys
• Holwch i weld a ydych chi’n gallu cael Taliad Tywydd Oer, Gostyngiad Cartref Cynnes neu Daliad Tanwydd Gaeaf (os nad ydych chi wedi cael un yn awtomatig) ⁠ ⁠ ⁠ ⁠

Sefydlwyd Cymru Gynnes er mwyn helpu i leddfu tlodi tanwydd yng Nghymru a chynnig cyngor a chymorth am ddim trwy gydol y flwyddyn. ⁠ ⁠

Mae gwybodaeth ar ein tudalen we am Gostau Byw hefyd. ⁠

Cadw’n ddiogel mewn amodau oer eithafol (Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr)

Diogelwch y Gaeaf (Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru)